BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

451 canlyniadau

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Heddiw (16 Mai 2023), rwy’n lansio ymgynghoriad ar gynigion a fyddai’n golygu rhyddhad gwelliannau ar gyfer ardrethi annomestig. Mae Llywodraeth Cymru'n mynd ar drywydd ystod o ddiwygiadau yn ystod tymor presennol y Senedd, a fydd yn gwneud newidiadau hanfodol a chadarnhaol i ardrethi annomestig yng Nghymru. Rydym yn cydnabod bod llawer o fusnesau o’r farn nad yw’r system ardrethi annomestig yn cynnig cymhelliad i fuddsoddi mewn...
Os yw eich busnes yn edrych ar gyfleodd allforio, neu os ydych eisoes yn allforio, mae Llywodraeth Cymru a’i phartneriaid yn darparu amrywiaeth o offer a gwasanaethau sy’n gallu cefnogi busnesau Cymru ar eu taith allforio. Yn ddiweddar fe wnaethom lansio ein Llyfryn Allforio, sy’n rhoi manylion am yr ystod gynhwysfawr o gymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i fusnesau yng Nghymru sydd am ddatblygu elfen allforio eu busnes. Yn y llyfryn cewch wybodaeth...
Bydd pobl ledled Cymru yn cael cyfle i ddod yn berchnogion tafarndai, theatrau, swyddfeydd post, meysydd chwaraeon a siopau cornel lleol sydd mewn perygl yn dilyn lansio Rownd 3 Cronfa Perchnogaeth Gymunedol Llywodraeth y DU. Bydd Ffenestr 1 Rownd 3 yn agor ar 31 Mai 2023 a bydd yn cau am 11:59am ar 12 Gorffennaf 2023 a gallwch gyflwyno datganiad o ddiddordeb (EOI) nawr. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Community...
Mae darpariaeth ac adnoddau dysgu proffesiynol amrywiaeth a gwrth-hiliaeth (DARPL) newydd, o safon uchel, bellach ar gael am ddim i ymarferwyr sy’n darparu gofal plant, gwaith chwarae ac addysg feithrin ac sy’n gweithio gyda babis a phlant ifanc, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i greu Cymru wrth-hiliol erbyn 2030, sy’n galw am ddim goddefgarwch tuag at bob math o hiliaeth. O ystyried pwysigrwydd gofal plant a gwaith...
15 i 19 Mai 2023 yw wythnos y Cynnig Cymraeg. Dyma gyfle i dynnu sylw at fusnesau ac elusennau sy’n ymfalchïo yn y Gymraeg drwy gynnig gwasanaethau Cymraeg. Rydym eisiau i siaradwyr Cymraeg yng Nghymru fedru derbyn gwasanaethau yn eu hiaith, ac i wybod pa wasanaethau sydd ar gael iddyn nhw. Er mwyn medru byw yn Gymraeg mae angen i bawb wybod pa wasanaethau sydd ar gael. Yn ystod yr wythnos byddwn yn dathlu llwyddiant...
Rhaglen o gymorth arbenigol ar gyfer darpar entrepreneuriaid technoleg ac entrepreneuriaid technoleg presennol. Dyma’r rhaglenni sydd ar gael: Ecosystem Partnership Programme – y dyddiad cau yw 31 Mai 2023. Bridge Programmes – y dyddiad cau yw 5 Mehefin 2023. Funding Readiness Programme – cofrestrwch nawr ar gyfer rhaglenni yn y dyfodol. Product Builder Programme – y dyddiad cau yw 15 Mehefin 2023. Scaleup Programme – y dyddiad cau yw 31 Mai 2023. Caiff yr holl...
Ydych chi'n chwilio am ffyrdd o hybu cynhyrchiant a datrys heriau yn eich busnes? Neu, a oes gennych ateb Deallusrwydd Artiffisial (AI) arloesol a allai fod o fudd i fusnesau sy'n gweithredu mewn sectorau â photensial am dwf uchel? Os ydych, yna mae'r gystadleuaeth hon yn addas i chi. Mae cystadleuaeth ariannu BridgeAI, ‘Astudiaethau dichonoldeb ar gyfer atebion Deallusrwydd Artiffisial’ bellach ar agor ac yn derbyn ceisiadau. Mae Innovate UK yn buddsoddi hyd at £5...
Mae gan GEN UK adnoddau dysgu, mentora a chefnogaeth i Entrepreneuriaid Benywaidd o Wcráin, pa gam bynnag y mae eu busnes neu syniad wedi’i gyrraedd. Ydych chi’n entrepreneur benywaidd addawol o’r Wcráin (neu’n gwybod am rywun o’r fath) sydd eisiau datblygu eich busnes i'r lefel nesaf? Gwnewch gais nawr am gymorth trwy'r rhaglen RESTART Ukraine unigryw. Mae'r meysydd cymorth yn cynnwys: Help i osod nodau busnes a chynllunio Marchnata a brandio Cynllunio ariannol Dod o...
Gall busnesau bwyd bellach ddod o hyd i ganllawiau a chyngor gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) mewn un hyb sy’n hawdd mynd ato ar food.gov.uk sy’n cynnwys canllawiau i fusnesau. Mae’r hyb newydd yn cynnwys yr holl ganllawiau ar sut i ddechrau busnes bwyd, sut i gael sgôr hylendid bwyd dda a sut i reoli alergenau i gadw cwsmeriaid yn ddiogel. Mae’r ASB hefyd yn rhannu amrywiaeth o astudiaethau achos gan fusnesau bwyd ledled...
Adnoddau a chyngor arbenigol i helpu gweithgynhyrchwyr sy’n BBaChau sydd wedi'u lleoli yn y DU i leihau eu defnydd o ynni a chynyddu proffidioldeb. Mae'r Pecyn Gwybodaeth Cymorth Ynni i Fusnesau yn rhoi mynediad hawdd i wneuthurwyr at arbenigwyr ac offer, gan eich helpu i wneud gostyngiadau sylweddol i'ch defnydd o ynni mewn cyfnodau amser byr. Mae'r gefnogaeth yn cynnwys meysydd fel: Mewnwelediadau sy'n cael eu gyrru gan ddata i'ch defnydd o ynni Help i...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.