BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Archives

1731 canlyniadau

Mae’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) wedi agor cystadleuaeth newydd fel rhan o’r Gronfa Trawsnewid Ynni Diwydiannol (IETF): Cam 2 ar gyfer Gwanwyn 2022, a byddant yn cynnal cyfres o gymorthfeydd ar gyfer rhanddeiliaid drwy gydol cyfnod y gystadleuaeth i helpu a chefnogi busnesau sydd â diddordeb. Gall busnesau yng Nghymru wneud cais am gyfran o hyd at £60 miliwn o gyllid grant drwy'r cyfnod cystadlu, a fydd ar agor o 31 Ionawr...
Mae’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru yn estyn gwahoddiad i chi ymuno â sgwrs genedlaethol ynglŷn â’r ffordd y caiff Cymru ei rhedeg. Mae ein tasg yn cynnwys edrych ar y trefniadau presennol, pwy sydd â’r pŵer dros beth, y rheolau cyfredol ar sut caiff Cymru ei rhedeg, ac os mai dyma’r ffyrdd gorau o drefnu pethau, gan gynnwys: pwy sy’n gwneud y penderfyniadau gwleidyddol sy’n effeithio ar bobl Cymru, a sut y caiff...
Mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi heddiw (6 Ebrill 2022) bod Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid gwerth £4.5 miliwn i ddatblygu sylfaen sgiliau busnesau a chreu gweithlu yng Nghymru sy'n barod i fanteisio ar gyfleoedd economaidd yn y dyfodol. Mae'r Rhaglen Sgiliau Hyblyg (FSP), a ddechreuodd yn 2015, yn darparu ymyriadau sgiliau wedi'u targedu ochr yn ochr â rhaglenni sy'n bodoli eisoes, neu lle mae angen cymorth gan Lywodraeth Cymru ar gyfer prosiect...
Ar hyn o bryd mae llawer o gyflogwyr yn wynebu heriau wrth recriwtio’r bobl y maent eu hangen i helpu eu busnesau i ffynnu. Nid yw erioed wedi bod mor bwysig i’r cyflogwyr hynny gadw a datblygu’r bobl sydd ganddynt eisoes. Felly, mae’n hanfodol bod gan fusnesau’r adnoddau sydd eu hangen arnynt i atal absenoldeb hirdymor a cholli swyddi yn sgil salwch neu anabledd y gellid ei osgoi. Mae Llywodraeth y DU yn profi gwasanaeth...
Mae’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn nodi y byddwn yn 2022-2023, yn gweld y gostyngiad mwyaf mewn safonau byw yn y DU ers i gofnodion ddechrau cael eu cadw. Ac wrth i’r cynnydd mewn Yswiriant Cenedlaethol a’r cap ar bris ynni wthio pobl yn bellach i sefyllfa o galedi, mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt a’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans wedi rhoi manylion y pecyn cymorth y mae Llywodraeth Cymru wedi’i ddatblygu i...
Mae busnesau ac elusennau'n cael eu hannog i gryfhau eu harferion seiberddiogelwch nawr wrth i ffigurau newydd ddangos bod amlder ymosodiadau seiber yn cynyddu. Mae'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC) wedi cyhoeddi nodyn yn datgan nad yw'n ymwybodol o unrhyw fygythiadau seiber penodol cyfredol i sefydliadau'r DU mewn perthynas â digwyddiadau o amgylch yr Wcráin, ond mae'n annog sefydliadau i ddilyn camau syml yn ei chanllawiau i leihau'r risg o ddioddef ymosodiad. Dylai busnesau bach fabwysiadu'r...
Mae Cynllun Seilwaith Cronfa Bwyd Môr y DU ar agor i geisiadau. Bydd isafswm o £250,000 ac uchafswm o £5 miliwn yn cael ei ddyfarnu i ymgeiswyr llwyddiannus i’w fuddsoddi mewn gallu, ynni adnewyddadwy a lles cymdeithasol ac economaidd. Darganfyddwch am y cyllid sydd ar gael drwy’r Cynllun Seilwaith, pwy sy’n gallu gwneud cais a sut caiff eich cais ei asesu: Ynglŷn â'r Cynllun Seilwaith Pwy sy'n gallu gwneud cais Pryd i wneud cais Sut...
Os ydych chi'n ddylunydd ffasiwn creadigol, yn fusnes newydd neu'n BBaCh gyda syniad neu gynnyrch ffasiwn cynaliadwy gwych, gall Fashion For Change eich helpu i roi eich busnes ar waith. Bydd Fashion for Change yn dewis 25 o brosiectau sy'n bodloni ei feini prawf cymhwyso i elwa ar gymorth ariannol a busnes fel rhan o'i Raglen Cyflymu, dan arweiniad o leiaf un BBaCh, dylunydd, neu fusnes newydd (BBaCh, micro-gwmni, neu weithiwr proffesiynol hunangyflogedig) a phartner...
Mae'r Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths, wedi cyhoeddi bod Llywodraeth Cymru yn darparu £227 miliwn dros y tair blynedd nesaf er mwyn helpu i sicrhau bod economi wledig Cymru a'n hamgylchedd naturiol yn parhau’n gryf ac yn gydnerth. Mae'r dyraniad cyllid hwn yn ymateb i ddiwedd Rhaglen Datblygu Gwledig (RhDG) yr UE, a fydd yn cau yn 2023. Bydd yn sicrhau cysondeb o ran cefnogaeth ar gyfer camau gweithredu pwysig a gyllidwyd yn flaenorol o...
Mae Cymru – sy’n drydydd yn y byd am ailgylchu domestig – wedi ymuno â gwledydd eraill y DU i gyflwyno rheolau ‘y llygrwr sy’n talu’ newydd i wneud i fusnesau sy’n gosod nwyddau wedi’u pecynnu ar y farchnad dalu am ailgylchu eu gwastraff. Ond mae Cymru, ochr yn ochr â’r Alban, yn mynd un cam ymhellach drwy ymrwymo i sicrhau bod cwmnïau sy’n gyfrifol am yr eitemau sbwriel mwyaf cyffredin sy’n anharddu strydoedd, cymunedau...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.