BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

2431 canlyniadau

Ar hyn o bryd, mae’r Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig drwy gyfnod Coronafeirws yn caniatáu i chi hawlio grant trethadwy gwerth 80% o’ch elw masnachu misol, i’w dalu mewn un taliad unigol i gwmpasu gwerth 3 mis o elw, wedi’i gapio ar gyfanswm o £7,500. Os ydych chi’n gymwys, mae’n rhaid i chi wneud cais am y grant cyntaf ar neu cyn 13 Gorffennaf 2020. Mae’r cynllun hwn yn cael ei ymestyn, cliciwch yma i...
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno Profi, Olrhain, Diogelu er mwyn atal lledaeniad yr haint, olrhain y feirws a diogelu ein cymunedau. Mae profi gweithwyr hanfodol yn allweddol i lwyddiant y dull hwn o weithredu ac i barhad busnes er mwyn galluogi gweithwyr hanfodol i ddychwelyd i’r gwaith yn gyflymach ac yn fwy diogel. Mae Llywodraeth Cymru wedi creu asedau i’ch helpu i gyfleu’r neges hon i’ch gweithwyr hanfodol. Yn y pecyn cymorth hwn fe welwch...
Bydd Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI) yn cynorthwyo cynigion campus sy’n para hyd at 18 mis a fydd yn bodloni o leiaf un o’r canlynol: cynnig ymchwil neu arloesedd newydd gyda llwybr effaith clir sydd â’r potensial (o fewn cyfnod y dyfarniad) i wneud cyfraniad sylweddol at ddeall ac ymateb i’r pandemig Covid-19 a’i effeithiau cynnig sy’n cynorthwyo’r gwaith o weithgynhyrchu a/neu fabwysiadu’n ehangach ymyrraeth sydd â photensial sylweddol cynnig sy’n casglu data...
Mae Diwrnod Aer Glân Cymru, a gyllidir gan Lywodraeth Cymru, yn rhan o ymgyrch llygredd aer fwyaf y DU ac ymgyrch codi ymwybyddiaeth o ansawdd aer fwyaf Cymru. Cynhelir Diwrnod Aer Glân fel arfer ar y trydydd dydd Iau ym mis Mehefin. Eleni, yn sgil COVID-19, cynhelir y Diwrnod Aer Glân ar 8 Hydref 2020. Mae sawl ffordd o gymryd rhan a gallwch lawrlwytho adnoddau am ddim ar gyfer eich gweithle, grŵp cymunedol neu ysgol...
Bydd y Bil Ansolfedd a Llywodraethu Corfforaethol yn rhoi diwygiadau i’r fframwaith ansolfedd a llywodraethu corfforaethol ar waith, ynghyd â mesurau dros dro i gefnogi masnachu parhaus drwy’r argyfwng COVID-19. Bydd y Bil yn helpu cwmnïau drwy: roi gofod anadlu iddyn nhw yng nghyfnod ansicr coronafeirws sicrhau eu bod yn cael eu diogelu dros dro rhag gweithredu gan gredydwyr yn ystod yr argyfwng coronafeirws ysgafnhau’r pwysau ar gyfarwyddwyr er mwyn iddyn nhw allu canolbwyntio ar...
Cynhelir Awr Hapus Busnesau Bach bob prynhawn Gwener am 12pm ar dudalen Facebook Small Business Saturday. Bydd Small Biz yn clodfori busnesau bach gwych ledled y DU sy’n gwneud pethau gwych yn ystod y cyfnod anodd hwn, a hefyd yn rhoi gwobrau busnesau bach. Sut mae cymryd rhan I gymryd rhan yn y gystadleuaeth, ewch draw i dudalen Facebook Small Biz fore Gwener a theipio’r frawddeg ddyddiol ar neges y gystadleuaeth cyn 11am. Yna dewch...
Ydych chi am gael y cyfle i sicrhau contract gyda Trenau Trafnidiaeth Cymru (TTrC)? Ydych chi am gael eich cynnyrch ar y farchnad, neu ar farchnad ehangach? Os ydych chi wedi ateb Ydym i’r cwestiynau hyn, yna beth am wneud cais am y rhaglen cyflymu arloesi am ddim a allai gynnig cyfle i chi: sicrhau contract gwaith gyda TTrC sicrhau cyllid i gefnogi datblygiad eich datrysiad datblygu ac ehangu eich busnes ennill cyfran o £15,000...
Ar ddiwedd y cyfnod pontio, pan ddaw Protocol Gogledd Iwerddon i rym bydd newidiadau yn y ffordd o symud nwyddau rhwng Prydain a Gogledd Iwerddon. I fusnesau gael clywed am y newidiadau diweddaraf, bydd angen iddynt lenwi’r holiadur Protocol Gogledd Iwerddon ar y sgrin, ei gadw, a’i e-bostio at: hmrctraders@hmrc.gov.uk
Sut gall darparwyr gofal plant ddarparu gofal o dan gynllun cymorth gofal plant y coronafeirws newydd. Mae Cynnig Gofal Plant Cymru, sy'n darparu hyd at 30 awr o addysg gynnar a gofal plant a ariennir gan y llywodraeth i blant 3 a 4 oed o deuluoedd cymwys, ar gau i blant newydd ar hyn o bryd. O wneud hyn, mae modd defnyddio’r cyllid i gefnogi gweithwyr allweddol gyda’u costau gofal plant a chefnogi plant agored...
Yn dilyn cyfarfod gyda’r Cyd-bwyllgor Ymadael ar 12 Mehefin 2020, mae’r DU wedi hysbysu’r UE yn ffurfiol na fydd yn derbyn nac yn ceisio estyniad i’r Cyfnod Pontio. Gan gydnabod effaith y coronafeirws ar allu busnesau i baratoi, bydd y DU yn cyflwyno rheolaethau ffiniau newydd mewn tri chyfnod hyd at 1 Gorffennaf 2021. O fis Ionawr 2021: Bydd angen i fasnachwyr sy’n mewnforio nwyddau safonol, gan gynnwys popeth o ddillad i offer electronig, baratoi...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.