BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Archives

1171 canlyniadau

Mae Gwobrau StartUp yn gydweithrediad rhwng sylfaenwyr Great British Entrepreneur Awards a Gwobrau Startup Cymru, yr unig wobrau cenedlaethol a rhanbarthol sy'n dathlu busnesau newydd yn y DU ar hyn o bryd. Mae Gwobrau StartUp yn cydnabod cyflawniadau'r unigolion anhygoel hynny sydd wedi cael syniad gwych, wedi sylwi ar y cyfle ac wedi mentro lansio cynnyrch neu wasanaeth newydd. Gyda 30 categori i ddewis ohonynt, cyflwynwch eich ceisiadau cyn y dyddiad cau, sef 24 Chwefror...
Spike the Blacksmith
Dydyn ni byth yn stopio dysgu a gall pawb ohonom elwa o gael mentor! Yn artist, gof, athrawes a mentor, mae Spike Blackhurst yn sicr yn gwybod sut i ymestyn ei doniau ar draws sawl llwyfan. Sefydlodd ei busnes, Spike the Blacksmith, yn 2003, gan greu darnau o waith anarferol ac unigryw. Yn ogystal â darparu gwahanol gyrsiau gwaith gof artistig o’i gweithdy ym Mhowys, mae Spike yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru mewn cydweithrediad â...
Gall busnesau micro a bach cofrestredig yn y sector diwydiannau creadigol yn y DU wneud cais am gyllid hyd at £50,000 gyda pecyn cymorth i dyfu eu busnes. Nod y gystadleuaeth hon yw cefnogi arloesedd busnes yn y diwydiannau creadigol drwy ddarparu pecyn o gymorth targedig a pharhaus i helpu busnesau i dyfu. Rhaid bod eich prosiect yn: gysylltiedig â'r diwydiannau creadigol yn y DU, ac er budd y diwydiannau creadigol yn y DU dangos...
Mae Academi Allforio'r DU, sy’n cael ei darparu gan yr Adran Masnach Ryngwladol, yn rhaglen hyfforddi am ddim a gyflwynir trwy ddulliau hybrid dysgu ar-lein ac wyneb yn wyneb. Mae Academi Allforio'r DU ar agor i unrhyw fusnes yn y DU sydd â chynnyrch neu wasanaeth y gellir ei werthu’n rhyngwladol. Mae'n addas i fusnesau sy'n gwybod eu bod nhw eisiau cyrraedd cwsmeriaid a chontractau rhyngwladol yn y dyfodol, yn ogystal â'r rheiny a allai...
Straen, gorbryder ac iselder yw'r achos mwyaf o salwch yn gysylltiedig â gwaith ym Mhrydain Fawr ac mae'r niferoedd yn parhau i godi. Yn ôl yr ystadegau diweddaraf (PDF), roedd 914,000 o weithwyr yn dioddef o straen, iselder neu bryder yn gysylltiedig â gwaith yn 2021/22. Collwyd 17 miliwn o ddiwrnodau gwaith oherwydd straen yn y cyfnod hwn. Mae gan wefan straen yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) ddigonedd o gyngor ac mae'n cynnwys...
Mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru heddiw wedi ymweld ag undebau credyd ledled Cymru wrth iddynt gyhoeddi cyllid estynedig gwerth ychydig dros £422,000 y flwyddyn i sefydliadau sy’n cynnig cymorth hanfodol i’r rhai sy’n wynebu anawsterau ariannol. Mae undebau credyd yn sefydliadau nid-er-elw sydd ym mherchnogaeth y bobl sy’n defnyddio eu gwasanaethau, yn hytrach na rhanddeiliaid allanol neu fuddsoddwyr. Mae undebau credyd yn ymwneud â chymunedau ar hyd a lled y wlad ac yn cyfrannu at yr...
Mae'r cymorth rwyf wedi ei dderbyn gan Busnes Cymru wedi bod yn amhrisiadwy. Oni bai am hynny ni fyddwn wedi gallu dechrau fy musnes hypnotherapi. Cafodd hypnotherapi effaith mor gadarnhaol ar fywyd Susan Hatherley wedi iddi brofi trawma personol ei hun, fel yr ysgogodd hi i ddechrau ei busnes ei hun, gan gynorthwyo eraill i dorri’n rhydd oddi wrth eu hofnau a’u pryderon. Yn awyddus i ddechrau arni gyda’r busnes, cysylltodd Susan â ni yn...
Mae syrcas gyfoes fyd-enwog yn dod i Abertawe a bydd gŵyl ffuglen drosedd ryngwladol yn cael ei chynnal yn Aberystwyth yn 2023, diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru. Mae’r Pentref Syrcas yn dod i Abertawe am y tro cyntaf, dan arweiniad y syrcas sydd wedi ennill bri rhyngwladol, NoFit State Circus, mewn partneriaeth â chwmnïau ac artistiaid syrcas blaenllaw, a bydd gŵyl ffuglen drosedd ryngwladol yn Aberystwyth yn derbyn cyllid gan Digwyddiadau Cymru ar gyfer...
Loft Solutions NW Ltd
Mae Busnes Cymru wedi cefnogi gyda chymaint o wahanol agweddau ar ein busnes. Rydym wedi ennill gwybodaeth a chymorth sylweddol. Colette Lhombreaud a'i brawd, Rob Morris yw cyfarwyddwyr Loft Solutions NW Ltd, cwmni teuluol sy'n bordio llofftydd. Mae'r cwmni yn creu mannau storio mewn llofftydd yng nghartrefi pobl, yn ogystal ag insiwleiddio llofftydd a gosod ysgolion a gorddrysau. Mae'r busnes wedi manteisio ar lu o gymorth gan Busnes Cymru ers 2018. I ddechrau cawsant gymorth...
Cyhoeddodd Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi (CThEF) y bydd gan allforwyr fwy o amser i symud ar draws i'r Gwasanaeth Datganiadau Tollau. Yn dilyn ymgynghoriad â'r diwydiant ar y ffiniau, bydd gan allforwyr hyd at 30 Tachwedd 2023 i symud ar draws i'r Gwasanaeth Datganiadau Tollau (CDS), 8 mis yn ddiweddarach na'r hyn a gyhoeddwyd yn flaenorol. Ar ôl 30 Tachwedd 2023, bydd angen i fusnesau ddefnyddio CDS i wneud datganiadau allforio ar gyfer nwyddau...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.