Mae 10 Rhagfyr 2023 yn nodi 75 mlynedd ers cyhoeddi un o’r addewidion byd-eang mwyaf arloesol erioed: sef y Datganiad Cyffredinol o Hawliau Dynol ( Universal Declaration of Human Rights). Mae’r ddogfen bwysig hon yn ymgorffori’r hawliau diymwad sydd gan bawb fel bodau dynol – ni waeth beth fo’u hil, lliw, crefydd, rhyw, iaith, barn wleidyddol neu farn arall, tarddiad cenedlaethol neu gymdeithasol, eiddo, genedigaeth neu statws arall. Cyhoeddwyd y Datganiad gan Gynulliad Cyffredinol y...