BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Archives

1941 canlyniadau

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canlyniad yr ymarfer i nodi cyfleoedd i gynyddu ynni adnewyddadwy yn sylweddol yng Nghymru, gweler y pwyntiau isod a allai fod o ddiddordeb i fusnesau yng Nghymru: Argymhellion 18. Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddod â buddsoddiad newydd i borthladdoedd yng Nghymru. Byddwn yn gweithio gyda phorthladdoedd yng Nghymru i nodi cyfleoedd ar gyfer arbenigo a chydweithredu, ac i sicrhau bod porthladdoedd Cymru yn barod ar gyfer...
Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi canllawiau cryf i gefnogi pobl ledled Cymru dros gyfnod y Nadolig. Bydd Cymru wedyn yn cyflwyno cyfyngiadau newydd, gan gynnwys ar gyfer busnesau a gwasanaethau – a hynny o 27 Rhagfyr 2021 ymlaen. Bydd hyn yn cynnwys rheol cadw pellter cymdeithasol o 2 fetr mewn swyddfeydd a rhoi mesurau ychwanegol ar waith i ddiogelu cwsmeriaid a staff – ee, systemau unffordd a rhwystrau ffisegol. Bydd clybiau nos yn cau hefyd...
Mae'r broses ymgeisio ar gyfer y rownd fwyaf erioed o gynllun cymorth ynni adnewyddadwy blaenllaw llywodraeth y DU bellach ar agor, gyda £285 miliwn ar gael bob blwyddyn er mwyn adeiladu'r genhedlaeth nesaf o brosiectau ynni gwyrdd ym Mhrydain. Gall prosiectau ynni adnewyddadwy ledled gwledydd Prydain wneud cais am gyllid ym mhedwaredd rownd y cynllun Contracts for Difference (CfD), sy'n anelu at sicrhau 12GW o gapasiti trydan – mwy o gapasiti adnewyddadwy na'r 3 rownd...
Wyt ti wedi gweld neu glywed rhywbeth annerbyniol yn y gwaith? Wyt ti wedi clywed cydweithiwr neu ffrind yn gwneud sylw amheus, a tithau heb wybod sut i’w herio am y peth? Mae ymgyrch newydd sy'n galw ar y cyhoedd i herio rhagdybiaethau ynghylch aflonyddu ar fenywod - a ystyrir ar gam ei fod yn ‘ddiniwed’ yn aml - wedi cael ei lansio ledled Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i helpu i godi ymwybyddiaeth...
Bydd gofynion newydd yn cael eu cyflwyno ar gyfer mewnforio rhai nwyddau SPS, fel cig neu blanhigion, i Brydain Fawr o'r UE o 1 Ionawr 2022. Bydd angen rhag-hysbysiad wrth fewnforio'r rhan fwyaf o gynhyrchion sy'n tarddu o anifeiliaid, sgil-gynhyrchion anifeiliaid, bwyd risg uchel nad yw'n dod o anifeiliaid a phlanhigion a chynhyrchion planhigion a reoleiddir o'r UE i Brydain Fawr. Efallai y bydd yn ofynnol i fusnesau (neu gynrychiolydd sy'n gweithredu ar eu rhan)...
Mae Gweinidog yr Economi Vaughan Gething wedi cyhoeddi bod Llywodraeth Cymru’n gweithio gyda Chymdeithas Adeiladu Sir Fynwy i gyflymu’r broses o sefydlu a gweithredu banc cymunedol, Banc Cambria, ledled Cymru. Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru’n cynnwys ymrwymiad i gefnogi’r broses o greu Banc Cymunedol i Gymru, er mwyn ceisio mynd i’r afael â methiant y farchnad mewn perthynas â’r bwlch yn narpariaeth, effeithiolrwydd ac ansawdd gwasanaethau bancio yng Nghymru. Mae nifer cynyddol o gymunedau ledled...
BioAccelerate yw rhaglen sbarduno parodrwydd am fuddsoddiad Arloesi Aber ar gyfer busnesau sydd yn eu camau cynnar a busnesau newydd sydd â’r nod o’ch helpu i wireddu’ch syniad arloesol. Mae ceisiadau ar agor i unigolion neu grwpiau sy’n awyddus i ddatblygu cynnyrch neu wasanaeth newydd yn y sectorau biowyddoniaeth, gofal iechyd, technoleg amaethyddol neu fwyd a diod. Mae cymorth Arloesi gwerth £60,000 ar gael. Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw dydd Mawrth 21...
Mae cynlluniau brys ar droed i gyflymu’r rhaglen brechlyn atgyfnerthu ymhellach, wrth i dysttiolaeth newydd ddangos nad yw dau bigiad yn ddigon i amddiffyn rhag yr amrywiolyn omicron newydd. Ond mae’r pigiad atgyfnerthu’n hollbwysig i wella’r amddiffyniad rhag yr amwyiolyn newydd sy’n lledaenu’n gyflym. Am ragor o wybodaeth ewch i Llyw.Cymru
Mae rhifyn mis Rhagfyr y Bwletin Cyflogwyr yn dod â holl ddiweddariadau a chanllawiau CThEM at ei gilydd i gefnogi cyflogwyr ac asiantau cyflogres. Mae gwybodaeth bwysig i chi am: y Cynllun Talu Wrth Ennill (PAYE) - mae gwybodaeth bwysig i’r rhai sy’n talu gweithwyr yn gynnar ar gyfer y Nadolig, a chyngor a sut i atal a chywiro camgymeriadau cyflogres Pontio’r DU a’r Confensiwn DU-Swistir y cytunwyd arno’n ddiweddar ar gydlynu Nawdd Cymdeithasol a...
Ar ôl dathlu’n 10fed blwyddyn o ail-ddosbarthu bwyd dros ben yn ddiweddar; dymuna FareShare Cymru siarad â busnesau bwyd a diod sy’n profi problemau gyda bwyd dros ben, ac eisiau mynd i’r afael â’u hôl troed carbon. Mae FareShare Cymru yn troi problem amgylcheddol yn ddatrysiad cymdeithasol, trwy weithio gyda phartneriaid yn y diwydiant bwyd a diod i arallgyfeirio’u bwyd dros ben sy’n fwytadwy i bobl fregus Cymru. Gweithiwn gyda dros 150 o grwpiau cymunedol...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.