BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Archives

2391 canlyniadau

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi hyd at £30 miliwn i gefnogi sector diwylliant amrywiol Cymru drwy'r pandemig sy’n parhau. Darparodd y Gronfa Adferiad Diwylliannol, a lansiwyd yr haf diwethaf, £63.3 miliwn yn 2020 i 2021 i gefnogi theatrau, lleoliadau cerddoriaeth, safleoedd treftadaeth, digwyddiadau, amgueddfeydd, llyfrgelloedd, orielau, sinemâu annibynnol a gweithwyr llawrydd. Caiff y gronfa ei darparu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru ac awdurdodau lleol. I ddarllen y cyhoeddiad yn llawn, ewch...
Gall busnesau cofrestredig yn y DU wneud cais am gyfran o hyd at £25 miliwn ar gyfer ymchwil a datblygu cam hwyr a ddatblygwyd yn y DU, i gefnogi twf mewn gallu gyriant carbon isel datblygedig yn y sector modurol a'i gadwyn gyflenwi gysylltiedig. Mae Advanced Propulsion Centre (APC) 18 yn chwilio am y canlynol: prosiectau sy'n cefnogi galluoedd hirdymor y DU trwy sicrhau buddsoddiad Ymchwil a Datblygu tymor hir prosiectau y gellir eu cyflawni...
Abdul Rahman Al Dirani
Cefnogaeth a chyllid wedi’i deilwra gan Busnes Cymru yn helpu entrepreneur o Syria i lansio ei fusnes gwella cartrefi yng Nghasnewydd. Yn bensaer profiadol, roedd Abdul Rahman Al Dirani yn wynebu nifer o heriau ar ôl cyrraedd yn y DU. Llwyddodd gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru i greu pecyn cymorth wedi’i deilwra i Abdul yn ei famiaith, Arabeg, i’w helpu i lansio ei fusnes gwaith saer ac addurno yn 2021. Dechrau llwyddiannus. Wedi creu 1...
Os ydych chi’n symud nwyddau rhwng y DU a gwledydd yn yr UE, mae angen i chi ddilyn rheolau tollau a threthi newydd. Bydd y rheolau newydd yn effeithio ar eich busnes os ydych chi’n: prynu nwyddau gan werthwr yn yr UE ac yn dod â’r nwyddau i mewn i’r DU anfon nwyddau rydych chi wedi’u gwerthu i brynwr mewn gwlad yn yr UE. heb gyfnewid arian ond angen symud cyfarpar rydych chi’n ei ddefnyddio...
Mae’r Sefydliad Twristiaeth Gymdeithasol Rhyngwladol (ITSO) yn dwyn ynghyd rhanddeiliaid o’r sectorau twristiaeth gymdeithasol, gynaliadwy ac undod o bedwar ban byd, i hyrwyddo twristiaeth hygyrch a chyfrifol. Yn ddiweddar, cyhoeddodd yr ITSO ei Argymhellion er mwyn helpu darparwyr twristiaeth wrth iddynt groesawu pobl ag anableddau yn ystod argyfwng iechyd fel COVID-19. Ewch i wefan yr ITSO am ragor o wybodaeth am dwristiaeth deg a chynaliadwy.
Gallwch nawr gyflwyno eich ceisiadau am gyfnodau ym mis Mawrth. Rhaid eu gwneud erbyn dydd Mercher 14 Ebrill 2021. Gallwch hawlio cyn, yn ystod neu ar ôl i chi brosesu eich cyflogres. Os gallwch chi, mae'n well gwneud hawliad unwaith y byddwch yn siŵr o union nifer yr oriau y bu eich cyflogeion yn gweithio fel nad oes rhaid i chi newid eich hawliad yn nes ymlaen. Gwnewch yn siŵr eich bod chi a'ch gweithwyr...
Os yw’ch busnes yn defnyddio, gwneud, gwerthu neu fewnforio cemegion yn y DU a’r UE, edrychwch sut mae cydymffurfio â rheoliadau cemegion REACH yr UE a’r DU. Mae REACH y DU yn rhan o gyfundrefn rheoleiddio cemegion y DU. Os ydych chi’n gwerthu neu ddosbarthu cemegion yn y DU neu’r UE, bydd angen i chi gadw at reolau REACH y DU a REACH yr UE. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.
Bydd sector twristiaeth Cymru yn gallu dechrau ailagor dydd Sadwrn 27 Mawrth 2021 wrth i'r rheol aros yn lleol gael ei chodi, yn ôl cyhoeddiad gan Mark Drakeford, y Prif Weinidog. Bydd y rheol aros yn lleol yn cael ei disodli gan ardal deithio dros dro i Gymru gyfan, a fydd yn parhau i fod ar waith tan 12 Ebrill 2021, yn amodol ar sefyllfa iechyd y cyhoedd. Am y pythefnos nesaf, dim ond y...
Yn 2021, gohiriwyd gorfodi rheoliadau’r Bwlch Cyflog rhwng y Rhywiau, ac mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi cyhoeddi y bydd cyflogwyr eleni’n wynebu camau gorfodi os nad ydynt yn adrodd ar eu data. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i unrhyw sefydliad sy’n cyflogi dros 250 o aelodau staff gyhoeddi gwybodaeth am eu bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Fodd bynnag, yn sgil yr heriau sy’n wynebu llawer o gyflogwyr ar hyn o bryd...
O dan y cyfyngiadau presennol, mae hi’n anhebygol y byddwch yn teithio dramor, ond os ydych chi’n bwriadu teithio i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd neu’r Swistir at ddibenion gwaith neu fusnes yn y dyfodol, dylech: Weld a oes angen i chi wneud cais am fisa, trwydded waith neu ddogfennaeth arall. Hefyd, bwrwch olwg ar wefannau’r wlad berthnasol i weld manylion gofynion gwneud cais ac amseroedd prosesu os oes angen i chi wneud cais, a gwnewch gais...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.