Mae’r Dirprwy Brif Swyddog Meddygol, Dr Chris Jones, yn atgoffa pobl i aros gartref ac osgoi cyswllt ag eraill os ydyn nhw’n sâl ac os oes ganddyn nhw dymheredd uchel. Gall heintiau anadlol, fel y ffliw a COVID-19, ledaenu’n hawdd rhwng pobl. Mae symptomau’n amrywio o beswch parhaus, gwres neu deimlo’n oer, poenau yn y cyhyrau neu boenau nad ydyn nhw o ganlyniad i ymarfer corff, dolur gwddf, trwyn yn llawn neu’n rhedeg, dolur rhydd...