Diwrnod Atal Gwastraff Bwyd yw’r diwrnod gweithredu mwyaf yn y frwydr yn erbyn gwastraff bwyd ledled y byd, ac fe’i cynhelir ddydd Mercher 24 Ebrill 2024. Mae gwastraff bwyd yn broblem fyd-eang, ac yn ei sgil daw amrywiaeth eang o effeithiau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd. Y nodau yw: Atal gwastraff bwyd byd-eang yn y man cychwyn, trwy storio bwyd yn y ffordd orau bosibl, gwneud defnydd o bob rhan fwytadwy o’r cynhwysyn, a chynllunio prydau...