BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Archives

2081 canlyniadau

Mae Llywodraeth Cymru wedi estyn y cynllun cymhellion i fusnesau ar gyfer recriwtio prentisiaid yng Nghymru tan fis Chwefror 2022. Mae’r Cynllun Cymhellion Cyflogwyr i Brentisiaid yn rhan allweddol o Ymrwymiad Covid Llywodraeth Cymru i gynorthwyo busnesau a gweithwyr i wella o effeithiau’r coronafeirws. Roedd y cynllun i fod i fod i gau ddoe (30 Medi 2021), ond bydd y cynllun nawr yn parhau i gefnogi busnesau tan 28 Chwefror 2022. O dan y cynllun...
Bydd pob cildwrn yn cael ei roi i staff dan gynlluniau newydd i weddnewid arferion rhoi cildwrn gan Lywodraeth y DU. Mae’r rhan fwyaf o weithwyr lletygarwch – llawer ohonynt yn ennill yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu’r Cyflog Byw Cenedlaethol – yn dibynnu ar arian cildwrn i ategu eu hincwm. Ond dengys ymchwil bod llawer o fusnesau sy’n ychwanegu tâl gwasanaeth dewisol ar filiau cwsmeriaid yn cadw rhan o’r taliadau gwasanaeth hyn, yn hytrach na’u...
Mae’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) wedi agor cystadleuaeth newydd y Gronfa Trawsnewid Ynni Diwydiannol (IETF) – Cam 2: hydref 2021. Gall busnesau yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon gyflwyno cynnig am gyfran o hyd at £60 miliwn yn awr mewn cyllid grant drwy’r ffenestr gystadleuaeth newydd, sydd ar agor am geisiadau tan ddydd Llun 6 Rhagfyr 2021. Cynhelir gweminar gyfarwyddyd ar gyfer y gystadleuaeth rhwng 10am a 12:30pm ddydd Mercher 6 Hydref...
Mae'r Fashion, Textiles and Technology Institute (FTTI, UAL) yn gweithio mewn partneriaeth â'r British Council i gefnogi syniadau newydd ar gyfer dyfodol ffasiwn, tecstilau a thechnolegau cysylltiedig cynaliadwy. Mewn ymateb i sbardunau byd-eang, bydd y rhaglen beilot yn annog cydweithredu rhyngwladol i ail-werthuso perthynas y diwydiant â'r newid yn yr hinsawdd, yr amgylchedd a'r angen am dryloywder radical a chyfrifoldeb cymdeithasol. Bydd New Landscapes: Cynllun Grant Ymchwil a Datblygu Ffasiwn, Tecstilau a Thechnoleg (FTT), sydd...
Ar 1 Hydref 2021, bydd y gyfraith o ran labelu alergenau ar fwyd wedi’i becynnu ymlaen llaw i’w werthu’n uniongyrchol (PPDS) yn newid. Mae hyn yn golygu y bydd yn rhaid i unrhyw fusnesau bwyd sy’n gwerthu bwyd PPDS gynnwys rhestr gynhwysion lawn ar label y cynnyrch gyda chynhwysion alergenaidd wedi’u pwysleisio yn y rhestr honno. Daw’r newidiadau, a gyfeirir atynt hefyd fel ‘Cyfraith Natasha’, i rym ar ôl i ferch ifanc o’r enw Natasha...
Yn galw pob entrepreneur benywaidd anhygoel! Ydych chi'n entrepreneur benywaidd anhygoel neu ydych chi'n adnabod rhywun sy'n haeddu cydnabyddiaeth? Bob blwyddyn mae'r ymgyrch yn rhoi sylw i 100 o berchnogion busnesau benywaidd anhygoel er mwyn cydnabod y llanw cynyddol o fenywod sy'n rhedeg busnesau, ond sydd hefyd yn llwyddo i ymdopi â phob math o rolau a chyfrifoldebau sy'n cynorthwyo eu cymheiriaid a'u cymunedau. Mae pob aelod o'r #ialso100 yn cael ei arddangos ar wefan...
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd yn rhaid i ddatblygiadau yng Nghymru yn y dyfodol ystyried y perygl o lifogydd ac erydu arfordirol yn y dyfodol a achosir gan newid hinsawdd. Am y tro cyntaf yn y DU, bydd yn rhaid i ddatblygwyr weithio gyda mapiau perygl llifogydd ac erydu arfordirol sydd ar gael heddiw sydd nid yn unig yn dangos lefelau risg cyfredol, ond hefyd y risg a achosir gan newid hinsawdd. Bydd...
Mae Llywodraeth y DU wedi diweddaru ei chanllawiau ar gyfer hawliadau a wnaed o dan Gynllun Ad-dalu Tâl Salwch Statudol y Coronafeirws. Gall cyflogwyr ddim ond hawlio ad-daliad ar dâl salwch statudol a dalwyd i weithwyr cyflogedig oherwydd Covid-19 a oedd i ffwrdd o'r gwaith ar neu cyn 30 Medi 2021. Bydd Cynllun Ad-dalu Tâl Salwch Statudol y Coronafeirws yn ad-dalu i gyflogwyr y Tâl Salwch Statudol a dalwyd i weithwyr cyflogedig presennol neu gyn-weithwyr...
Rhyddhad treth yw Rhodd Cymorth ar gyfer unigolion sy’n eu galluogi i roi’r dreth incwm neu’r dreth enillion cyfalaf y maent yn ei dalu yn uniongyrchol i elusen ar ben eu rhodd. Mae’n ychwanegu 25c at bob £1 a roddir i elusen. Mae Rhodd Cymorth yn rhyddhad treth bwysig gwerth £1.3 biliwn i’r sector elusennau. Cynhelir Diwrnod Ymwybyddiaeth Rhodd Cymorth eleni ddydd Iau 7 Hydref 2021. Mae’r Grŵp Cyllid Elusennau (CFG) yn gofyn i elusennau...
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd yn uno’r rhestrau teithio gwyrdd ac oren ac yn dileu’r gofyniad am brawf cyn ymadael i’r rhai sydd wedi’u brechu’n llawn. Mae’n bwriadu gwneud y newidiadau erbyn 4 Hydref 2021 yn unol â system newydd Llywodraeth y DU. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ystyried i ba wledydd y bydd yn estyn y system adnabod tystysgrifau brechu yn ystod yr wythnosau nesaf. Am ragor o wybodaeth, ewch i Llyw.Cymru.

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.