news and blogs Archives
911 canlyniadau
Cynllun newydd ledled y DU yw Help to Grow: Digital sy’n helpu busnesau bach a chanolig i fabwysiadu technolegau digidol sydd wedi’u profi fel rhai sy’n cynyddu eu cynhyrchiant. Bydd y cynllun yn cynnig cyngor diduedd ac am ddim i BBaChau ar sut gall technoleg helpu eu busnes. Bydd platfform ar-lein yn eu helpu i: nodi eu hanghenion technoleg ddigidol asesu opsiynau o ran prynu technoleg rhoi technolegau newydd ar waith yn eu gweithrediadau Bydd...
Mae Gweinidogion wedi cadarnhau heddiw bod rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy'n helpu pobl 19 oed a hŷn i wella eu sgiliau a'u rhagolygon cyflogaeth wedi cael hwb o £3 miliwn i ganolbwyntio ar sgiliau digidol a sgiliau sero net. Mae Cyfrifon Dysgu Personol yn cefnogi unigolion ar incwm is a'r rheini y mae eu swyddi mewn perygl, i ddysgu sgiliau newydd, ennill cymwysterau newydd a helpu i newid trywydd eu gyrfaoedd. Bydd £1...
Helpwch ni i dorri'r stigma fel bod pobl o bob oed yn gallu cyflawni eu gwir botensial yn y gwaith. Mae'r menopos yn gyfnod naturiol o fywyd ac eto mae'n parhau'n bwnc tabŵ mewn sawl gweithle. Mae pobl sy'n profi symptomau'r menopos angen yr un gefnogaeth a dealltwriaeth gan eu cyflogwr ag unrhyw un sy'n profi unrhyw gyflwr iechyd parhaus. Mae angen i gyflogwyr dorri'r stigma a'r tabŵ sy'n gysylltiedig â'r menopos yn y gwaith...
Mae’n bleser gan FareShare Cymru gyhoeddi bod Cronfa Bwyd dros Ben ag Amcan Cymru ar agor ar gyfer ceisiadau gan fusnesau bwyd a diod o bob maint, sector a lleoliad yng Nghymru. Ar ôl llwyddiant y cyllid cychwynnol, mae FareShare Cymru wedi derbyn ail rownd o gyllid gan Lywodraeth Cymru i wneud llwyth o les i nifer aruthrol o bobl ledled Cymru. Er enghraifft, gallai ffermwr neu dyfwr cynnyrch ffres wynebu costau o gynaeafu cnydau...
Mae saith o fusnesau o Gymru sydd ag arbenigedd sy’n amrywio o faes peirianneg a gofal cleifion i chwaraeon ar lawr gwlad yn mynd i UDA yr wythnos hon fel rhan o daith fasnach dan arweiniad Llywodraeth Cymru. Mae'r cynrychiolwyr yn mynd i Ogledd Carolina a De Carolina, lle byddant yn cwrdd â busnesau a chwsmeriaid a phartneriaid newydd posibl. Mae'n rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi busnesau Cymru i dyfu yng Nghymru a...
Mae Canghellor y Trysorlys, Jeremy Hunt, wedi cyflwyno nifer o fesurau Cynllun Cyllidol Tymor Canolig 31 Hydref yn gynharach. Yn ei ddatganiad, cyhoeddodd y Canghellor ei fod yn gwrthdroi bron pob un o’r mesurau treth a amlinellwyd yn y Cynllun Twf na ddeddfwyd ar eu cyfer yn y senedd. Ni fydd y polisïau treth canlynol yn cael eu dwyn ymlaen mwyach: Torri cyfradd sylfaenol y dreth incwm i 19% o Ebrill 2023. Bydd y gyfradd...
Cafodd y Diwrnod Mentora Cenedlaethol ei sefydlu er mwyn cydnabod manteision sylweddol mentora ar draws y DU ac mae’n cael ei gynnal ar 27 Hydref bob blwyddyn. Mae mentora yn golygu bod un person yn rhoi cymorth i’r llall, a gall wneud gwahaniaeth sylweddol i wybodaeth, gwaith, a ffordd o feddwl y sawl sy’n cael ei fentora. Mae pawb - unigolion, cwmnïau, ysgolion, cymunedau, prifysgolion a llywodraethau, yn cael eu hannog i rannu eu straeon...
Bwriad iteriad newydd y Cynllun Benthyciadau Adfer (RLS) yw cefnogi mynediad at gyllid i fusnesau yn y DU wrth iddynt geisio buddsoddi a thyfu. Bydd yn cefnogi maint cyfleusterau o hyd at £2miliwn ar gyfer benthycwyr y tu allan i gwmpas Protocol Gogledd Iwerddon. Gall benthycwyr sy’n cael eu cwmpasu gan Brotocol Gogledd Iwerddon fenthyg hyd at £1miliwn oni bai eu bod yn gweithredu mewn sector lle mae terfynau cymorth yn cael eu lleihau -...
Gall Mynediad at Waith eich helpu chi i gael neu aros mewn gwaith os oes gennych gyflwr iechyd neu anabledd corfforol neu feddyliol. Bydd y gefnogaeth a gewch yn dibynnu ar eich anghenion. Drwy Mynediad at Waith, fe allwch wneud cais am: grant i’ch helpu dalu am gymorth ymarferol gyda’ch gwaith cefnogaeth gyda rheoli eich iechyd meddwl yn y gwaith arian i dalu ar gyfer cefnogaeth cyfathrebu mewn cyfweliadau gwaith Mae’r canllaw hwn hefyd ar...
Mae Innovate UK yn buddsoddi hyd at £2.5 miliwn y flwyddyn am y tair blynedd nesaf i ddathlu cynhwysiant mewn arloesedd. Bydd 50 o wobrau’n cael eu cynnig i fentrau micro, bach neu ganolig ledled y DU i gefnogi amrywiaeth mewn busnesau. Bydd yr enillwyr yn derbyn grant o £50,000 yr un ar gyfer datblygu gwaith sydd eisoes yn bodoli, neu ddatblygu waith newydd, ar arloesiadau cynhwysol. Mae'r Gwobrau Arloesedd Cynhwysol ar agor ar gyfer...
Pagination
- Previous page
- Page 91
- Next page