BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Archives

1601 canlyniadau

Ar 13 Mehefin 2022, cyflwynodd yr Ysgrifennydd Tramor Fil Protocol Gogledd Iwerddon i'r Senedd. Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cyhoeddi dogfen sy'n crynhoi'r materion sy'n codi o Brotocol Gogledd Iwerddon fel y mae, a sut y mae'r Bil yn ceisio eu datrys. Am y tro, ac wrth i'r ddeddfwriaeth newydd fynd drwy'r Senedd, bydd y trefniadau presennol yn parhau; gyda busnesau'n gallu parhau i symud nwyddau i mewn ac allan o Ogledd Iwerddon yn...
Xscape Rooms Ltd
Helpodd Busnes Cymru ni i agor ein busnes‘escape room’, gan ddod â’n breuddwyd ac atyniad oedd mawr ei angen i Fangor. Daeth Nick at Busnes Cymru gan ei fod ef a’i frawd yn awyddus i gychwyn y busnes ‘escape rooms’ cyntaf ym Mangor. Mynychodd weminar Busnes Cymru, Cychwyn a Rhedeg Busnes a derbyniodd gefnogaeth un i un gan ei gynghorydd, a gynorthwyodd gyda’u cais Cronfa Entrepreneuriaeth Canol Tref. Gyda’r gefnogaeth a’r cyngor a roddwyd, roedd...
Mae Canolfan Fusnes ac Eiddo Deallusol y Llyfrgell Brydeinig (BIPC) wedi ail-lansio ei rhaglen 'Reset. Restart' o weminarau am ddim, a gynlluniwyd i'ch helpu i oresgyn rhwystrau a ffynnu yn yr hinsawdd bresennol. Dechreuodd Restart yn ystod anterth pandemig COVID-19 gyda'r nod o gefnogi busnesau bach i addasu a dod drwy’r gwaethaf. Er bod y set o heriau y mae perchnogion busnes yn eu hwynebu heddiw wedi newid, mae'r cymorth yr un mor angenrheidiol nawr...
Sicrhewch eich bod yn adlewyrchu trothwyon NIC uwch yn gywir yn eich cyflogres ym mis Gorffennaf. Ar 23 Mawrth 2022, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai trothwyon Yswiriant Gwladol yn cynyddu o 6 Gorffennaf 2022 ymlaen. Er mwyn darparu ar gyfer y newid hwn, bydd angen diweddaru meddalwedd cyflogres, gan gynnwys Offer TWE Sylfaenol CThEM. Gall hyn ddigwydd yn awtomatig, neu efallai y bydd angen i chi weithredu. Mae'n bwysig bod taliadau sydd i'w gwneud...
Dolforwyn Hall Country House
Ers prynu Dolforwyn Hall Country House, mae’r croeso cynnes rydym wedi ei dderbyn, nid yn unig gan bawb yn yr ardal leol, ond hefyd y gefnogaeth ragweithiol gan Busnes Cymru, sydd wedi bod yn amhrisiadwy i’r busnes newydd o ran cyngor, cyfarwyddo a chreu cysylltiadau cyflym i mi gydag adnoddau arbenigol gan ddarparu ymagwedd gyson gadarnhaol a chalonogol, wedi fy mhlesio’n fawr. Mae eu tîm brwdfrydig a phroffesiynol yn wych i gydweithio â nhw. Fel...
Mae MADE Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi trefnu cyfres o ddigwyddiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb am ddim i hysbysu, ennyn diddordeb ac ysbrydoli busnesau. Bydd yr Uwchgynhadledd Diwydiant, a gynhelir rhwng 21 a 23 Mehefin 2022, yn trafod sut y gall busnesau gweithgynhyrchu yng Nghymru droi heriau ôl-Covid yn gyfleoedd drwy gydweithio â'r byd academaidd. Bydd yr uwchgynhadledd yn cael ei hagor gan Julie James, AS, y Gweinidog dros Newid...
CVS Technical Limited
Mae Busnes Cymru wedi bod yn gymorth gwych i mi wrth i mi ddechrau fy nghwmni, ac wedi aros mewn cysylltiad â mi. A minau'n unigolyn anabl ifanc, maen nhw wedi fy nghyfeirio at lawer o ymgynghorwyr sy'n fy neall i'n bersonol, fy nghyflwr a fy nhargedau ar gyfer fy musnes. Mae'r cymorth rwyf wedi'i gael gan Busnes Cymru wedi fy ngalluogi i gymryd y cam enfawr hwn yn 22 oed, ac ni fyddwn wedi...
Mae llywodraeth y DU yn cau'r cynllun grant ceir trydan i archebion newydd, o 14 Mehefin 2022, ar ôl rhoi hwb llwyddiannus i chwyldro ceir trydan y DU a chefnogi gwerthu bron hanner miliwn o geir trydan. Er mwyn parhau ag ymgyrch llywodraeth y DU tuag at sero net a sicrhau defnydd effeithiol o arian trethdalwyr, bydd £300 miliwn o gyllid grant yn cael ei ailganolbwyntio nawr ar ymestyn grantiau ceir trydan i hybu gwerthu...
Taffs Equine Haulage
Hoffwn ddiolch i bawb yn Busnes Cymru am yr holl help a chymorth arbennig rwyf wedi’i gael o’r dechrau un, o gysylltu â chi ynghylch sefydlu fy musnes fy hun, hyd at y gefnogaeth wedyn. Fel person anabl, roeddwn wedi meddwl y byddai’n amhosibl cyflawni fy nyheadau, ond gyda help a dealltwriaeth holl staff Busnes Cymru, mae modd gwireddu breuddwydion. Hoffwn ddiolch i bawb yn bersonol am eu holl gymorth. Pan oedd Nigel Christo-Jones, entrepreneur...
Mae'r enwebiadau bellach ar agor ar gyfer Gwobrau Gwarchodwyr Parciau 2022! Mae'r ymgyrch dros Barciau Cenedlaethol unwaith eto wedi ymuno â BBC Countryfile Magazine ar gyfer Gwobrau Gwarchodwyr Parciau 2022. Mae Parciau Cenedlaethol yn wynebu heriau enfawr, o effaith yr argyfwng hinsawdd i dros ddegawd o doriadau mewn cyllid, gan ei gwneud hi’n anoddach ymdopi â'r nifer uchaf erioed o ymwelwyr. Mae Gwarchodwyr Parciau yn sicrhau y gofelir am y dirwedd ac y gall mwy...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.