Archives
1451 canlyniadau
Dylai pob busnes sydd wedi'i gofrestru ar gyfer TAW bellach fod wedi cofrestru ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol (MTD) a defnyddio meddalwedd sy'n gydnaws â MTD i gadw eu cofnodion TAW a ffeilio eu ffurflenni TAW. Hyd yn oed os ydych chi eisoes yn cadw cofnodion digidol, rhaid i chi wirio eich bod yn defnyddio meddalwedd gydnaws i ffeilio'ch ffurflenni TAW. Mae rhestr lawn o feddalwedd sy’n gydnaws â Troi Treth yn Ddigidol ar...
Mae Gwobrau’r Frenhines am Fenter yn dathlu cyflawniad eithriadol gan fusnesau o’r Deyrnas Unedig yn y categorïau canlynol: arloesedd masnach ryngwladol datblygu cynaliadwy hyrwyddo cyfle trwy symudedd cymdeithasol Os byddwch yn ennill: byddwch yn cael gwahoddiad i dderbyniad Brenhinol byddwch yn derbyn y wobr yn eich cwmni gan un o gynrychiolwyr y Frenhines, Arglwydd Raglaw byddwch yn gallu chwifio baner Gwobrau’r Frenhines yn eich prif swyddfa, a defnyddio’r arwyddlun ar eich deunyddiau marchnata (er enghraifft...
Mae Wythnos Ffasiwn Gynaliadwy (SFW) yn wythnos o weithgarwch cymunedol, sy’n dod â phobl at ei gilydd i ysbrydoli, uwchsgilio a grymuso'r gymuned i wneud dewisiadau ffasiwn cynaliadwy. Mae'r Gymdeithas Manwerthu Elusennol (CRA) yn noddi Wythnos Ffasiwn Gynaliadwy, rhwng 16 a 25 Medi 2022, gyda digwyddiadau cymunedol yn digwydd rhwng 19 a 25 Medi 2022. Gallwch gynnal eich digwyddiad ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod hwn. Dyma bedair thema gweithgareddau'r wythnos: ailwisgo ailbwrpasu adfywio...
Mae'r Cynllun Masnachu Gwledydd Sy'n Datblygu (DCTS) yn sicrhau y gall busnesau o Brydain gael mynediad at gannoedd o gynhyrchion o bob cwr o'r byd am brisiau is. Mae'r DCTS yn cynnwys 65 o wledydd ar draws Affrica, Asia, rhanbarth Oceania a gwledydd gogledd a de America, gan gynnwys rhai o wledydd tlotaf y byd. Mae'r cynllun hefyd yn symleiddio rheolau masnach cymhleth fel rheolau tarddiad – y rheolau sy'n mynnu pa gyfran o gynnyrch...
Cynhelir Cynhadledd Hydref Cymunedau Arloesi’r Economi Gylchol (CEIC) ar 27 Medi 2022 ac mae'n wahoddiad agored i hyrwyddwyr amgylcheddol o bob rhan o dde Cymru a thu hwnt i drafod sut y gall ymdrechion graddol gael effaith sylweddol. Mae rhaglen CEIC yn galluogi cydweithwyr o bob rhan o'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector i gydweithio a chreu cymunedau ymarfer i ddatblygu atebion arloesol i her fwyaf ein cenhedlaeth, mae'n debyg. Bydd Cynhadledd Hydref CEIC yn...
Mae helpu pobl ag anableddau dysgu i ddod o hyd i waith yn rhan allweddol o’n cynllun gweithredu i sicrhau eu bod yn cael cyfle i fyw bywydau llawn ac annibynnol, yn ôl y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, a oedd yn siarad heddiw (23 August 2022) ar ôl cyfarfod â dyn o Gaerdydd sy’n dathlu carreg filltir yn ei waith. Cyfarfu Mrs Morgan â Harry Clements, 28, sydd â syndrom Down, yn ei...
Gwobrau Dewi Sant yw gwobrau cenedlaethol Cymru sy’n cydnabod llwyddiannau eithriadol pobl wahanol o Gymru a thu hwnt. Mae 10 Gwobr Dewi Sant, a'r cyhoedd sy’n enwebu am 9 ohonynt: Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg Busnes Chwaraeon Dewrder Diwylliant Gweithiwr critigol (gweithiwr allweddol) Pencampwr yr Amgylchedd Person Ifanc Ysbryd y Gymuned Gwobr Arbennig Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno enwebiadau yw 31 Hydref 2022. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Enwebwch nawr | LLYW.CYMRU
Wrth i blant ddychwelyd i'r ysgol ar ôl gwyliau’r haf, mae Adran Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM) yn atgoffa teuluoedd a allai fod yn colli allan ar Ofal Plant Di-Dreth i gofrestru. Mae teuluoedd yn cael hyd at £500 bob tri mis (£2,000 y flwyddyn) fesul plentyn, neu £1,000 (£4,000 y flwyddyn) os yw eu plentyn yn anabl, gan helpu tuag at gost clybiau cyn ac ar ôl ysgol, gwarchodwyr plant a meithrinfeydd, clybiau...
Mae grantiau dechrau busnes carbon sero net yn cynnig cymorth ariannol i egin fusnesau cymdeithasol Cymreig ddechrau masnachu neu fuddsoddi, ynghyd â chymorth technegol i ymwreiddio arferion sy’n ystyriol o’r hinsawdd. Cynllun peilot yw’r Grant dechrau busnes carbon sero net sy’n ceisio helpu egin fusnesau cymdeithasol i lwyddo, gan ymwreiddio arferion sy’n ystyriol o’r hinsawdd ar yr un pryd. Mae Cylch 2 y cynllun ar agor nawr i unrhyw fusnes cymdeithasol neu fudiad masnachu gwirfoddol...
Rhaid i gyflogwyr sicrhau bod digon o awyru mewn rhannau caeedig o'u gweithle. Gwyliwch fideo yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) sy'n nodi'r cyngor allweddol ar gyfer darparu digon o awyr iach yn y gwaith. Mae tudalennau gwe yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch hefyd yn rhoi cyngor ar wella awyru yn y gweithle. Mae'r tudalennau'n cynnwys golwg ar: pam mae awyru mor bwysig sut i wella awyru sut i gadw'r tymheredd yn gyfforddus...
Pagination
- Previous page
- Page 145
- Next page