BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

531 canlyniadau

Sioeau Busnes Cymru yw'r arddangosfa fwyaf yng Nghymru ar gyfer busnesau - mae’n cynnwys tair sioe genedlaethol. Mae'r sioeau'n darparu llwyfan i fusnesau o bob maint arddangos eu cynnyrch a'u gwasanaethau. Mae’r sioeau’n gyfle i chi ddysgu technegau busnes newydd, gwrando ar brif siaradwyr sy’n ysbrydoli, cael cyngor arbenigol, cael gwybodaeth gan gynrychiolwyr ac arddangoswyr eraill a gwella cysylltiadau busnes drwy rwydweithio. Dyddiadau a lleoliadau eleni yw: 25 Ebrill 2023 – Stadiwm Dinas Caerdydd, Caerdydd...
Tra bod technoleg ddigidol a fideoalwadau yn ei gwneud hi'n llawer haws i gynnal perthynas gyda chwsmeriaid, mae busnesau'n dweud wrthym fod pobl yn gwneud busnes gyda phobl, a does dim yn adeiladu perthnasau newydd yn well na chyswllt wyneb yn wyneb. Mae ymweld â marchnadoedd i gwrdd â chwsmeriaid newydd a phosibl yn elfen hanfodol o ennill a chadw busnes. I gefnogi busnesau yng Nghymru i wneud hynny, datgelodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething...
Bydd y ddarpariaeth prydau ysgol am ddim yn ystod y gwyliau yn parhau i fod ar gael i blant o deuluoedd incwm is yn ystod gwyliau’r Pasg a’r Sulgwyn. Mae’r ddarpariaeth yn cael ei hariannu diolch i gytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru. Yn ystod gwyliau'r Pasg bydd awdurdodau lleol unigol yn penderfynu sut i weinyddu'r ddarpariaeth prydau ysgol am ddim, naill ai drwy greu cinio neu drwy ddarparu talebau neu daliadau uniongyrchol i...
Gallai niferoedd gyrwyr cerbydau nwyddau trwm, bysiau a choetsys gael hwb drwy ddiwygiadau arfaethedig i reolau hyfforddi gyrwyr. Nod rhai o'r newidiadau arfaethedig yw helpu i'w wneud yn fwy fforddiadwy ac yn fwy effeithlon i yrwyr adnewyddu eu cymwysterau neu ddychwelyd i'r diwydiant. Mae’r ymgynghoriad newydd yn cynnig diwygiadau i'r Dystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol Gyrwyr (DCPC). Daw'r ymgynghoriad i ben ar 27 Ebrill 2023. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Driver Certificate...
Daw rheolau treth lleol newydd i rym heddiw a fydd yn rhoi gwell cefnogaeth i gymunedau Cymru fynd i’r afael â’r lefelau uchel o ail gartrefi ac eiddo gwag. Mae’n nodi carreg filltir arall yn y gwaith o weithredu cyfres o fesurau sy’n cael eu cyflwyno fel rhan o ymrwymiad Cytundeb Cydweithio Llywodraeth Cymru gyda Phlaid Cymru i fynd i’r afael ag effaith ail gartrefi a chartrefi gwag ar gymunedau ar hyd a lled y...
Gwyrddgalchu yw'r arfer lle mae cwmnïau'n honni eu bod yn gwneud mwy dros yr amgylchedd nag ydyn nhw mewn gwirionedd. Mae gwyrddgalchu wedi cynyddu wrth i’r canlynol ddigwydd: ymrwymiadau hinsawdd cwmnïau gynyddu defnyddwyr yn ceisio prynu cynhyrchion mwy cynaliadwy yn gynyddol cwmnïau'n cael eu cymell i wneud cynhyrchion yn fwy deniadol i ddefnyddwyr gweithwyr yn cael eu denu i weithio i gwmnïau sydd â rhinweddau cynaliadwyedd cryf Mae gwneud honiadau amgylcheddol ffug yn amharu ar...
Nod Smart Manufacturing Data Hub (SMDH), dan arweiniad Prifysgol Ulster, yw cefnogi 10,000 o BBaChau gweithgynhyrchu'r DU i ddefnyddio, dysgu a gweithredu technoleg trawsnewid digidol yn eu ffatrïoedd trwy ystod o fentrau cymorth a mesurau ariannu. Cefnogir y rhaglen gan £50 miliwn o gyllid o dan y fenter Made Smarter gan Innovate UK. Bydd y gefnogaeth i BBaChau yn cynnwys addysg a chyngor arbenigol ar lwybrau digideiddio, gweithredu technoleg sy'n cael ei gyrru gan ddata...
Mae’r cwmni sy’n canolbwyntio ar y cwsmer yn siarad â chwsmeriaid yn eu hiaith eu hunain. Iaith buddion yw’r iaith hon – sut mae eich nwyddau neu’ch gwasanaeth yn gwella’u bywyd. Iaith effaith ydyw hefyd – sut rydw i’n cael adenillion ar fy muddsoddiad yn sgil hyn. Ac, yn olaf, iaith tystiolaeth ydyw – dangoswch y dystiolaeth i mi. Yn Winning Pitch, rydym yn dilyn y canlynol: Nodweddion Effaith Tystiolaeth Buddion Mae wir yn anhygoel...
Cynhelir Wythnos Ffoaduriaid rhwng 19 a 25 Mehefin 2023. A'r thema eleni yw ‘ Compassion’. Mae Wythnos Ffoaduriaid yn ŵyl ledled y DU sy'n dathlu cyfraniadau, creadigrwydd a gwydnwch ffoaduriaid a phobl sy'n chwilio am noddfa. Cafodd ei sefydlu ym 1998 a chaiff ei chynnal bob blwyddyn o amgylch Diwrnod Ffoaduriaid y Byd ar 20 Mehefin. Mae Wythnos Ffoaduriaid hefyd yn fudiad byd-eang sy'n tyfu. Drwy raglen o ddigwyddiadau celfyddydol, diwylliannol, chwaraeon ac addysgol ochr...
Cynhelir Wythnos Elusennau Bach rhwng 19 a 23 Mehefin 2023. Trefnir yr wythnos fel cyfres o weithgareddau a mentrau i gefnogi a chodi ymwybyddiaeth o'r cannoedd a miloedd o elusennau bach sydd, bob dydd, yn gwneud gwahaniaeth enfawr i gymunedau bregus ledled y DU a gweddill y byd. Amcanion Wythnos Elusennau Bach yw: dathlu cyfraniad elusennau bach at gymunedau ledled y DU ac ar draws y byd gwella gwybodaeth, cynrychiolaeth a chynaliadwyedd elusennau bach tynnu...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.