BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

2181 canlyniadau

Mae’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws yn cau ar 31 Hydref 2020 a bydd angen i chi gyflwyno unrhyw hawliadau terfynol ar neu cyn 30 Tachwedd. Ni fyddwch yn gallu cyflwyno neu ychwanegu at unrhyw hawliadau ar ôl 30 Tachwedd 2020. O 1 Hydref, mae llywodraeth y DU wedi talu 60% o gyflogau arferol i gyflogwyr hyd at gap o £1,875 y mis am yr oriau nad oedd gweithwyr ar ffyrlo yn eu...
Mae hon yn gronfa sy’n darparu cymorth ariannol i fusnesau sy’n wynebu heriau gweithredol ac ariannol a achosir gan y cyfyngiadau symud cenedlaethol a gyhoeddwyd ar gyfer Cymru yn sgil COVID-19. Diben y gronfa yw cefnogi busnesau gyda chymorth llif arian i’w helpu i oroesi canlyniadau economaidd y cyfyngiadau sydd wedi’u rhoi ar waith. Bydd y grant yn agored i geisiadau ar 28 Hydref a bydd yn cau am 5pm ar 20 Tachwedd 2020 neu...
O 1 Ionawr 2021, ni fyddwch bellach yn gallu adnewyddu na chofrestru ar gyfer enwau parth .eu: os yw’ch sefydliad, busnes neu fenter wedi’i sefydlu yn y DU ond ddim yn yr UE/Ardal Economaidd Ewropeaidd (AAE) neu os ydych yn byw y tu allan i’r UE/AAE a ddim yn ddinesydd UE/AAE Darllenwch hysbysiad diweddaraf y Comisiwn Ewropeaidd ar enwau parth .eu. Gallwch ddim ond cofrestru neu gadw enwau parth .eu: os ydych chi’n ddinesydd UE/AAE...
Mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru eu canllawiau ar y Busnesau a mangreoedd nad ydynt yn hanfodol y mae'n rhaid eu cau yn ystod cyfnod atal byr. Mae'r canllawiau hyn yn ymwneud â chau busnesau'n unig. Mae hefyd yn nodi at ba ddibenion cyfyngedig y gellir cael mynediad at rai busnesau a mangreoedd sydd wedi cau. Mae'n ofynnol yn gyfreithiol i'r rhai sy'n gyfrifol am fangreoedd sy'n parhau i fod ar agor i'r cyhoedd, neu am...
Mae CThEM wedi nodi y bydd rhai cwsmeriaid Hunanasesu, a ddewisodd ohirio talu eu Taliad i gyfrif ym mis Gorffennaf 2020 yn sgil COVID-19, yn derbyn datganiad Hunanasesu yn dangos bod taliad yn ddyledus gyda llog. Mae CThEM wedi cadarnhau na fyddant yn codi unrhyw log taliadau hwyr na dirwyon ar y Taliad i Gyfrif a ohiriwyd ym mis Gorffennaf 2020, cyn belled â’i fod yn cael ei dalu yn llawn erbyn 31 Ionawr 2021...
Mae Llywodraeth y DU wedi diweddaru ei chanllawiau ar yr hyn sydd angen i weithredwyr cerbydau nwyddau ei wneud i gludo nwyddau ar lorïau yn rhyngwladol o 1 Ionawr 2021, gan gynnwys: Meddu ar y drwydded gweithredwr cywir Cael yr hawlenni cywir Cofrestru trelars eich cerbyd Trelars llwyth anarferol Dogfennau cofrestru cerbydau Gwirio bod HGV yn barod i groesi’r ffin Arddangos sticeri GB Yswiriant cerbyd a threlar Beth ddylech chi ei wneud os yw eich...
Mae gan gyflogwyr yr un cyfrifoldebau iechyd a diogelwch i weithwyr sy’n gweithio gartref ag unrhyw weithwyr eraill. Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi llunio canllawiau os yw’ch pobl yn gweithio o gartref. Dylech: ddarparu’r cyfarpar sydd eu hangen arnyn nhw, er enghraifft cyfrifiadur, ffôn a chyfleusterau fideo-gynadledda cadw mewn cysylltiad rheolaidd â nhw, gan sicrhau eich bod yn trafod eu llesiant Mae’r canllawiau yn egluro’r mesurau y dylech chi eu rhoi ar waith...
Bydd “cyfnod atal byr” yn cael ei gyflwyno ar draws Cymru i helpu i ddod ag achosion o’r coronafeirws o dan reolaeth unwaith eto. Golyga hyn y bydd cyfres o fesurau ar waith o 6pm ddydd Gwener 23 Hydref tan 12:01am ddydd Llun 9 Tachwedd 2020. Dim mynd allan, heblaw ar gyfer bwyd, addysg, gofal, iechyd neu waith, os na allwch weithio gartref. Dim cwrdd â phobl sydd ddim yn byw gyda chi, dan do...
Mae Llywodraeth Cymru yn galw ar gyflogwyr i ddefnyddio cyllid ychwanegol Llywodraeth Cymru i ddiogelu gweithwyr sydd mewn perygl o fod yn anghymwys ar gyfer cynlluniau cymorth cyflogau Llywodraeth y DU. Gyda’r cyfnod atal byr yn dechrau ar draws Cymru heno, mae Llywodraeth Cymru yn awr yn camu i’r adwy i ychwanegu £5 miliwn at y gronfa ddewisol o £20 miliwn a ddarperir i awdurdodau lleol i gefnogi busnesau i gadw’r gweithwyr sydd mewn perygl...
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi mwy o gymorth i fusnesau a gweithwyr oherwydd y pandemig coronafeirws, yn cynnwys: Y Cynllun Cefnogi Swyddi – am ragor o wybodaeth darllenwch y Daflen Ffeithiau Agored ar y Cynllun Swyddi Grant i bobl hunangyflogedig – am ragor o wybodaeth ewch i wefan CThEM Am ragor o wybodaeth ewch i wefan GOV.UK.

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.