BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Archives

1351 canlyniadau

Cynllun newydd ledled y DU yw Help to Grow: Digital sy’n helpu busnesau bach a chanolig i fabwysiadu technolegau digidol sydd wedi’u profi fel rhai sy’n cynyddu eu cynhyrchiant. Bydd y cynllun yn cynnig cyngor diduedd ac am ddim i BBaChau ar sut gall technoleg helpu eu busnes. Bydd platfform ar-lein yn eu helpu i: nodi eu hanghenion technoleg ddigidol asesu opsiynau o ran prynu technoleg rhoi technolegau newydd ar waith yn eu gweithrediadau Bydd...
Mae Gweinidogion wedi cadarnhau heddiw bod rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru sy'n helpu pobl 19 oed a hŷn i wella eu sgiliau a'u rhagolygon cyflogaeth wedi cael hwb o £3 miliwn i ganolbwyntio ar sgiliau digidol a sgiliau sero net. Mae Cyfrifon Dysgu Personol yn cefnogi unigolion ar incwm is a'r rheini y mae eu swyddi mewn perygl, i ddysgu sgiliau newydd, ennill cymwysterau newydd a helpu i newid trywydd eu gyrfaoedd. Bydd £1...
Helpwch ni i dorri'r stigma fel bod pobl o bob oed yn gallu cyflawni eu gwir botensial yn y gwaith. Mae'r menopos yn gyfnod naturiol o fywyd ac eto mae'n parhau'n bwnc tabŵ mewn sawl gweithle. Mae pobl sy'n profi symptomau'r menopos angen yr un gefnogaeth a dealltwriaeth gan eu cyflogwr ag unrhyw un sy'n profi unrhyw gyflwr iechyd parhaus. Mae angen i gyflogwyr dorri'r stigma a'r tabŵ sy'n gysylltiedig â'r menopos yn y gwaith...
Mae’n bleser gan FareShare Cymru gyhoeddi bod Cronfa Bwyd dros Ben ag Amcan Cymru ar agor ar gyfer ceisiadau gan fusnesau bwyd a diod o bob maint, sector a lleoliad yng Nghymru. Ar ôl llwyddiant y cyllid cychwynnol, mae FareShare Cymru wedi derbyn ail rownd o gyllid gan Lywodraeth Cymru i wneud llwyth o les i nifer aruthrol o bobl ledled Cymru. Er enghraifft, gallai ffermwr neu dyfwr cynnyrch ffres wynebu costau o gynaeafu cnydau...
Taste Of Turner
Mae Busnes Cymru wedi fy helpu i sefydlu busnes fy hun o’r hyn rwy’n frwd drosto, Mae Taste of Turner wedi mynd o nerth i nerth. Lansiwyd Taste of Turner​​​​​​, sydd wedi’i ysbrydoli gan fwydydd y Caribî, ym mis Awst 2020, pan gymerodd iechyd meddwl Simon Turner dro er gwaeth. Gyda’i frwdfrydedd dros goginio bwydydd ei dreftadaeth, pan ddaeth o hyd i focs yn yr atig yn llawn cardiau ryseitiau o Saint Lucia drwy gyd-ddigwyddiad...
Mae saith o fusnesau o Gymru sydd ag arbenigedd sy’n amrywio o faes peirianneg a gofal cleifion i chwaraeon ar lawr gwlad yn mynd i UDA yr wythnos hon fel rhan o daith fasnach dan arweiniad Llywodraeth Cymru. Mae'r cynrychiolwyr yn mynd i Ogledd Carolina a De Carolina, lle byddant yn cwrdd â busnesau a chwsmeriaid a phartneriaid newydd posibl. Mae'n rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gefnogi busnesau Cymru i dyfu yng Nghymru a...
Mae Canghellor y Trysorlys, Jeremy Hunt, wedi cyflwyno nifer o fesurau Cynllun Cyllidol Tymor Canolig 31 Hydref yn gynharach. Yn ei ddatganiad, cyhoeddodd y Canghellor ei fod yn gwrthdroi bron pob un o’r mesurau treth a amlinellwyd yn y Cynllun Twf na ddeddfwyd ar eu cyfer yn y senedd. Ni fydd y polisïau treth canlynol yn cael eu dwyn ymlaen mwyach: Torri cyfradd sylfaenol y dreth incwm i 19% o Ebrill 2023. Bydd y gyfradd...
SUP Hike Explore Ltd
Mae Busnes Cymru wedi rhoi cymorth gwych ac adnoddau i’m cynorthwyo ar fy nhaith fusnes. Ar ôl ystyried dechrau busnes am sbel, fe drodd Kris Roach ei ddiddordeb a’i frwdfrydedd dros badlfyrddio yn fusnes ei hun. Drwy fynychu gweminar a chael cyfarfodydd 1 i 1 gydag ymgynghorwyr busnes arbenigol; trafod ei gynllun busnes, sut i ddatblygu strategaeth farchnata a chreu rhagolwg o lif arian, cafodd Kris yr hyder i wireddu ei nod o agor ei...
Cafodd y Diwrnod Mentora Cenedlaethol ei sefydlu er mwyn cydnabod manteision sylweddol mentora ar draws y DU ac mae’n cael ei gynnal ar 27 Hydref bob blwyddyn. Mae mentora yn golygu bod un person yn rhoi cymorth i’r llall, a gall wneud gwahaniaeth sylweddol i wybodaeth, gwaith, a ffordd o feddwl y sawl sy’n cael ei fentora. Mae pawb - unigolion, cwmnïau, ysgolion, cymunedau, prifysgolion a llywodraethau, yn cael eu hannog i rannu eu straeon...
Bwriad iteriad newydd y Cynllun Benthyciadau Adfer (RLS) yw cefnogi mynediad at gyllid i fusnesau yn y DU wrth iddynt geisio buddsoddi a thyfu. Bydd yn cefnogi maint cyfleusterau o hyd at £2miliwn ar gyfer benthycwyr y tu allan i gwmpas Protocol Gogledd Iwerddon. Gall benthycwyr sy’n cael eu cwmpasu gan Brotocol Gogledd Iwerddon fenthyg hyd at £1miliwn oni bai eu bod yn gweithredu mewn sector lle mae terfynau cymorth yn cael eu lleihau -...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.