Mae Wythnos Gwirfoddoli yn ddigwyddiad blynyddol pan mae elusennau, grwpiau gwirfoddol, sefydliadau cymdeithasol, a gwirfoddolwyr eu hunain, yn dod at ei gilydd i gydnabod yr effaith anhygoel a gaiff gwirfoddoli mewn cymunedau ledled y DU. Eleni, bydd pen-blwydd Wythnos Gwirfoddoli yn 40 oed. Bydd yr wythnos yn lansio ddydd Llun, 3 Mehefin 2024 ac yn para tan ddydd Sul, 9 Mehefin 2024. Mae gwirfoddoli’n creu cysylltiadau, yn meithrin sgiliau ac yn rhoi rhywbeth yn ôl...