BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

2451 canlyniadau

Bydd cyflwyno’r tâl rifersiwn domestig ar gyfer gwasanaethau adeiladu yn cael ei ohirio am gyfnod o 5 mis o 1 Hydref 2020 tan 1 Mawrth 2021 oherwydd effaith y pandemig coronafeirws ar y sector adeiladu. Hefyd, bydd diwygiad i’r ddeddfwriaeth wreiddiol, a osodwyd ym mis Ebrill 2020, i’w gwneud yn ofyniad i fusnesau gael eu heithrio rhag y tâl rifersiwn gan eu bod yn ddefnyddwyr neu’n gyflenwyr cyswllt, a bydd rhaid iddynt hysbysu eu hisgontractwyr...
Os ydych chi erioed wedi breuddwydio am ddechrau eich busnes eich hun, mae’r gyfres hon o sesiynau ar-lein awr o hyd i chi. Mae pynciau’r gweminarau Sylfaenwyr Busnes Benywaidd yn cynnwys: rhwydweithio effeithiol – 24 Mehefin am 12pm - cofrestrwch yma brandio - 8 Gorffennaf am 12pm - cofrestrwch yma hanfodion busnes - 22 Gorffennaf am 12pm - cofrestrwch yma Ewch i wefan Chwarae Teg am y wybodaeth ddiweddaraf am eu prosiectau a’u hymgyrchoedd cyfredol.
Mae adnodd ‘Health and Safety made simple’ yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn darparu canllawiau ar ddyletswyddau sylfaenol pob busnes, er mwyn ei gwneud yn haws i chi gydymffurfio â’r gyfraith a rheoli iechyd a diogelwch yn y gweithle. Mae’n cynnig canllawiau cam wrth gam ar bynciau iechyd a diogelwch, gan gynnwys: cymorth cyntaf yn y gwaith darparu cyfleusterau addas yn y gweithle rhoi gwybod am ddamweiniau a salwch coronafeirws I gael rhagor o...
Mae’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) yn darparu’r newyddion diweddaraf i fusnesau, cymdeithasau masnach, cyrff cynrychiolwyr busnes a chyfryngwyr busnes, tra bod y DU mewn cyfnod pontio ac wrth i’’r DU a’r UE drafod trefniadau ychwanegol. Bydd y rheolau presennol ar fasnach, teithio a busnes ar gyfer y DU a’r UE yn parhau’n gymwys yn ystod y cyfnod pontio. Bydd rheolau newydd yn dod i rym ar 1 Ionawr 2021. Mae diweddariadau i...
Mae Rhaglen y Sefydliad Technoleg Awyrofod (ATI) yn cynrychioli buddsoddiad o £3.9 biliwn ar y cyd rhwng y llywodraeth a diwydiant i gynnal a datblygu sefyllfa gystadleuol y DU ym maes awyrofod sifil. Mae’r rhaglen yn cael ei chydlynu a’i rheoli gan: Yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) Innovate UK, rhan o UK Research and Innovation Y Sefydliad Technoleg Awyrofod Cystadleuaeth mynegiant o ddiddordeb yw hon. Mae 3 cham a bydd yr holl...
Ydych chi’n rhedeg busnes bach yng Nghymru? Hoffech chi wybod sut mae eich aeddfedrwydd digidol yn cymharu â busnesau eraill yng Nghymru? Mae'r Uned Ymchwil i Economi Cymru (WERU) Ysgol Busnes Caerdydd yn cynnal astudiaeth i effaith band eang ar berfformiad busnesau yng Nghymru. Mae Cymru, fel y mwyafrif o genhedloedd eraill, yn mynd drwy gyfnod o drawsnewid cyflym o ganlyniad i bandemig COVID-19 dros y misoedd diwethaf. Felly mae technolegau digidol bellach yn llawer...
Gall busnesau wirio nawr ydyn nhw’n gymwys i wneud cais am gymorth ariannol o gam nesaf Cronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru. Mae’r Gronfa wedi’i llunio i gefnogi busnesau, mentrau cymdeithasol ac elusennau nad ydyn nhw’n gymwys ar gyfer cynlluniau cymorth grant eraill nad oes angen eu had-dalu oherwydd COVID-19 gan Lywodraeth Cymru. Gall busnesau cymwys hawlio hyd at: £10,000 ar gyfer microfusnesau £100,000 ar gyfer busnesau bach a chanolig £690,000 ar gyfer busnesau mawr Mae’r...
Mae Llywodraeth Cymru yn dilyn cyngor diweddaraf Sefydliad Iechyd y Byd ac yn argymell y dylai pobl yng Nghymru wisgo gorchuddion wyneb tair haen mewn sefyllfaoedd lle nad yw’n bosibl cadw pellter cymdeithasol. Mae'r dystiolaeth yn glir mai cadw pellter o 2 fetr a sicrhau hylendid dwylo da yw’r ffordd fwyaf effeithiol o ddiogelu eich hun ac eraill rhag dal coronafeirws, ond mae’r canllawiau diweddaraf gan Sefydliad Iechyd y Byd yn dweud y gallai gorchuddion...
Mae’r Comisiynydd Busnesau Bach yn cynorthwyo busnesau i ddatrys anghydfodau ynghylch materion talu hwyr ac annheg ac yn darparu cyngor, gan gynnwys ar sut i weithredu os oes taliad yn ddyledus. Gan fod llawer o berchnogion busnes wedi’u heffeithio’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol gan Covid-19, mae’n bwysicach nag erioed sicrhau bod busnesau bach yn cael eu talu’n brydlon. Mae llawer o fusnesau bach yn gofyn am gymorth, gydag anghydfodau ynghylch taliadau hwyr neu mewn rhai achosion...
Mae cyflogwyr yn wynebu amgylchiadau digynsail wrth ymateb i goronafeirws. Er bod sefyllfaoedd gweithio wedi newid o bosibl, dydy dyletswyddau cyflogwyr i wneud addasiadau rhesymol ar gyfer gweithwyr anabl neu’r rhai sydd â chyflyrau iechyd hirdymor ddim wedi newid. Mae canllawiau'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn rhoi cyfarwyddiadau syml i gyflogwyr ar yr addasiadau y mae’n rhaid iddyn nhw eu gwneud a beth i’w wneud os nad yw addasiadau yn bosibl. Am ragor o...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.