BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

2341 canlyniadau

I ddiwallu anghenion elusennau bach a lleol a’r bobl maen nhw’n eu cefnogi, ar 3 Awst 2020, bydd Lloyds Bank Foundation for England and Wales yn agor cyllid newydd ar gyfer COVID-19 i gefnogi elusennau i adfer y tu hwnt i’r argyfwng sydd ohoni. Bydd y Gronfa Adfer COVID yn cynnig grant anghyfyngedig dwy flynedd o £50,000 i elusennau law yn llaw â chefnogaeth Partner Datblygu i helpu elusennau i nodi a gweithredu ar unrhyw...
Os yw’ch busnes yn cwblhau datganiadau tollau, gallwch wneud cais am grantiau i gael cyllid ar gyfer recriwtio, hyfforddiant a gwelliannau TG. Rhagor o wybodaeth isod: pwy all wneud cais ar gyfer beth mae'n rhaid i chi ddefnyddio'r grantiau symiau'r cyllid sydd ar gael beth fyddwch chi ei angen sut mae gwneud cais ar ôl i chi wneud cais sut i drin y grantiau ar gyfer trethi Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.
Mae CThEM yn cynnal gweminarau am ddim ar y cynllun ‘Bwyta Allan i Helpu Allan’, a bydd y gweminarau yn cynnwys y wybodaeth ganlynol: trosolwg o'r cynllun sut mae'r cynllun yn gweithio sefydliadau cymwys cofrestru a gwneud hawliad beth sy'n digwydd ar ôl i chi hawlio Mae nifer o ddyddiadau ac amseroedd i ddewis ohonynt, archebwch eich lle yma. Mae CThEM hefyd wedi cynhyrchu posteri, delweddau a deunyddiau hyrwyddo eraill i'w defnyddio gan sefydliadau sy'n...
Mae’r Prif Weinidog Mark Drakeford wedi datgan y newidiadau i reoliadau’r coronafeirws yng Nghymru gan ei gwneud yn haws i deuluoedd a ffrindiau gyfarfod yn yr awyr agored. O ddydd Llun 3 Awst 2020 ymlaen, bydd hyd at 30 o bobl yn cael cyfarfod yn yr awyr agored ac ni fydd plant dan 11 oed yn gorfod cadw 2m o bellter oddi wrth ei gilydd nac oddi wrth oedolion mwyach, yn unol â’r dystiolaeth wyddonol...
Mae newidiadau i’r rheolau cymorth gwladwriaethol yn golygu y gall mwy o fusnesau bach elwa nawr ar fenthyciadau o hyd at £5 miliwn dan y Cynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnes yn sgil y Coronafeirws. Yn flaenorol, nid oedd busnesau a oedd yn cael eu hystyried yn ‘gwmni mewn trafferthion’ yn gallu manteisio ar y Cynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnes yn sgil y Coronafeirws oherwydd rheolau’r UE. Gall busnesau yn y categori hwn ac sydd â...
Ar ddiwedd y cyfnod pontio, bydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno model newydd ar gyfer sut yr ymdrinnir â TAW nwyddau sy’n cyrraedd Ynysoedd Prydain o’r tu allan i’r DU. Bydd hyn yn sicrhau bod nwyddau o’r UE a gwledydd nad ydynt yn rhan o’r UE yn cael eu trin yr un fath ac nad yw busnesau’r DU yn cael eu rhoi dan anfantais gan gystadleuaeth gan fewnforion nad ydynt yn talu TAW. Am ragor...
Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £53 miliwn i helpu sector diwylliant amrywiol Cymru i ddelio gydag effeithiau pandemig y coronafeirws. Caiff y gronfa ei darparu ar y cyd â Chyngor Celfyddydau Cymru ac mae “contract diwylliannol” yn rhan greiddiol ohoni er mwyn helpu’r sector i ddod allan o’r pandemig yn gryfach nag erioed. Bydd y Gronfa Cydnerthedd Diwylliannol yn helpu i warchod sefydliadau, unigolion a swyddi yn y sector diwylliant, gan gynnwys: theatrau orielau lleoliadau...
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad ar gynigion i wahardd eitemau plastig untro amrywiol ac am glywed eich barn ar sut gall Cymru fod ar flaen y gad yn yr ymgyrch fyd-eang i fynd i’r afael â phroblem gwastraff plastig. Mae’r plastigion untro y cynghorir arnynt yn cynnwys: gwellt troellwyr ffyn cotwm ffyn balŵn platiau a chelfi cynwysyddion bwyd a diod sydd wedi’u gwneud o bolystyren wedi’i ymestyn a; chynhyrchion sydd wedi’u gwneud o blastig...
Mae arolygwyr yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn cynnal arolygiadau dirybudd mewn dinasoedd a threfi lle mae argyfwng coronafeirws, er mwyn sicrhau bod busnesau yn COVID-ddiogel. Mae bod yn COVID-ddiogel yn golygu bod angen i fusnesau roi addasiadau yn y gweithle ar waith, bod yn ymwybodol o’r canllawiau diweddaraf a rhoi mesurau ar waith i reoli'r risg a diogelu gweithwyr ac eraill. Mae camau ymarferol y gall busnesau eu cymryd, gan gynnwys: cam 1...
O 1 Awst 2020 bydd newidiadau yn effeithio ar y grant y gall cyflogwyr ei hawlio drwy’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws. Bydd gofyn i gyflogwyr dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol a phensiwn ar gyfer gweithwyr sydd ar ffyrlo. Bydd y gweminar ‘Ymestyn y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws a ffyrlo hyblyg’ yn cynnig: Trosolwg o’r cynllun, gan gynnwys ffyrlo hyblyg Enghreifftiau o sut i gyfrifo’r swm y gallwch chi ei hawlio...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.