BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

721 canlyniadau

Mi fydd cynllun newydd i ddychwelyd cynhwysyddion diodydd erbyn 2025 yn helpu Cymru i wella ei chyfraddau ailgylchu ymhellach. Cadarnhaodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, dydd Gwener, Ionawr 20 2023 y bydd Cymru'n cyflwyno Cynllun Dychwelyd Ernes erbyn 2025. Fel rhan o’r fenter newydd byddwn yn talu ernes fach pan fyddwn yn prynu diod mewn cynhwysydd untro, a gawn yn ôl pan fyddwn yn dychwelyd y botel neu'r can. Mae Cymru'n cydweithio gyda Lloegr...
Dewch i’n digwyddiad ‘Adrodd Straeon Masnach Deg: tu ôl i’r llen’ i ddysgu fwy am sut mae sefydliadau Masnach Deg yn ail-fframio’u naratif, a sut gallwch ddysgu wrthyn nhw. Ymunwch â Cymru Masnach Deg Cymru a Hub Cymru Affrica i edrych yn fanylach ar dechnegau adrodd straeon ac i drafod moeseg hybu yn y mudiad Masnach Deg. Cewch glywed gan sawl Sefydliad Masnach Deg am newidiadau diweddar yn y ffordd maen nhw’n cyfathrebu eu gwaith...
Mae CThEM wedi gweld tuedd gynyddol yn nifer y cwsmeriaid sy'n cyflwyno eu ffurflenni Hunanasesu yn gynnar. Yn ystod y pum mlynedd diwethaf, mae nifer y cwsmeriaid sy'n dewis cyflwyno eu ffurflen ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn dreth bron wedi dyblu. Mae gennych tan 31 Ionawr 2023 i anfon eich ffurflen dreth Hunanasesiad at CThEM ac i dalu unrhyw dreth sy’n ddyledus, ond pam aros? Sut i gyflwyno eich ffurflen Mae'r holl wybodaeth sydd ei...
Mae Cronfa Newidwyr Cymunedol Partneriaeth Rheilffyrdd Cymunedol Cysylltiedig De Orllewin Cymru yn gronfa grant cymunedol i gefnogi cymunedau ar hyd y rheilffordd i wneud i newid ddigwydd yn eu lleoedd lleol, gall pob sefydliad wneud cais am rhwng £300 a £1,000. Bydd cronfa Newidwyr Cymunedol yn cefnogi grwpiau a sefydliadau sydd eisiau sbarduno newid lleol cadarnhaol yn uniongyrchol, gydag isafswm o fiwrocratiaeth er mwyn i chi allu bwrw ymlaen â gwneud i newid ddigwydd! Gallai...
Rydyn ni'n cynllunio i brynu car neu fynd ar wyliau, felly pam nad ydyn ni'n cymryd yr un amser i gynllunio ein bywyd gwaith, ein hiechyd, neu ein llesiant ariannol yn y dyfodol? Gall cyflogwyr gefnogi eu gweithwyr dros 50 oed i gynllunio at gyfnod hwyrach eu bywydau drwy gynnig cyfle iddyn nhw fynychu Gweminarau Adolygu Canol Gyrfa, sy'n cael eu darparu yng Nghymru gan raglen Pobl Hŷn yn y Gweithle y rhwydwaith busnes cyfrifol...
Mae Siambrau Cymru wedi agor ceisiadau ar gyfer Gwobrau Busnes Cymru 2023, gan roi cyfle i BBaChau ledled y wlad gystadlu am wobrau mwyaf nodedig Cymru. Nid yw erioed wedi bod yn haws rhoi cynnig ar Wobrau Busnes Cymru ac mae am ddim. Y cyfan mae'n rhaid i bob busnes, elusen a sefydliad arall o Gymru ei wneud yw ateb pedwar cwestiwn am beth rydych chi'n ei wneud a pham rydych chi'n haeddu ennill wrth...
Cyllido Cymru yw'r llwyfan i chwilio am gyllid i'r trydydd sector yng Nghymru. Fe'i datblygwyd gan rwydwaith Cefnogi Trydydd Sector Cymru i alluogi mudiadau trydydd sector i chwilio drwy gannoedd o gyfleoedd am grantiau ac arian benthyg o ffynonellau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Gall Cyllido Cymru helpu mudiadau yng Nghymru i ddod o hyd i'r cyllid sydd ei angen arnynt yn gynt nag erioed o'r blaen. Mae'r peiriant chwilio yn helpu defnyddwyr i ganfod ffynonellau...
Mae’r Gwobrau Soldiering On yn cydnabod ac amlygu cyflawniadau cyn-filwyr benywaidd a gwrywaidd, eu teuluoedd a phawb sy'n cefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog. Dyma gategorïau eleni: gofal iechyd ac adsefydlu gwerthoedd teuluol rhagoriaeth mewn chwaraeon ysbrydoliaeth cydweithio partneriaeth ag anifeiliaid addysg, hyfforddiant a datblygu cynwysoldeb amddiffyn dechrau busnes newydd tyfu busnes effaith cymunedol busnes cyflawniad oes Croesawir enwebiadau gan Gymuned y Lluoedd Arfog a’r cyhoedd. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol...
Ydych chi'n aelod o grŵp cymunedol neu sefydliad gwirfoddol sydd wedi'i leoli mewn ardal drefol yn ne Cymru? Hoffech chi gymryd rhan mewn cynllun newydd am ddim i helpu i ddiogelu ac adfer byd natur? Yna, efallai mai dyma’r union gwrs cwrs i chi! Mae Nabod Natur – Nature Wise yn rhaglen hyfforddi ar-lein gan Cynnal Cymru – Sustain Wales sy'n eich addysgu am sut mae'r amgylchedd naturiol yn gweithio, y bygythiadau sy'n ei wynebu...
Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) wedi cyhoeddi mwy o fanylion am amserlen dalu’r cylch nesaf o gymorth â chostau byw. Bydd yr arian i bobl sy’n hawlio budd-daliadau ar sail prawf modd, gan gynnwys pobl sy’n derbyn Credyd Cynhwysol, Credyd Pensiwn a chredydau treth, yn dechrau yn y Gwanwyn ac fe’u telir yn uniongyrchol i gyfrifon banc fesul tri thaliad dros gyfnod y flwyddyn ariannol. Bydd union ffenestri’r taliadau’n cael eu cyhoeddi yn nes...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.