BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Archives

1011 canlyniadau

Mae’r cynlluniau i foderneiddio gwasanaethau tacsi yng Nghymru wedi’u nodi mewn papur gwyn ar y Bil Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat (Cymru) a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru heddiw (dydd Iau, 9 Mawrth 2023). Bydd y cynigion yn gwireddu’r ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i foderneiddio’r sector tacsis a cherbydau hurio preifat. Y bwriad yw gwneud gwasanaethau’n fwy diogel, yn fwy gwyrdd ac yn decach. Mae tacsis a cherbydau hurio preifat yn chwarae rhan bwysig i...
Mae Gwobrau Arfordir Cymru yn chwarae rôl hanfodol yn diogelu ein hamgylchedd morol gwerthfawr a chânt eu cydnabod ar draws y byd fel symbol o ansawdd. Rydym wedi rheoli’r Faner Las, Gwobr Arfordir Glas a’r Wobr Glan Môr ers dros 20 mlynedd. I gael un o’r gwobrau blaenllaw hyn, mae’n rhaid i draeth, marina neu gwmni teithiau cychod fodloni a chynnal y safonau amgylcheddol uchaf a chyrraedd targedau ansawdd dŵr llym. Mae Gwobrau Arfordir Cymru...
Helpodd Busnes Cymru fi i fagu’r hyder i ddechrau fy musnes fy hun. Ar ôl 19 mlynedd o brofiad mewn cartrefi gofal ac ysbytai, penderfynodd Sophie Powell ddechrau ei busnes ei hun fel micro-ofalwr ar ôl cymryd rhan ym mhrosiect micro-ofal Sir Fynwy. Mae’r prosiect yn gydweithrediad rhwng Busnes Cymru a Phartneriaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles Gwent Fwyaf sy’n cynnig cefnogaeth, hyfforddiant a chyngor i weithwyr gofal cartref. Mae Sophie’n Niwroamrywiol ac yn teimlo...
Datganiad Ysgrifenedig: Lesley Griffiths AS, Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd. “Rwyf wedi llofnodi Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2023, sy’n gosod isafswm cyflog yr awr i bob gweithiwr ym maes amaeth, garddwriaeth ac amaeth-goedwigaeth yng Nghymru, yn ogystal â’u hamodau cyflogaeth gofynnol. Mae’r cyfraddau wedi’u seilio ar gyngor Panel Cynghori Amaethyddol annibynnol Cymru. Bydd y Gorchymyn newydd yn dod i rym ar 1 Ebrill 2023 ac yn: cynyddu’r cyfraddau a’r lwfansau isafswm...
Os ydych chi eisiau allforio anifeiliaid a chynhyrchion anifeiliaid o’r DU, rhaid i chi enwebu rhywun i lofnodi tystysgrif iechyd allforio. Bydd yr unigolyn yn filfeddyg swyddogol neu weithiau’n arolygydd gydag awdurdod lleol (swyddog iechyd yr amgylchedd fel rheol). Bydd yn gwirio bod eich llwyth yn bodloni gofynion iechyd y wlad mae’n mynd iddi. Am ragor o wybodaeth a’r rhestr ddiweddaraf o filfeddygon ac arolygwyr awdurdodau lleol sy’n gallu ardystio eich llwyth, ewch i wefan...
Os ydych chi'n berchennog busnes bach, rydych chi'n gwybod y gall costau cynyddol fod yn her wirioneddol. Mae'n hawdd cael eich llethu trwy geisio cadw eich busnes i fynd mewn economi ansicr sy’n cynnwys chwyddiant uchel a dirwasgiad posibl. Mae canllaw’r British Business Bank ar gyfer adeiladu gwydnwch busnes yn cynnwys gwybodaeth a chefnogaeth ddiduedd, ymarferol, a gweithredadwy i helpu busnesau llai i reoli eu costau, rhoi hwb i'w proffidioldeb hirdymor, a chynyddu eu gwydnwch...
Bydd Innovate UK, sy'n rhan o Ymchwil ac Arloesedd y DU, yn gweithio gyda Her Faraday Battery i fuddsoddi hyd at £1.5 miliwn mewn prosiectau arloesi y gellir cynnyddu eu graddfa. Nod y gystadleuaeth hon yw: cefnogi ymchwil a datblygiad BBaCh i ddatblygu technolegau batri yn y DU cefnogi BBaCh i ddefnyddio UK Battery Industrialisation Centre (UKBIC) a dangos technolegau ar raddfeydd addas i gwsmeriaid cynyddu ymgysylltiad ag UKBIC symud arloesiadau batri'r DU o botensial...
Cynllun peilot yw’r Grant dechrau busnes carbon sero net sy’n ceisio helpu egin fusnesau cymdeithasol i lwyddo, gan ymwreiddio arferion sy’n ystyriol o’r hinsawdd ar yr un pryd. Mae Cylch 3 y cynllun ar agor nawr am gyfnod byr i unrhyw fusnes cymdeithasol neu fudiad masnachu gwirfoddol yng Nghymru sy’n cychwyn ar ei daith. Nid oes angen i chi fod yn grŵp sy’n canolbwyntio ar yr amgylchedd neu’r newid yn yr hinsawdd i wneud cais...
Eve Crystal
"Mae fy musnes yn mynd o nerth i nerth, ac rwy'n teimlo mor gyffrous am lle ydw i nawr a'r hyn sydd i ddod." Gall adeiladu busnes ar eich pen eich hun deimlo'n amhosib, fel y profodd Eve Crystal pan benderfynodd lansio AromaRainbow Healing Feelings gyntaf. Mae hon yn strategaeth ymdopi hunangymorth, unigryw, wedi'i chynllunio i ysgogi emosiynau a theimladau cadarnhaol, yn enwedig yn ystod adegau o straen, gorbryder neu iselder. Ar ôl cysylltu â...
Mae Diwrnod Rhyngwladol Menywod yn ddiwrnod byd-eang sy’n dathlu cyflawniadau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol menywod. Mae’r diwrnod hefyd yn alwad i weithredu er mwyn cyflymu cydraddoldeb rhwng y rhywiau. Gwelir gweithgarwch sylweddol ledled y byd wrth i grwpiau ddod ynghyd i ddathlu cyflawniadau menywod neu ymgyrchu dros degwch i fenywod. Mae Diwrnod Rhyngwladol Menywod, a ddethlir yn flynyddol ar 8 Mawrth, yn un o ddiwrnodau pwysicaf y flwyddyn i: ddathlu cyflawniadau menywod addysgu a...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.