BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

651 canlyniadau

Â’r haf yn prysur nesáu a’r cynnydd mewn gwaith tymhorol yn sgil hynny, mae gweithwyr mor debygol o gael damwain yn ystod y chwe mis cyntaf mewn gweithle ag y maen nhw yn ystod gweddill eu bywyd gwaith. Mae’r risg ychwanegol yn digwydd oherwydd y canlynol: diffyg profiad o weithio mewn diwydiant neu weithle newydd ddim yn gyfarwydd â'r swydd a’r amgylchedd gwaith amharodrwydd i fynegi pryderon (neu ddim yn gwybod sut i wneud hynny)...
Bydd mwy o blant dwy oed ledled Cymru yn cael manteisio ar ofal blant a ariennir diolch i fuddsoddiad pellach o £10 miliwn gan Lywodraeth Cymru. Mae’r cyllid ychwanegol yn rhan o gynllun gam wrth gam i ehangu’r ddarpariaeth blynyddoedd cynnar i bob plentyn dwy oed yng Nghymru, gyda phwyslais benodol ar gryfhau darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Mae hwn yn ymrwymiad yn y Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru. Bydd y buddsoddiad newydd yn...
Cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol, gŵyl ddiwylliannol fwya'r wlad, yn Llŷn ac Eifionydd, Boduan, Gwynedd rhwng 5 a 12 Awst 2023. Er mai cystadlu yw calon yr ŵyl, a’i bod yn denu dros 6,000 o gystadleuwyr bob blwyddyn, mae'r Maes ei hun wedi tyfu a datblygu'n ŵyl fywiog gyda channoedd o ddigwyddiadau a gweithgareddau i'r teulu cyfan. Mae'r Brifwyl yn denu tua 150,000 o ymwelwyr bob blwyddyn, felly bachwch ar y cyfle hwn i hyrwyddo'ch busnes...
Mae CThEF yn cyhoeddi Bwletin y Cyflogwr 6 gwaith y flwyddyn. Mae’r Bwletin yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i gyflogwyr ac asiantau ynghylch materion a allai effeithio arnynt. Mae rhifyn mis Chwefror o Fwletin y Cyflogwr yn cynnwys erthyglau ar y canlynol: rhoi gwybod am gyflogau cynnar newidiadau i Offer TWE Sylfaenol a Gwyliwr Bwrdd Gwaith TWE trothwyon benthyciad myfyriwr a benthyciad ôl-raddedig o fis Ebrill 2023 ymlaen sut i helpu cyflogeion gyda rhyddhad treth incwm...
Mae ail rownd y Rhaglen Grant Trefniadau Cydnabod (RA) bellach ar agor. Bydd grantiau o hyd at £75,000 yn cael eu dyfarnu i reoleiddwyr y DU a chyrff y diwydiant i'w helpu i ddatblygu cytundebau â'u cymheiriaid rhyngwladol er mwyn i gymwysterau proffesiynol y DU gael eu cydnabod dramor. Bydd hyn yn ei gwneud hi'n haws i fusnesau'r DU allforio eu gwasanaethau ledled y byd. Cynhelir y Rhaglen Grant Trefniadau Cydnabyddiaeth tan 31 Mawrth 2025...
Mae SmallBusiness.co.uk yn falch iawn o gyhoeddi bod yr enwebiadau ar agor ar gyfer Gwobrau Busnes Prydain 2023! Mae'r gwobrau'n cydnabod, anrhydeddu a dathlu cyflawniadau eithriadol ac arloesol busnesau Prydeinig bach a chanolig ar draws pob diwydiant. Yn sgil y pandemig, mae busnesau bach Prydain wedi wynebu heriau newydd a digynsail. Dyna pam mae gwobrau eleni i gyd yn ymwneud â dathlu gwydnwch, creadigrwydd, a llwyddiant y busnesau hyn. Y categorïau eleni yw: Busnes Pobl...
Pythefnos Masnach Deg 2023: 27 Chwefror– 12 Mawrth, thema eleni yw BWYD! Mae hyn yn meddwl gallwch ffocysu ar unrhyw ran o fwyd a Masnach Deg i ddathlu Pythefnos Masnach Deg 2023. Gall hwn fod, cynhyrchiant bwyd a newid hinsawdd, caffael Masnach Deg neu ddiogelwch bwyd i enwi ond ychydig. Mae bwyd wrth wraidd Masnach Deg ac yn croestorri gyda newid hinsawdd, rhyw, bywoliaethau a phob agwedd arall o Fasnach Deg. Edrychwch yma Ble i...
Gosodwyd y ddeddfwriaeth bwysig hon gerbron y Senedd ddydd Mawrth 7 Mehefin 2022. Bwriad Llywodraeth Cymru yw dod â'r Bil i rym cyn gynted â phosibl, ac rydym gobeithio ar hyn o bryd y bydd y ddeddfwriaeth yn derbyn Cydsyniad Brenhinol yn Ebrill/Mai 2023. Mae'r Bil yn cyflawni un o ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu i roi sylfaen statudol i bartneriaeth gymdeithasol yng Nghymru. Ei nod yw gwella llesiant pobl Cymru drwy wella gwasanaethau cyhoeddus drwy weithio...
Mae'r Pwyllgor Masnach Ryngwladol wedi lansio ymchwiliad i'r cyfleoedd allforio sydd ar gael i fusnesau yn y DU: Ymchwiliad: Cyfleoedd allforio Pwyllgor Masnach Ryngwladol Mae Pwyllgor trawsbleidiol o Aelodau Seneddol yn galw am gyflwyniadau o dystiolaeth ysgrifenedig sy'n archwilio'r sefyllfa bresennol i allforwyr, y gefnogaeth a gynigir gan Lywodraeth y DU, a pha mor hawdd y gall allforwyr gael mynediad ato. Yn ystod ei ymchwiliad, bydd y Pwyllgor yn ymchwilio i'r rhwystrau allweddol sy'n atal...
Gall arian y Loteri Genedlaethol eich helpu i wneud gwahaniaeth yn eich cymuned. Mae'r gwobrau’n cynnig cyllid o £300 i £10,000 i gefnogi beth sy'n bwysig i bobl a chymunedau, gan gynnwys: effaith costau byw cynyddol adfer, ailadeiladu a thyfu yn dilyn pandemig Covid-19 Yn 2023, gallant eich helpu i ddathlu'r digwyddiadau cenedlaethol sy'n bwysig i'ch cymuned gan gynnwys Coroni Ei Fawrhydi'r Brenin, yr Eurovision Song Contest yn Lerpwl, a dathlu 75 mlwyddiant Windrush. Os...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.