BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

401 canlyniadau

Bellach, mae gan drethdalwyr tan 5 Ebrill 2025 i lenwi bylchau yn eu cofnod Yswiriant Gwladol o fis Ebrill 2006, a allai gynyddu eu Pensiwn y Wladwriaeth – sef estyniad o bron i 2 flynedd – yn ôl cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU. Mae ymestyn y terfyn amser ar gyfer cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol tan 2025 yn golygu bod gan bobl fwy o amser i ystyried yn llawn os yw talu cyfraniadau gwirfoddol yn briodol...
Sylfeini dylunio rownd 2: ymatebol Gall sefydliadau sydd wedi’u cofrestru yn y Deyrnas Unedig wneud cais am gyfran o hyd at £4 miliwn ar gyfer prosiectau dylunio sy’n canolbwyntio ar bobl ac sy’n ymwybodol o systemau i ddylanwadu ar eu gweithgarwch ymchwil a datblygu yn y dyfodol. Y dyddiad cau yw 26 Gorffennaf 2023. Dysgwch fwy a chyflwynwch gais Design foundations round two: responsive – UKRI Ymchwil a datblygu cydweithredol rhwng India a’r Deyrnas Unedig...
Datganiad Ysgrifenedig: Vaughan Gething, Weinidog yr Economi, Jane Hutt, Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip. Ym mis Chwefror 2023, comisiynodd Llywodraeth y DU y Pwyllgor Cynghori ar Fudo i adolygu’r rhestr o alwedigaethau lle ceir prinder, fel rhan allweddol o bolisi cyffredinol Llywodraeth y DU ar gyfer mewnfudo. Fel rhan benodol o’r adolygiad hwn, gofynnodd Llywodraeth y DU i’r Pwyllgor adolygu’r rhestr o alwedigaethau cymwys, gan ei gwneud yn glir na fyddai unrhyw alwedigaeth...
Mae Wythnos Ffasiwn Cynaliadwy yn wythnos o weithgarwch cymunedol, gan gasglu pobl ynghyd i ysbrydoli, gwella sgiliau a grymuso’r gymuned i wneud dewisiadau ffasiwn cynaliadwy ac fe’i cynhelir rhwng 25 Medi ac 8 Hydref 2023. Am y tro cyntaf, mae Wythnos Ffasiwn Cynaliadwy yn partneru ag unigolion, sefydliadau, brandiau a darparwyr addysg i greu Hybiau ledled y Deyrnas Unedig. Bydd y rhain yn fannau trochi, hygyrch lle y gallwch gael eich ysbrydoli – gan ddysgu...
Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £30 miliwn mewn rhaglenni newydd a fydd yn helpu sefydliadau yng Nghymru i ddatblygu ac ymgorffori cynhyrchion a gwasanaethau arloesol newydd i helpu i wella bywydau pobl, tyfu'r economi a mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur, meddai Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething a'r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James: Lansio cyllid newydd gwerth £30 miliwn i hybu arloesedd yng Nghymru | LLYW.CYMRU Rhaglen Cefnogaeth Arloesedd Hyblyg SMART (SMART FIS)...
Galwad ar y Cyd am Gynigion Cymru-Québec 2023 – Rhoddir blaenoriaeth i gynigion sy’n canolbwyntio ar y meysydd canlynol: adferiad gwyrdd, yr economi, gwyddoniaeth ac arloesi, a’r celfyddydau a diwylliant. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 11.59pm ar 24 Gorffennaf 2023. Cysylltwch â QuebecWalesProjects@llyw.cymru os oes gennych unrhyw gwestiynau am yr alwad ariannu hon. Menter i annog cydweithio economaidd ag Oita, Japan – Bydd cynigion yn canolbwyntio ar feysydd megis y celfyddydau a diwylliant...
Mae ARFOR yn fenter ar y cyd gan Gynghorau Sir Gâr, Ceredigion, Gwynedd ac Ynys Môn sy'n edrych i ddefnyddio mentergarwch a datblygu'r economi i gefnogi cadarnleoedd y Gymraeg a, thrwy hynny, cynnal yr iaith. Uchelgais Cronfa Her rhaglen Arfor fydd i archwilio datrysiadau sydd yn cryfhau’r berthynas rhwng iaith ac economi, a rydym yn chwilio am gynlluniau sy’n cynnig profi’r canlynol: Mae defnyddio iaith yn rhoi hwb i'r economi Mae defnyddio iaith yn rhoi...
Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol. Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn gyfrifol am lunio a chynnal rhestrau'r dreth gyngor ac ardrethi i Gymru. Yn seiliedig ar y dystiolaeth sydd ar gael, mae'r VOA yn penderfynu a yw eiddo yn cael ei ystyried yn eiddo domestig ac yn atebol am y dreth gyngor, neu'n eiddo annomestig ac yn atebol am ardrethi annomestig. Mae'r broses ar gyfer rhestru eiddo yn cael ei...
Mae’r wobr hon yn dathlu’r entrepreneuriaid benywaidd wrth wraidd arloesiadau Ewrop sy’n torri tir newydd. Ar gyfer rhifyn 2023 i 2024, mae’r Cyngor Arloesi Ewropeaidd a’r Sefydliad Ewropeaidd dros Arloesi a Thechnoleg wedi dod ynghyd i greu Gwobr Ewropeaidd mwy o faint a mwy beiddgar i Arloeswyr Benywaidd, gyda dim llai na 9 gwobr i’w dyfarnu. Mae’r Wobr Ewropeaidd i Arloeswyr Benywaidd yn dathlu’r menywod wrth wraidd arloesiadau mwyaf blaengar Ewrop. Mae’r wobr yn gwobrwyo...
Mae Gwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru yn rhan o brosiect Busnes Cymdeithasol Cymru (BCC) a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Eleni mae yna chwech categori gwobrau i fentrau cymdeithasol ddewis o’u plith, sy’n adlewyrchu’r ffyrdd y mae mentrau cymdeithasol ac entrepreneuriaid cymdeithasol wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n bywydau yn y 12 mis diwethaf. Bydd yr holl enillwyr yn mynd ymlaen i gynrychioli Cymru yng Ngwobrau Menter Gymdeithasol y DU ym mis Rhagfyr. Categorïau: Menter Gymdeithasol y Flwyddyn...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.