BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Archives

2261 canlyniadau

Mae Llywodraeth Cymru yn atgoffa busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch yng Nghymru na fydd yn rhaid iddynt dalu unrhyw ardrethi tan fis Ebrill 2022 wrth i ostyngiadau llawn yn Lloegr ddod i ben ar 1 Gorffennaf. Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi ymestyn y gostyngiad llawn o 100 y cant i bob busnes ac elusen yn y sectorau hamdden a lletygarwch tan fis Ebrill 2022. Bydd manwerthwyr mewn eiddo sydd â gwerth ardrethol o hyd...
Bwriad y Grant Caledi i Denantiaid yw helpu pobl sydd wedi syrthio i ddyled o wyth wythnos neu fwy gyda’u taliadau rhent rhwng 1 Mawrth 2020 a 30 Mehefin 2021. Lluniwyd y grant i helpu pobl i aros yn eu cartrefi a’u hatal rhag colli eu tenantiaeth. Gallai pobl sy’n byw mewn llety rhent preifat ac sydd wedi syrthio i ôl-ddyledion rhent o ganlyniad uniongyrchol i’r pandemig fod yn gymwys ar gyfer y grant. Efallai...
Mae hawliadau o dan y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws (CJRS) bellach ar agor ar gyfer cyfnodau tâl ym mis Mehefin 2021. Rhaid i chi gyflwyno'ch hawliad ar gyfer mis Mehefin 2021 erbyn 14 Gorffennaf 2021. Dyma'r dyddiadau hawlio yn y dyfodol: ar gyfer diwrnodau ffyrlo ym mis Gorffennaf 2021, cyflwynwch eich hawliad erbyn 16 Awst 2021 ar gyfer diwrnodau ffyrlo ym mis Awst 2021, cyflwynwch eich hawliad erbyn 14 Medi 2021 ar...
Mae rhaglen fentora newydd i helpu ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd y DU i gynyddu eu hallforion wedi’i lansio gan yr Adran Masnach Ryngwladol. Bydd y rhaglen, a gynhelir mewn partneriaeth â’r Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB) ac Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr (NFU), yn paru allforwyr profiadol gyda busnesau sy’n gobeithio allforio am y tro cyntaf. Bydd y mentoriaid yn rhoi cymorth a chyngor ymarferol i ddarpar allforwyr drwy gyfarfodydd ford gron, sesiynau mentora a...
Mae Absenoldeb a Chyflog Rhiant a Rennir yn galluogi rhieni sy’n gweithio ledled Prydain i rannu hyd at 50 wythnos o absenoldeb a hyd at 37 wythnos o gyflog o flwyddyn gyntaf bywyd eu plentyn (neu o fewn blwyddyn i leoli plentyn gyda nhw, os yw’r plentyn yn cael ei fabwysiadu). Bydd adnodd ar-lein newydd yn helpu rhieni sy’n disgwyl i rannu amser i ffwrdd yng nghyfnodau allweddol, cynnar bywyd eu babi. Bydd yr adnodd...
Dechreuwyd dosbarthu papur £50 polymer newydd Banc Lloegr ar 23 Mehefin 2021. Mae’n cynnwys wyneb y gwyddonydd Alan Turing. Bydd y darn newydd ar gael mewn canghennau ac mewn peiriannau twll yn y wal yn y dyddiau a’r wythnosau nesaf. Mae’r darn £50 polymer yn cynnwys nodweddion diogelwch uwch. Bydd yn ymuno â £5 Churchill, £10 Austen ac £20 Turner, sy’n golygu bod holl arian papur Banc Lloegr ar gael fel rhai polymer bellach. Mae...
Bydd busnesau sy’n dioddef effeithiau pandemig y coronafeirws (COVID-19) yn cael eu hamddiffyn rhag cael eu troi allan tan ddiwedd mis Medi 2021. Un o’r ymyriadau y mae Llywodraeth Cymru yn ei gyflwyno er mwyn cefnogi busnesau yw estyn y moratoriwm ar fforffedu tenantiaeth am beidio â thalu rhent tan 30 Medi 2021. Roedd y moratoriwm hwnnw i fod i ddod i ben yn wreiddiol ar 30 Mehefin 2021. Bydd y cam hwn yn fodd...
Fel sefydliad neu weithiwr llawrydd sydd wrthi’n gweithio yn y diwydiannau ffilm a theledu yng Nghymru, fe’ch gwahoddir i gymryd rhan mewn ymchwil dan arweiniad Prifysgol De Cymru mewn partneriaeth â Cymru Greadigol. Mae’r Diwydiannau Cynhyrchu Sgrin yng Nghymru wedi gweld twf aruthrol gydol y deng mlynedd diwethaf ac mae’n parhau’n sector twf â blaenoriaeth ar gyfer Llywodraeth Cymru. Mae Arolwg Sgrin Cymru 2021 yn cynnwys cyfrifiad llawn o’r sector cynhyrchu sgrin ledled Cymru am...
Mae arbenigwyr Acas yn cynnal gweminarau rheolaidd ar bynciau cyfraith cyflogaeth a chysylltiadau cyflogaeth. Gallwch ymuno am ddim, y cwbl sydd angen i chi ei wneud yw cofrestru ymlaen llaw. Does dim llawer o leoedd ar gael. Diswyddiadau ar raddfa fach Mae’r gweminar hwn ar gyfer cyflogwyr yn cynnwys prif elfennau proses ddiswyddo, y cyfreithiau cysylltiedig ac arferion da. Cofrestrwch nawr am ‘ddiswyddiadau ar raddfa fach’ Prynhawn Mawrth 29 Mehefin 2021, 2pm tan 3pm Bore...
gofod3 yw’r digwyddiad mwyaf o’i fath i’r sector gwirfoddol yng Nghymru. Sefydlwyd gofod3 yng ngwanwyn 2017 fel digwyddiad undydd blynyddol yng Nghaerdydd, ond mae’r fformat nawr wedi newid i gydymffurfio â chyfyngiadau Covid, ac yn digwydd ar-lein dros gyfnod o bum niwrnod rhwng 28 Mehefin a 2 Gorffennaf 2021. Archwiliwch y raglen lawn i weld beth sydd ar gael, gan gynnwys dros 60 o ddigwyddiadau AM DDIM.

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.