BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

news and blogs Archives

751 canlyniadau

Mae Academi Allforio'r DU, sy’n cael ei darparu gan yr Adran Masnach Ryngwladol, yn rhaglen hyfforddi am ddim a gyflwynir trwy ddulliau hybrid dysgu ar-lein ac wyneb yn wyneb. Mae Academi Allforio'r DU ar agor i unrhyw fusnes yn y DU sydd â chynnyrch neu wasanaeth y gellir ei werthu’n rhyngwladol. Mae'n addas i fusnesau sy'n gwybod eu bod nhw eisiau cyrraedd cwsmeriaid a chontractau rhyngwladol yn y dyfodol, yn ogystal â'r rheiny a allai...
Straen, gorbryder ac iselder yw'r achos mwyaf o salwch yn gysylltiedig â gwaith ym Mhrydain Fawr ac mae'r niferoedd yn parhau i godi. Yn ôl yr ystadegau diweddaraf (PDF), roedd 914,000 o weithwyr yn dioddef o straen, iselder neu bryder yn gysylltiedig â gwaith yn 2021/22. Collwyd 17 miliwn o ddiwrnodau gwaith oherwydd straen yn y cyfnod hwn. Mae gan wefan straen yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) ddigonedd o gyngor ac mae'n cynnwys...
Mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru heddiw wedi ymweld ag undebau credyd ledled Cymru wrth iddynt gyhoeddi cyllid estynedig gwerth ychydig dros £422,000 y flwyddyn i sefydliadau sy’n cynnig cymorth hanfodol i’r rhai sy’n wynebu anawsterau ariannol. Mae undebau credyd yn sefydliadau nid-er-elw sydd ym mherchnogaeth y bobl sy’n defnyddio eu gwasanaethau, yn hytrach na rhanddeiliaid allanol neu fuddsoddwyr. Mae undebau credyd yn ymwneud â chymunedau ar hyd a lled y wlad ac yn cyfrannu at yr...
Mae syrcas gyfoes fyd-enwog yn dod i Abertawe a bydd gŵyl ffuglen drosedd ryngwladol yn cael ei chynnal yn Aberystwyth yn 2023, diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru. Mae’r Pentref Syrcas yn dod i Abertawe am y tro cyntaf, dan arweiniad y syrcas sydd wedi ennill bri rhyngwladol, NoFit State Circus, mewn partneriaeth â chwmnïau ac artistiaid syrcas blaenllaw, a bydd gŵyl ffuglen drosedd ryngwladol yn Aberystwyth yn derbyn cyllid gan Digwyddiadau Cymru ar gyfer...
Cyhoeddodd Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi (CThEF) y bydd gan allforwyr fwy o amser i symud ar draws i'r Gwasanaeth Datganiadau Tollau. Yn dilyn ymgynghoriad â'r diwydiant ar y ffiniau, bydd gan allforwyr hyd at 30 Tachwedd 2023 i symud ar draws i'r Gwasanaeth Datganiadau Tollau (CDS), 8 mis yn ddiweddarach na'r hyn a gyhoeddwyd yn flaenorol. Ar ôl 30 Tachwedd 2023, bydd angen i fusnesau ddefnyddio CDS i wneud datganiadau allforio ar gyfer nwyddau...
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi estyniad chwe mis ar rewi’r dreth alcohol hyd at 1 Awst 2023. Roedd disgwyl i rewi’r dreth alcohol presennol ddod i ben ar 1 Chwefror 2023. Yng Nghyllideb yr Hydref 2021, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y diwygiadau mwyaf i'r dreth alcohol ers 140 mlynedd. Mae’r newidiadau’n ailwampio rheolau'r DU ar ôl gadael yr UE er mwyn rhoi mwy o amser i ddiwydiant baratoi ar gyfer y diwygiadau a fydd...
Mae'r cynllun Hyderus o ran Anabledd yn cefnogi cyflogwyr i wneud y gorau o'r doniau y gall pobl anabl eu cyflwyno i'ch gweithle. Mae cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd o bob maint yn: herio agweddau tuag at anabledd cynyddu dealltwriaeth o anabledd dileu rhwystrau i bobl anabl a'r rheiny sydd â chyflyrau iechyd hirdymor sicrhau bod pobl anabl yn cael y cyfleoedd i gyflawni eu potensial a gwireddu eu dyheadau P'un a yw gweithiwr wedi...
Bydd Sgiliau Bwyd Cymru, gan weithio mewn partneriaeth â Chyfarwyddiaeth Partneriaeth Gymdeithasol, Cyflogadwyedd a Gwaith Teg Llywodraeth Cymru, yn cynnal 3 gweithdy ar-lein ym mis Ionawr 2023 i roi cyfle i ddysgu mwy am hawliau gweithwyr yng nghyd-destun y sector bwyd a diod yng Nghymru. Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn clywed ac yn ymgysylltu â siaradwyr o amrywiaeth o sefydliadau sy’n hyrwyddo hawliau gweithwyr ac yn mynd i’r afael â cham-drin a chamfanteisio...
Waeth a ydych yn meddwl am gefnu ar eich car a chymudo mewn ffordd iachach, fwy costeffeithiol, mynd am dro ar y penwythnos neu gynllunio taith feicio gyda ffrindiau a theulu, mae'n debyg y bydd cyfle yn agos, gyda dros 2,000km o lwybrau cerdded a beicio o ansawdd uchel eisoes ar gael ledled Cymru. Yn dilyn misoedd o ymgynghori cyhoeddus a chan weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru, mae Awdurdodau Lleol wedi cyhoeddi eu Mapiau Rhwydwaith...
Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi cyhoeddi egwyddorion ac arweiniad newydd i gefnogi busnesau i greu agwedd gynhwysol tuag at iechyd yn y gweithle. Gall cyflogwyr ddefnyddio'r egwyddorion syml i greu diwylliant galluogol yn y gweithle, lle mae gweithwyr anabl a gweithwyr â chyflyrau iechyd hirdymor yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn ffynnu. Gall eu Talking Toolkit helpu strwythuro sgyrsiau gyda gweithwyr a recriwtiaid posibl. Mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.