BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

2401 canlyniadau

Mae’r Gronfa wedi’i llunio i gefnogi busnesau, mentrau cymdeithasol ac elusennau nad ydyn nhw’n gymwys ar gyfer cynlluniau cymorth grant eraill nad oes angen eu had-dalu oherwydd COVID-19 gan Lywodraeth Cymru. Gall busnesau cymwys hawlio hyd at: £10,000 ar gyfer microfusnesau £100,000 ar gyfer busnesau bach a chanolig £690,000 ar gyfer busnesau mawr Mae’r gronfa ar agor i geisiadau tan 5yp 10 Gorffennaf 2020 . I gael rhagor o wybodaeth ewch i tudalen COVID-19: Cymorth...
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ‘Grant Busnesau Newydd’ i gynorthwyo busnesau newydd yng Nghymru wrth ymdrin ag effaith ddifrifol y Coronafeirws. Er mwyn bod yn gymwys i dderbyn y ‘Grant Busnesau Newydd’ o hyd at £2,500, rhaid i fusnesau: fod heb dderbyn arian o’r Gronfa Cadernid Economaidd na’r Grant Ardrethi Annomestig fod wedi’u sefydlu rhwng 1 Ebrill 2019 ac 1 Mawrth 2020 a heb fod yn gymwys ar gyfer y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig...
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y cam cyntaf o gynlluniau i ailagor barrau, bwytai a caffis sydd â mannau awyr agored, yn dilyn adolygiad cyflym o’r sector. Gwneir penderfyniad terfynol ynghylch ailagor yn yr adolygiad nesaf o’r Rheoliadau Coronafeirws ar 9 Gorffennaf, a bydd yn dibynnu ar a yw nifer yr achosion o’r coronafeirws yn parhau i ostwng. Gwneir penderfyniadau ynghylch ailagor y sector o dan do maes o law, a bydd llawer yn dibynnu...
Mae VisitEngland mewn partneriaeth â sefydliadau croeso cenedlaethol Cymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban wedi lansio nod defnyddwyr safonol i’r diwydiant ledled y DU, fel arwydd o hyder i’r maes ymwelwyr wrth i’r sector ddechrau ailagor unwaith eto. Mae arwyddnod ‘Barod Amdani' yn golygu bod busnesau’n gallu dangos eu bod nhw’n dilyn canllawiau iechyd perthnasol y llywodraeth ac iechyd cyhoeddus, wedi cynnal asesiad risg COVID-19 ac wedi sicrhau bod y prosesau gofynnol ar waith ganddynt. I...
Mae’r Gronfa Benthyciadau Gwydnwch ac Adferiad yn gronfa ar gyfer mentrau cymdeithasol ac elusennau sy’n gwella bywydau pobl ledled y DU sy’n profi tarfu ar eu model busnes arferol o ganlyniad i COVID-19. Fe’i sefydlwyd i wneud cynllun presennol Llywodraeth y DU, Cynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnes yn sgil y Coronafeirws (CBILS) yn fwy hygyrch i elusennau a mentrau cymdeithasol. Mae’r Gronfa Benthyciadau Gwydnwch ac Adferiad wedi’i hanelu at y sefydliadau hynny sy’n wynebu problem...
Yng Nghymru a Lloegr, bydd newidiadau dros dro yn cael eu cyflwyno i'r deddfau trwyddedu er mwyn caniatáu i eiddo trwyddedig werthu alcohol i'w yfed oddi ar y safle. Mae'r Bil Busnes a Chynllunio yn cyflwyno nifer o fesurau brys i helpu busnesau i fynd yn ôl i weithio a llwyddo yn yr amgylchiadau newydd a heriol hyn, drwy gael gwared ar rwystrau tymor byr a allai greu trafferth. Bydd y Bil yn helpu busnesau...
Ymunwch â gweminar ryngweithiol wedi’i gwesteio gan ELITE, rhwydwaith byd-eang sy’n helpu cwmnïau uchelgeisiol i ehangu a chael gafael ar gyllid. Fel rhan o’r weminar, byddwch yn meithrin methodoleg ansoddol ar gyfer asesu effaith COVID-19 ar eich busnes. Byddwch hefyd yn cael gafael ar offer ymarferol i asesu cyfleoedd twf a chreu cynllun gwydnwch, er mwyn helpu i adeiladu busnes cynaliadwy i’r dyfodol. Cynhelir y weminar ddydd Mercher 15 Gorffennaf 2020 rhwng 9am ac 11am...
Bydd y sioe rithwir nid yn unig yn cynnig llwyfan i bartneriaid gynnal seminarau a sesiynau holi ac ateb byw, ond bydd yn canolbwyntio hefyd ar addysgu’r cyhoedd ynglŷn ag amaethyddiaeth, cynnyrch Cymreig a’r amgylchedd. Bydd yn arddangos nifer o unigolion sy’n arbenigwyr yn eu maes i annog ymroi i sgil newydd neu arfer techneg newydd a fydd yn fodd i grefft draddodiadol barhau i fyw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Am ragor o wybodaeth ewch...
Mae prentisiaeth yn ‘Ddewis Doeth’ sydd wedi’i greu o gwmpas anghenion y cyflogwr a gall helpu i weddnewid eich busnes trwy gynnig ffordd i fanteisio ar dalent newydd ffres, sy’n meddu ar sgiliau’r sector. Mae prentisiaethau yn parhau i chwarae rôl hanfodol bwysig yn: darparu’r sgiliau o ansawdd uchel sydd eu hangen ar gyflogwyr helpu busnesau ar bob lefel cynnig ffordd i gyflogwyr adfywio, ehangu sicrhau cynaliadwyedd drwy roi hwb o dalent ffres gwella sgiliau...
Bydd profion MOT gorfodol yn cael eu hailgyflwyno o 1 Awst 2020 wrth i gyfyngiadau COVID-19 godi bob yn dipyn. Oherwydd achosion o'r coronafeirws, ym mis Mawrth cafodd gyrwyr ganiatâd i gael eu heithrio rhag profion MOT am 6 mis er mwyn helpu i arafu lledaeniad y firws. Fodd bynnag, gan fod y cyfyngiadau'n cael eu llacio, mae'n rhaid i yrwyr â char, beic modur neu fan sydd angen prawf MOT o 1 Awst ymlaen...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.