BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Archives

2311 canlyniadau

Oes gennych chi fusnes ger yr arfordir? Os felly, gallech helpu i achub bywydau drwy hyrwyddo rhai o negeseuon diogelwch dŵr allweddol yr RNLI. Wrth i fwy a mwy o bobl barhau i ymweld â’r arfordir, gall busnesau wneud cyfraniad amhrisiadwy at gefnogi’r RNLI drwy ddod yn genhadon diogelwch dŵr. Mae RNLI law yn llaw â Gwylwyr y Glannau yn cynnal yr ymgyrch #ParchwchYDŵr ar gyfer y tymor nofio a gall busnesau fod yn genhadon...
Bydd Rhwydweithiau UK Ability yn cynnal gweminarau 30 munud am ddim i gynnig gwybodaeth ymarferol a defnyddiol i gyflogwyr i’w cadw mewn cysylltiad agos â’r gymuned cyflogwyr Hyderus o ran Anabledd, fel bod cyflogwyr yn derbyn cymorth amserol a phriodol yn ystod ac ar ôl COVID-19 i’w helpu i ddenu, recriwtio, cadw a datblygu pobl anabl yn y gwaith. I wneud hyn yn y ffordd fwyaf effeithiol, mae nifer o Arweinwyr Hyderus o ran Anabledd...
Mae llai na 30 diwrnod ar ôl i ddinasyddion yr UE wneud cais am statws preswylydd sefydlog yn y DU ac rydym yn annog y rheini sy’n byw yng Nghymru i fanteisio ar y cymorth am ddim sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i’w helpu i lenwi’u cais. Mae’r Cynllun hwn gan y Swyddfa Gartref yn cynnig y cyfle i ddinasyddion yr UE, dinasyddion o Ardal Economaidd Ewropeaidd nad yw yn yr UE a dinasyddion...
Mae’r cynllun taliadau newydd ar gyfer y cynllun gohirio talu TAW bellach ar agor i fusnesau a ohiriodd talu TAW rhwng 20 Mawrth a 30 Mehefin 2020 ac a oedd yn methu talu’n llawn erbyn 31 Mawrth 2021. Os ydych chi’n gwneud cais i wasgaru’ch taliadau rhwng 20 Mai a 21 Mehefin, gallwch dalu mewn wyth rhandaliad. 21 Mehefin yw’r dyddiad cau i chi allu ymuno â’r cynllun hwn. Gallwch wneud cais yn gyflym ac...
Mae hawliadau o dan y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws (CJRS) bellach ar agor ar gyfer cyfnodau tâl ym mis Mai 2021. Rhaid i chi gyflwyno'ch hawliad ar gyfer mis Mai 2021 erbyn 14 Mehefin 2021. Dyma'r dyddiadau hawlio yn y dyfodol: ar gyfer diwrnodau ym mis Mehefin 2021, cyflwynwch eich hawliad erbyn 14 Gorffennaf 2021 ar gyfer diwrnodau ffyrlo ym mis Gorffennaf 2021, cyflwynwch eich hawliad erbyn 16 Awst 2021 ar gyfer...
Mae ceisiadau am Gronfa Cadernid Economaidd COVID-19 ar gyfer cymorth busnes rhwng Mai 2021 a Mehefin 2021 bellach ar agor a byddant yn cau am 5pm ar 7 Mehefin 2021. Gofynnir i fusnesau cymwys sydd â throsiant o lai na £85,000 wneud cais drwy eu hawdurdod lleol. Mae Awdurdodau Lleol ledled Cymru wedi dechrau agor ceisiadau ar gyfer y busnesau hynny sy'n gymwys, os nad yw ceisiadau eich Awdurdod Lleol ar gael eto, dylech ailedrych...
Mae MADE Cymru yn gyfres o brosiectau a ariennir gan yr UE a ddarperir gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS). Gall y cyrsiau a achredwyd gan brifysgolion a'n cynllun cymorth busnes dan arweiniad arbenigwyr helpu unigolion a sefydliadau i addasu i heriau Diwydiant 4.0. Drwy alluogi gweithgynhyrchwyr Cymru i fanteisio ar y technolegau uwch diweddaraf, mae y tri phrosiect craidd yn helpu i sicrhau newid aflonyddgar i ddiwydiant cynhyrchu Cymru tra'n annog cydweithio...
Mae busnesau Cymru yn cael eu hannog i wylio gweminar newydd CThEM ar Reolau Tarddiad. Bydd y weminar yn helpu masnachwyr i sicrhau eu bod yn manteisio ar y cyfraddau tariff ffafriol sydd ar gael iddynt ers 1 Ionawr 2021, am nwyddau y maent yn eu masnachu gyda'r UE. Gweminar wedi'i recordio yw hon, y gall masnachwyr weithio drwyddi ar eu liwt eu hunain - ac mae'n defnyddio enghreifftiau ymarferol ac astudiaethau achos i amlinellu...
Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) gyda chymorth rhanddeiliaid y diwydiant wedi cydweithio i gyhoeddi Pecyn Cymorth Siarad am Straen cysylltiedig â Gwaith ar gyfer y sector adeiladu. Mae dechrau’r sgwrs yn gam cyntaf pwysig i atal straen cysylltiedig â gwaith, a bydd y pecyn cymorth yn helpu i wneud hynny. Mae’r pecyn cymorth wedi’i baratoi’n bennaf ar gyfer busnesau bach a chanolig sydd ganddynt weithlu rheolaidd (cyflogedig a chontract) ac sy’n awyddus i...
Manylion y cyfraddau a'r trothwyon pan fyddwch yn gweithredu eich cyflogres neu'n darparu treuliau a buddion i'ch cyflogeion. Defnyddiwch y dolenni canlynol ar gyfer: Treth TWE a chyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 Trothwyon, cyfraddau a chodau treth Trothwyon Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 Cyfraddau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A: treuliau a buddion Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A: dyfarniadau terfynu a thaliadau tysteb chwaraeon Yswiriant Gwladol Dosbarth 1B: Cytundebau Setliad TWE (PSA) Isafswm Cyflog Cenedlaethol...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.