BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Archives

1291 canlyniadau

Mae arolwg ar-lein y Cynllun Ffermio Cynaliadwy wedi cael ei estyn i 21 Tachwedd, i sicrhau bod gan bobl ddigon o amser i roi eu hadborth gwerthfawr ar gamau gweithredu a phrosesau arfaethedig y cynllun. Mae camau i gefnogi cynhyrchu bwyd mewn modd cynaliadwy, i wella bioamrywiaeth ac i atgyfnerthu'r economi wledig yn rhan o'r cynigion sy'n amlinellu'r camau nesaf yn y gwaith o lunio cynllun blaengar Cymru ar gyfer cefnogi ffermwyr. Mae'r Cynllun Ffermio...
Mae Enterprise Nation, Uber a Be Inclusive Hospitality yn ymuno i gefnogi cwmnïau drwy'r Gronfa Busnesau Pobl Dduon. Bydd y gronfa’n dosbarthu £250,000 i gwmnïau sy'n eiddo i bobl dduon yn y diwydiant arlwyo sy'n dal i frwydro i adfer yn dilyn y pandemig ac sydd nawr yn wynebu argyfyngau ynni a chostau byw. Gall bwytai sy'n eiddo i bobl dduon gyda llai na phum lleoliad wneud cais i'r gronfa am grant. Bydd 25 o...
Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig y bydd rhagor o gategorïau eiddo yn cael eu heithrio rhag talu premiwm y dreth gyngor ar ail gartrefi, gan reoli effaith rheolau treth lleol newydd i wahaniaethu rhwng ail gartrefi a llety hunanddarpar. Bydd canllawiau ychwanegol hefyd ar y disgresiwn fydd gan awdurdodau lleol o ran defnyddio’r premiymau. Daw hyn yn sgil trafod ac ymgysylltu parhaus â chynghorau, cymunedau a'r diwydiant twristiaeth. Bwriad y newidiadau treth, a fydd mewn...
Ar 19 Tachwedd 2022 bydd Diwrnod Rhyngwladol y Dynion yn dathlu'r gwerth cadarnhaol mae dynion yn ei gynnig i'r byd, i’w teuluoedd ac i'w cymunedau. Mae'r diwrnod yn tynnu sylw at fodelau rôl cadarnhaol ac yn codi ymwybyddiaeth o lesiant dynion. Ar lefel leol, gall pobl, elusennau, cyflogwyr a sefydliadau benderfynu defnyddio unrhyw feysydd, materion neu weithgareddau o’u dewis i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Dynion. I'w helpu i gael syniadau, fe wnaeth llawer o bobl...
Ydych chi’n fusnes gwyrdd newydd neu’n eco-entrepreneur gyda syniad ardderchog yn y sector economi gylchol a’r economi werdd? Mae Gwobr Green Alley yn chwilio am syniadau gwyrdd gwych, gwasanaethau, cynhyrchion a thechnolegau newydd a all droi gwastraff yn adnodd. Yn gyfnewid am hynny, maent yn cynnig cefnogaeth strategol, cyfleoedd rhwydweithio ac arbenigedd mewn ymuno â’r economi gylchol ledled Ewrop, a gwobr ariannol gwerth €25,000. Rhaid i fusnesau newydd sy’n gwneud cais ar gyfer y Green...
Sefydlwyd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg gan Lywodraeth Cymru i wneud argymhellion ar sut i helpu gwneud yn siŵr y gall ein holl gymunedau Cymraeg ffynnu. Maen nhw’n dymuno clywed gan aelodau o'r cyhoedd a mudiadau ar bob math o faterion sy'n effeithio ar gymunedau Cymraeg, o dai ac addysg i ddatblygiad cymunedol ac adfywio. Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 13 Ionawr 2023. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Dyfodol cymunedau Cymraeg: galwad...
Mae Cymru wedi hen ennill ei phlwyf fel ailgylchwr gorau’r DU ac mae’r ystadegau newydd a gyhoeddwyd heddiw (10 Tachwedd 2022) yn dangos ein bod yn rhagori ar y targed ailgylchu statudol o 64% gan daro 65.2%. Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £1 biliwn mewn ailgylchu ers datganoli, ac mae hynny wedi helpu codi cyfraddau o’r 4.8% pitw ym 1998-99 i 65% a mwy heddiw. Yn 2024-25, bydd y targed statudol yn cael ei godi...
Cyngor i weithwyr Adnoddau Dynol proffesiynol, rheolwyr llinell a chydweithwyr i gefnogi gweithwyr gyda COVID hir. Roedd amcangyfrif o 1.3 miliwn o bobl yn y DU yn dioddef COVID hir ym mis Ionawr 2022. Mae cefnogi gweithwyr sydd â COVID hir i ddychwelyd i'r gwaith ac aros yn y gwaith yn bwysig ar gyfer eu hadferiad ac i'ch sefydliad. Gan dynnu ar ymchwil CIPD, sy'n cynnwys gweithwyr sy'n dychwelyd i'r gwaith, rheolwyr llinell, iechyd galwedigaethol...
Helpu busnesau uchelgeisiol i gydweithio ac ehangu mewn marchnadoedd newydd, gan gyflymu twf busnes. Cefnogir hyd at 15 o fusnesau arloesol twf uchel yn ystod pob Rhaglen Arloesi Busnes Byd-eang (GBIP). Maent yn archwilio ac yn manteisio ar y cyfleoedd cydweithio, twf ac arloesedd sy'n bodoli mewn marchnad fusnes benodol o amgylch thema benodol, o amaeth-dechnoleg i ddeallusrwydd artiffisial. Mae'r GBIP yn darparu gwybodaeth fanwl am y farchnad, cyflwyniadau a mewnwelediad diwylliannol y byddai BBaChau...
Ein gwlad, ein hinsawdd, ein cydgyfrifoldeb. Bydd yr Wythnos eleni’n cael ei chynnal yn union ar ôl COP27 (uwchgynhadledd ryngwladol nesaf ‘Cynhadledd y Partïon’ ar newid hinsawdd, yn yr Aifft rhwng 6 a 18 Tachwedd 2022). Mae Wythnos Hinsawdd Cymru 2022, 21 i 25 Tachwedd, yn gyfuniad o ddigwyddiadau rhithiol ac wyneb yn wyneb, wedi'u trefnu i rannu arfer gorau a chefnogi ymrwymiad parhaus Cymru i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd. Mae...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.