BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

691 canlyniadau

Mae Wythnos Cydraddoldeb Hiliol, 6 i 12 Chwefror 2023, yn ymgyrch flynyddol ledled y DU, sy'n cael ei threfnu gan Race Equality Matters, ac mae’n dwyn ynghyd miloedd o sefydliadau ac unigolion i fynd i'r afael â'r rhwystrau i gydraddoldeb hiliol yn y gweithle. Y thema ar gyfer eleni yw #Mae’nFusnesiBawb gan fod mynd i'r afael ag anghydraddoldeb hiliol yn fusnes i bawb. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolenni ganlynol Race Equality...
Bellach, gellir gwneud cais ar gyfer Gwobrau Gwnaed yn y DU, Gwerthu i'r Byd, sy’n cael eu cynnal gan yr Adran dros Fasnach Ryngwladol (DIT). Bydd y gwobrau'n cydnabod ac yn dathlu llwyddiant masnachu byd-eang busnesau bach o bob rhan o'r DU ac mae modd gwneud cais yn rhad ac am ddim. Bydd y cynllun yn gwobrwyo busnesau mewn saith sector: Amaeth, bwyd a diod Nwyddau defnyddwyr Diwydiannau creadigol Digidol Addysg Gwasanaethau ariannol a phroffesiynol...
‘Bydd Wych. Ailgylcha.’ yw ymgyrch ailgylchu mwyaf a mwyaf uchelgeisiol Cymru. Mae’n cyfrannu at nod Llywodraeth Cymru o fod yn genedl ddiwastraff erbyn 2050 a rhoi hwb i Gymru tuag at gyrraedd y nod o fod yn genedl ailgylchu orau’r byd. Ein thema eleni yw “Pwer ailgylchu gwastraff bwyd” a bydd yr ymgyrch, sy'n dechrau ar 6 Chwefror 2023, yn dangos sut mae gwastraff bwyd yn cael ei ailgylchu i greu ynni adnewyddadwy sy’n brwydro...
Cynhelir yr Wythnos Prentisiaethau rhwng 6 a 12 Chwefror 2023. Wrth i’r Wythnos Genedlaethol Prentisiaethau fynd rhagddi, mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething yn annog mwy o gwmnïau i ystyried sut y gall prentis eu helpu i hybu eu busnesau. Nod yr wythnos hon yw dathlu a hyrwyddo prentisiaethau yng Nghymru fel llwybr gwerthfawr i waith neu yrfa newydd. a'r buddion a ddaw yn eu sgil i unigolion a chyflogwyr. Fel rhan o'r ymgyrch "Dewis...
Ydych chi’n unigolyn, artist neu’n gydweithfa gelfyddydol sy’n huniaethu fel rhan o’r gymuned LHDTC+ yng Nghymru? Ydych chi’n ymarfer neu’n bwriadu ymarfer eich gwaith creadigol drwy gyfrwng y Gymraeg? Oes gennych chi syniad newydd am berfformiad, arddangosfa neu ddigwyddiad newydd a chyffrous? Os felly, dyma’r cyfle i chi! Mae Mas ar y Maes gyda Balchder yn chwilio i gomisiynu 5 darn o waith celfyddydol newydd a chyffrous ar gyfer eu harddangos mewn amryw o wyliau...
O 6 i 12 Chwefror 2023, bydd ysgolion, teuluoedd a chymunedau ledled y DU yn cymryd rhan yn Wythnos Iechyd Meddwl Plant. Thema eleni yw ‘Beth am Gysylltu’. Mae ‘Beth am Gysylltu’ yn ymwneud â gwneud cysylltiadau ystyrlon i ni gyd, yn ystod Wythnos Iechyd Meddwl Plant – a thu hwnt. Pan fydd gennym gysylltiadau iach – â theulu, ffrindiau a phobl eraill – gall hyn gynorthwyo ein hiechyd meddwl a’n hymdeimlad o les. Bydd...
Cyhoeddi Gweinidog Julie James gynllun newydd gwerth £50 miliwn i sicrhau bod mwy o gartrefi gwag yn cael eu hadfer. Mae'r cynllun Grant Cartrefi Gwag Cenedlaethol, fydd yn para dros y ddwy flynedd nesaf, wedi'i ddatblygu i adeiladu ar lwyddiant mentrau blaenorol Llywodraeth Cymru fel Grant Cartrefi Gwag Tasglu'r Cymoedd. Gallai'r Cynllun Cartrefi Gwag Cenedlaethol weld hyd at 2,000 o eiddo gwag hirdymor yn cael eu defnyddio unwaith eto. Bydd y cynllun hwn yn cael...
Mae Diwrnod Amser i Siarad ar ddydd Iau 2 Chwefror 2023 yng Nghymru. Mae’n gyfle i bob un ohonom fod yn fwy agored am iechyd meddwl – i siarad, i wrando, i newid bywydau. Mae Diwrnod Amser i Siarad yn ymgyrch pedair gwlad sy'n digwydd bob blwyddyn yn y DU. Yng Nghymru, mae Diwrnod Amser i Siarad 2023 yn cael ei redeg gan Amser i Newid Cymru, Adferiad Recovery, Mind Cymru ac mewn partneriaeth â'r...
Mae cyfle cyffrous i weithio gydag Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (WAST) a Byrddau Iechyd yng Nghymru i leihau’r galw digynsail ar ambiwlansys a gwasanaethau Gofal Brys a Gofal mewn Argyfwng ledled Cymru. Mae cleifion yn aros yn hirach nag y dylent am ymateb ambiwlans a phan fyddant yn cyrraedd yr ysbyty (Adran Achosion Brys), gallant dreulio cryn dipyn o amser yn yr ambiwlans cyn cael eu trosglwyddo i dimau clinigol yr Adran Achosion Brys...
Cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol, gŵyl ddiwylliannol fwya'r wlad, yn Llŷn ac Eifionydd, Boduan, Gwynedd rhwng 5 a 12 Awst 2023. Manylion consesiynau arlwyo #Steddfod2023 Mae gan Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd y cyfleoedd canlynol ar gael trwy dendr: Y Pentref Bwyd (Unedau Arlwyo Symudol) Cynigion Manwerthu Eraill Platiad a chynigion arlwyo eraill ar ffurf bwyty Hufen Iâ Arlwyo a Siop ar y Maes Carafanau Maes B Ffreutur Criw’r Maes Dyddiad cau ar gyfer cynigion tendr...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.