news and blogs Archives
2491 canlyniadau
Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth wedi cyhoeddi canllawiau ar sut dylai cyflogwyr drafod data os ydyn nhw’n penderfynu profi gweithwyr am Covid-19. Mae’r canllawiau’n cynnwys: Ar ba sail gyfreithiol y galla i brofi gweithwyr? Sut galla i ddangos bod ein dull o brofi yn cydymffurfio â’r gyfraith diogelu data? Oes hawl gen i gadw rhestrau o weithwyr sydd â symptomau neu sydd wedi’u profi’n bositif? Er yn debyg, mae amrywiadau yn null Llywodraeth y DU a’r...
Smart yw’r enw newydd ar raglen ‘Cyllid grant agored’ Innovate UK. Mae Innovate UK, rhan o UK Research and Innovation, yn buddsoddi hyd at £25 miliwn yn y syniadau arloesol neu chwyldroadol newydd gorau, sy’n fasnachol hyfyw. Rhaid i bob cynnig ganolbwyntio ar fusnes. Gall ceisiadau ddod o unrhyw faes o dechnoleg a chael eu cymhwyso i unrhyw ran o’r economi. Dyma rai meysydd posib, ond nid yw’r grantiau wedi’u cyfyngu i’r rhain: y celfyddydau...
Mae’r Rhwydwaith yn defnyddio arbenigedd treiddgar sector i greu cysylltiadau pwerus ar draws sectorau, ardaloedd a setiau sgiliau i sbarduno newid drwy arloesi ac mae wedi sefydlu hyb Covid-19 sy’n cynnwys gwybodaeth am: gyllid digwyddiadau ar-lein mentrau ac adnoddau cyfeirio busnesau canllawiau (gan gynnwys rheoleiddio) manylion cynnyrch ar gyfer cyfarpar fel peiriannau anadlu, cyfarpar diogelu personol a phecynnau profi Ewch i hyb Covid-19 y Rhwydwaith Trosglwyddo Gwybodaeth am ragor o wybodaeth.
Bydd busnesau yn gallu manteisio ar fenthyciadau mwy o dan y Cynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnes yn sgil y Coronafeirws (CLBILS). Cynyddir uchafswm maint y benthyciad sydd ar gael o dan y cynllun o £50 miliwn i £200 miliwn i helpu i sicrhau bod gan y cwmnïau mawr hynny nad ydynt yn gymwys ar gyfer Cyfleuster Ariannu Corfforaethol Covid-19 (CCFF) Banc Lloegr ddigon o gyllid i ddiwallu anghenion llif arian yn ystod cyfnod yr argyfwng...
Mae gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth hyb gwybodaeth coronafeirws i helpu unigolion a sefydliadau i ddod i ddeall diogelwch data. Byddwn yn ychwanegu gwybodaeth newydd a pherthnasol at yr hyb wrth i’r pandemig barhau. Os na allwch ddod o hyd i’r ateb i’ch ymholiad ar yr hyb, gallwch gysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth ar 0303 123 1113. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi penderfyniadau allweddol y mae wedi’u gwneud mewn perthynas â chynllunio’r Dreth Deunydd Pacio Plastig o ystyried ymatebion rhanddeiliaid i’r ymgynghoriad blaenorol yn 2019. Cyfradd y dreth deunydd pacio plastig fydd £200 y dunnell o ddeunydd pacio plastig sy’n cynnwys llai na 30% o blastig wedi’i ailgylchu a bydd de-minimis blynyddol o 10 tunnell na fydd yn destun treth i fusnesau, er mwyn sicrhau nad yw’r busnesau lleiaf yn cael...
Bydd Cronfa’r Dyfodol yn darparu benthyciadau gan y llywodraeth i gwmnïau sydd wedi’u lleoli yn y DU, a fydd yn amrywio o £125,000 i £5 miliwn, yn amodol ar gyllid cyfatebol o leiaf gan fuddsoddwyr preifat. Gallai’r benthyciadau trosi hyn fod yn opsiwn addas i fusnesau sy’n dibynnu ar fuddsoddiadau ecwiti ac sy’n methu cael mynediad at y Cynllun Benthyciadau Tarfu ar Fusnes yn sgil y Coronafeirws. Bydd y gronfa yn cael ei ddarparu mewn...
Gall y gorchymyn i aros gartref achosi gorbryder i’r rhai sy’n profi neu’n teimlo eu bod mewn perygl o gam-drin domestig. Fel cyflogwr, gallwch wneud cyfraniad pwysig tuag at sicrhau staff y gallant adael eu cartrefi os ydyn nhw’n dioddef cam-drin domestig a bod cymorth ar gael, gan gynnwys cymorth ar-lein, llinellau cymorth, llochesi a’r heddlu. Gall Byw Heb Ofn gynnig cymorth a chyngor i: unrhyw un sy’n profi cam-drin domestig unrhyw un sy’n gwybod...
Mae Rhaglen Cymorth Cymunedol C)VID-19 100x100 Barclays yn gwneud 100 rhodd o £100,000 yr un i elusennau yn y DU sy’n gweithio i gynorthwyo cymunedau bregus sy’n cael eu heffeithio gan COVID-19, a’r caledi cymdeithasol ac economaidd cysylltiedig a achosir gan yr argyfwng. Bydd y rhaglen yn canolbwyntio ar gefnogi partneriaid elusennol sy’n diwallu anghenion uniongyrchol pobl yn ein cymunedau, gan gynnwys teuluoedd ar incwm isel, y rhai sy’n wynebu caledi, pobl hŷn wedi’u hynysu...
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi canllawiau ar sut mae hawliau gwyliau a thâl yn gweithredu yn ystod y pandemig coronafeirws, lle mae’n wahanol i’r canllawiau hawliau gwyliau a thâl safonol. Eu nod yw helpu cyflogwyr ddeall eu rhwymedigaethau cyfreithiol, o ran gweithwyr: sy’n parhau i weithio sydd wedi’u rhoi ar ffyrlo fel rhan o gynllun y llywodraeth sef Y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws Gweithwyr ar ffyrlo Mae gweithwyr sydd ar ffyrlo...
Pagination
- Previous page
- Page 249
- Next page