BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Archives

2211 canlyniadau

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio cynllun newydd fydd yn helpu busnesau bwyd a diod o Gymru i gael eu cynnyrch ar silffoedd y siopau mwyaf. Mae Cynllun Manwerthu Bwyd a Diod Cymru wedi cael ei ddatblygu gyda chymorth grŵp o arbenigwyr o’r diwydiant i weld mwy o dwf yn nhrosiant y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru o’i gymharu â’r sector yn y DU gyfan. Mae wyth amcan i’r cynllun, gan gynnwys creu llif o...
Mae Acas wedi cyhoeddi cyngor newydd i helpu cyflogwyr ystyried a allai gweithio hybrid fod yn opsiwn ar gyfer eu gweithle a sut i’w gyflwyno’n deg. Math o weithio’n hyblyg yw gweithio hybrid, lle mae staff yn rhannu eu hamser rhwng gweithio o bell a gweithio yng ngweithle eu cyflogwr. Mae’r cyngor yn cynnwys awgrymiadau i gyflogwyr ar sut i: ymgynghori’n eang gyda staff i drafod ystyriaethau ymarferol cyflwyno’r drefn hon ystyried a fyddai’n gweithio...
Mae Cynllun Kickstart yn darparu cyllid i greu swyddi 6 mis newydd ar gyfer pobl ifanc 16 - 24 oed sy’n derbyn Credyd Cynhwysol ac sydd mewn perygl o fod yn ddi-waith yn hirdymor. Gall busnesau ddarllen prosbectws newydd yr Adran Gwaith a Phensiynau i gyflogwyr neu fynychu un o’i gweminarau i gyflogwyr i ddysgu mwy. Mae gwybodaeth am sut i wneud cais ar gael yn gov.uk/kickstart. Mae pecyn cymorth cyfathrebu newydd yn awgrymu dulliau...
Canllawiau i fusnesau twristiaeth a lletygarwch ar sut i gadw gweithwyr ac ymwelwyr yn ddiogel yn ystod y pandemig coronafeirws (COVID-19). Gofalwch eich bod yn ymwybodol o Ganllawiau Lletygarwch y DU Cymru yn ogystal â’r Canllawiau ar gyfer busnesau Twristiaeth a Lletygarwch a’ch bod yn cadw llygad am ddiweddariadau. Gwyliwch y ffilm fer hon i’ch helpu i lywio’ch ffordd o gwmpas y canllawiau. Mae gwybodaeth ar gael hefyd ar newidiadau diweddar a rhai sydd ar...
Bydd gan bobl ledled Cymru y cyfle i ddod yn berchnogion tafarndai, theatrau, swyddfeydd post, caeau chwarae a siopau cornel sydd mewn perygl, diolch i lansiad Cronfa Perchnogaeth Gymunedol Llywodraeth y DU, a fydd yn gweld mwy na £7 miliwn yn cael ei neilltuo ar gyfer prosiectau yng Nghymru. Bydd y gronfa yn para pedair blynedd (hyd 2024/2025). Bydd sawl cylch gwneud cais am arian. Agorodd y cyntaf ar 15 Gorffennaf 2021 a bydd yn...
Yn dilyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE, mae’r broses ar gyfer cwblhau archwiliadau hawl i weithio ar gyfer dinasyddion yr UE, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, a’r Swistir wedi newid. Ni all cyflogwyr dderbyn pasbortau neu gardiau adnabod yr UE bellach fel tystiolaeth ddilys o hawl i weithio, ac eithrio ar gyfer rhai dinasyddion o Iwerddon. Yn hytrach, mae angen i chi wirio hawl ymgeisydd am swydd...
Gyda'r tymheredd yn codi i'r entrychion mewn rhannau o Gymru'r wythnos hon, gwnewch yn siŵr bod y cyngor a'r arweiniad cywir gennych i weithio'n ddiogel. Mae'n bwysig cofio'r risgiau o orboethi wrth weithio mewn amodau poeth. Mae gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ddigon o arweiniad ar dymheredd yn y gweithle, gan gynnwys: A yw'n rhy boeth i weithio? Beth mae'r gyfraith yn ei ddweud Canllawiau gweithio yn yr awyr agored Straen gwres Dysgwch...
Mae Cyllid a Thollau EM (CThEM) yn annog busnesau'r DU i baratoi ar gyfer newidiadau i dollau a fydd yn cael eu cyflwyno dros y 6 mis nesaf. Bydd dros 160,000 o fusnesau yn derbyn llythyr gan CThEM yn esbonio'r camau y dylent eu cymryd i sicrhau y gallant barhau i fasnachu â'r UE. Mae’r rhain yn cynnwys: gwneud datganiadau atodol penodi cyfryngwr tollau gofynion Tystysgrif Iechyd Allforio Bydd CThEM hefyd yn cysylltu â chwsmeriaid...
Mae hyd at 15 o fusnesau arloesol twf uchel yn cael eu cefnogi yn ystod pob Rhaglen Arloesi i Fusnesau Fyd-eang. Maen nhw’n archwilio ac yn manteisio ar y cyfleoedd i gydweithio, tyfu ac arloesi sy’n bodoli mewn marchnad fusnes benodol sy’n canolbwyntio ar thema benodol, o Amaeth i TG. Mae’r Rhaglen Arloesi i Fusnesau Fyd-eang (GBIP) yn rhoi gwybodaeth fanwl am y farchnad, cyflwyniadau a blas diwylliannol y byddai’n anodd i BBaChau ei chael...
Mae rhaglen newydd i helpu cwmnïau o Gymru nad ydynt erioed wedi allforio o'r blaen i werthu eu cynnyrch mewn marchnadoedd rhyngwladol newydd yn cael ei lansio gan Weinidog yr Economi, Vaughan Gething. Bydd y Rhaglen Allforwyr Newydd, sy'n un o'r mentrau cymorth newydd sy'n cael ei chyflwyno fel rhan o gynllun gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer Allforio, yn cefnogi cwmnïau nad ydynt erioed wedi allforio o'r blaen neu sydd wedi allforio'n ysbeidiol, i werthu...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.