BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

251 canlyniadau

Merthyr Tydfil Labour Club
Nid anifeiliaid anwes yw cŵn cymorth ac anogir busnesau i ddiwygio unrhyw bolisi "dim cŵn" i un sy'n caniatáu mynediad i gŵn cymorth. Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi cynhyrchu canllaw i helpu busnesau twristiaeth groesawu pobl sydd â gofynion mynediad. Mae'n esbonio beth yw eich dyletswyddau cyfreithiol i berchnogion cŵn cymorth ac mae'n cynnwys rhai cwestiynau cyffredin. Darllenwch y canllaw yma: Cymryd yr awenau: canllaw i groesawu cwsmeriaid a chŵn cymorth ganddynt |...
0:30
Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi Heddiw (29 Awst 2023), cyhoeddodd Llywodraeth y DU Model Gweithredu Targed y Ffin newydd sy’n nodi’r dull y byddwn yn ei ddefnyddio yn y dyfodol o ran rheolaethau diogelwch (a fydd yn berthnasol i bob math o allforion) The Border Target Operating Model: August 2023 - GOV.UK (www.gov.uk) a rheolaethau iechydol a ffytoiechydol (a fydd yn berthnasol i fewnforio anifeiliaid byw, cynhyrchion egino, cynhyrchion anifeiliaid, planhigion a chynhyrchion planhigion)...
Mae Gwobrau Twristiaeth Go North Wales yn rhoi cyfle i ni ddathlu busnesau twristiaeth a lletygarwch gorau Gogledd Cymru a'r cyfraniad gwerthfawr y maent yn ei wneud i'r economi ymwelwyr sy'n tyfu. Os ydych chi'n ymwneud â’r diwydiant twristiaeth yn y rhanbarth, yna mae'r gwobrau hyn ar eich cyfer chi! Dyma’r categorïau eleni: Gwesty Mawr y Flwyddyn Go (50 a mwy o ystafelloedd) Gwesty Bach y Flwyddyn Go (50 ystafell neu lai) Gwely a Brecwast...
Handshake, business deal
Mae trethi amgylcheddol yn annog eich busnes i weithredu mewn ffordd sy'n fwy ecogyfeillgar. Mae trethi a chynlluniau ar gyfer gwahanol fathau a meintiau busnes. Efallai y cewch ryddhad neu gael eich eithrio rhag rhai trethi, er enghraifft: rydych chi'n defnyddio llawer o ynni oherwydd natur eich busnes rydych chi'n fusnes bach nad yw'n defnyddio llawer o ynni rydych chi'n prynu technoleg ynni-effeithlon i'ch busnes Gallwch dalu llai o dreth drwy wneud cais am gynlluniau...
Mae Llywodraeth Cymru eisiau eich barn ar ein strategaeth wres i Gymru. Ein nod yw datblygu system wres wedi’i datgarboneiddio sy'n cyflawni ein huchelgeisiau sero net. Rydym yn ymgynghori ar 6 amcan: Ein fframwaith galluogi - cefnogi pontio teg. Ein rhwydweithiau ynni - llunio dyfodol y cyflenwad gwres. Ein cartrefi - cynhesrwydd fforddiadwy i bawb. Ein busnes - cefnogi ein heconomi leol i ffynnu. Ein diwydiant - meithrin arloesedd a buddsoddiad. Ein gwasanaethau cyhoeddus -...
senior person trying to use a laptop
Mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru eu ‘Canllaw i waith teg’. Mewn gwaith teg, bydd amodau penodol yn amlwg, sy’n golygu bod gweithwyr yn cael eu gwobrwyo, eu clywed a’u cynrychioli mewn ffordd deg, bod eu sefyllfa yn ddiogel, a'u bod yn gallu gwneud cynnydd mewn amgylchedd iach a chynhwysol, lle mae hawliau yn cael eu parchu. Nod y canllaw hwn yw helpu pobl i ddeall: beth mae gwaith teg yn ei olygu yn ymarferol pam...
Social Entrepreneur Network
Yn barod i leihau eich gwastraff? Mae #WythnosDimGwastraff, rhwng 4 a 8 Medi 2023, yn ymgyrch ymwybyddiaeth flynyddol ar lawr gwlad sydd wedi ennill gwobrau ac yn cael ei chynnal ar-lein ac ar lawr gwlad. Mae'n helpu deiliaid tai, busnesau, sefydliadau, ysgolion, prifysgolion a grwpiau cymunedol i leihau gwastraff tirlenwi fel y gallwch arbed arian, cadw adnoddau a diogelu'r amgylchedd. Darganfyddwch sut gall eich busnes gymryd rhan a chael mynediad at adnoddau am ddim drwy...
International Women's Day 2024 Event
Dechreuodd y cynllun teithio am ddim ar 26 Mawrth 2022 a bydd yn para tan 31 Mawrth 2024. Mae trefniadau ar gyfer ar ôl 31 Mawrth 2024 yn cael eu hystyried. Mae’r cynllun yn caniatáu teithio diderfyn ar: y rhan fwyaf o gwasanaethau bysiau lleol gwasanaethau trenau Trafnidiaeth Cymru ledled Cymru gwasanaethau bysiau a threnau Trafnidiaeth Cymru sy’n dechrau AC yn gorffen yng Nghymru Mae’r cynllun ar gael i ffoaduriaid sy’n teithio i Gymru i...
Engineers on a construction site
Mae Cronfa Datblygu Media Cymru yn cynnig hyd at £50,000 i unigolion a busnesau yng Nghymru ymchwilio a datblygu prosiectau arloesol sy’n dangos potensial clir ar gyfer cynnyrch, profiad neu wasanaeth diriaethol yn sector y cyfryngau. Mae Media Cymru eisiau ariannu syniadau sydd â manteision economaidd hirdymor i sector y cyfryngau ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd neu Gymru. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn prosiectau sy’n canolbwyntio ar: Cynhyrchu rhithwir Cynnwys sy’n gysylltiedig â chreu lleoedd a thwristiaeth...
Mae rhifyn mis Awst o Fwletin y Cyflogwr yn rhoi’r holl ddiweddariadau a chanllawiau diweddaraf gan CThEF i gynorthwyo cyflogwyr, gweithwyr proffesiynol cyflogres ac asiantau. Mae’r rhifyn hwn yn cynnwys diweddariadau pwysig ynghylch y canlynol: rhyddhad treth ar gyfraniadau cyflogai at gynlluniau pensiwn cofrestredig cywiro camgymeriadau cyflogres ar gyfer blwyddyn dreth gynharach yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol helpu cwsmeriaid i gadw’n glir o gynlluniau arbed treth helpu eich cyflogeion newydd i gael eu talu’n gywir y...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.