BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

2281 canlyniadau

Mae Innovate UK, fel rhan o UK Research and Innovation, yn cynnig 10 Gwobr Merched sy’n Arloesi i entrepreneuriaid benywaidd ledled y DU. Nod y gystadleuaeth hon yw dod o hyd i fenywod gyda syniadau cyffrous, arloesol a chynlluniau uchelgeisiol a fydd yn ysbrydoli eraill. Mae’r gwobrau ar gyfer sylfaenwyr, cyd-sylfaenwyr neu uwch wneuthurwyr penderfyniadau benywaidd sy’n gweithio mewn busnesau sy’n weithredol ers o leiaf blwyddyn. Rhaid i ymgeiswyr fod yn hyderus, gyda chefnogaeth gwobr...
Mae’r DU wedi gadael yr UE, ac mae’r cyfnod pontio ar ôl i Brexit orffen eleni. Gwiriwch y rheolau newydd o fis Ionawr 2021 a gweithredwch nawr. Busnesau sy’n mewnforio ac allforio nwyddau O 1 Ionawr 2021, bydd y broses ar gyfer mewnforio ac allforio nwyddau yn newid. Gwybodaeth am yr hyn sydd angen i chi ei wneud er mwyn parhau i allu: mewnforio nwyddau o'r UE allforio nwyddau i'r UE Parhau i fyw a...
Os ydych chi’n arloeswr sy’n chwilio am gefnogaeth i ddatblygu’ch busnes, ymunwch â’r Rhwydwaith Trosglwyddo Gwybodaeth am wybodaeth a digwyddiadau rhwydweithio ar-lein. Y gobaith yw codi ymwybyddiaeth ymysg cwmnïau digidol am gyllid a chyfleoedd cymorth busnes i fusnesau a sefydliadau sydd wedi’u lleoli yn y DU ledled sectorau amrywiol. Mae’r sesiynau yn cynnwys: Deallusrwydd artiffisial – 10 Medi 2020, cadwch eich lle yma Cynaliadwyedd – 22 Hydref 2020, cadwch eich lle yma Diwydiannau Creadigol –...
Gallwch ddefnyddio’r Cynllun Kickstart i greu lleoliadau swyddi newydd am gyfnod o 6 mis ar gyfer pobl ifanc sydd ar Gredyd Cynhwysol ar hyn o bryd ac sydd mewn perygl o ddiweithdra hirdymor. Mae’r lleoliadau ar agor i’r rhai rhwng 16 a 24 oed sy’n hawlio Credyd Cynhwysol ac sydd mewn perygl o ddiweithdra hirdymor. Byddant ar gael ar draws amrywiaeth o wahanol sectorau yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Bydd cyflogwyr yn cael cyllid ar...
Gall elusennau bach a grwpiau buddiant cymunedol sydd â syniadau a fydd o fudd i’w cymunedau wneud cais am hyd at £50,000 o gyllid ar gyfer prosiectau sy’n datblygu cymunedau mwy cadarn a chysylltiedig ac yn darparu adnoddau i roi mwy o annibyniaeth ariannol i bobl. Mae’r cyllid ar gael drwy Gronfa Gymunedol Aviva sydd newydd gael ei hail-lansio. Mae Aviva wedi cydweithio â’r llwyfan codi arian Crowdfunder, sy’n golygu bod ymgeiswyr yn gallu ychwanegu...
Mae Defra yn treialu Rheoliad busnes ar gyfer system TG cofrestru, gwerthuso, awdurdodi a chyfyngu ar gemegau er mwyn rheoleiddio cadwyni cyflenwi cemegau ar ôl Brexit. Mae’n chwilio am wirfoddolwyr ar gyfer cyfleoedd profi parhaus hyd at ddiwedd 2020; cynhelir y cyfleoedd hyn o bell a byddant yn helpu i wella swyddogaethau ar gyfer lansio’r gwasanaeth a gwaith datblygu ar ôl Diwrnod Un. Mae Defra yn awyddus iawn i glywed gan unigolion nad oes ganddynt...
Mae newidiadau i’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws - o 1 Medi 2020 bydd y llywodraeth yn talu 70% o gyflogau gyda therfyn uchafswm o £2,187.50 am yr oriau y mae’r gweithiwr ar ffyrlo. Bydd cyflogwyr yn ychwanegu at gyflogau gweithwyr i sicrhau eu bod yn derbyn 80% (hyd at £2,500). Mae’r terfynau yn gyfrannol i’r oriau na chawsant eu gweithio. Oni bai eich bod chi’n gwneud hawliad newydd ar gyfer gweithiwr sy’n...
Mae ceisiadau bellach ar agor i Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a rhaglenni grant newydd Llywodraeth Cymru sy'n helpu cymunedau i ofalu am y byd naturiol. Bydd y rhaglenni, sy'n werth mwy na £3miliwn, yn galluogi cymunedau lleol ledled Cymru i fod yn rhan o waith adfer a gwella natur, gan gynnwys coetiroedd. Y ddwy raglen gymunedol newydd yw: Lleoedd Lleol ar gyfer Natur – mae’r ceisiadau ar agor nawr tan 14 Hydref 2020 Coetiroedd...
Bydd sefydliadau yn y sector diwylliant a threftadaeth yn gallu gweld a ydynt yn gymwys i wneud cais am gymorth ariannol o Gronfa Adferiad Diwylliannol Llywodraeth Cymru, sy’n werth cyfanswm o £53 miliwn. Gall y sefydliadau canlynol wneud cais am gyfran o'r gronfa: lleoliadau cherddoriaeth stiwdios recordio ac Ymarfer sefydliadau ac atyniadau treftadaeth amgueddfeydd a gwasanaethau archifau achrededig llyfrgelloedd digwyddiadau a’r rheini sy’n darparu cymorth technegol ar eu cyfer sinemâu annibynnol a’r sector cyhoeddi Mae’r...
Bydd cronfa newydd gan Lywodraeth Cymru a weinyddir gan Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (CGGC) yn canolbwyntio ar leihau’r anghydraddoldeb sy’n deillio o’r pandemig coronafeirws. Wrth i Lywodraeth Cymru lacio’r cyfyngiadau symud a phobl Cymru yn symud ymlaen, mae angen i’r cyllid ymateb i heriau newydd. Bydd Cronfa Adfer y Gwasanaethau Gwirfoddol (VSRF) yn canolbwyntio ar leihau anghydraddoldebau ar draws cymdeithas o ganlyniad i bandemig Covid-19. Bydd grantiau’n cefnogi mudiadau nid-er-elw sy’n gweithio ar raddfa gymunedol...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.