BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Archives

2431 canlyniadau

Dad’s Farm Ltd.
Busnes bio-olosg newydd a sefydlwyd gyda chefnogaeth Busnes Cymru yng Ngorllewin Cymru yn gobeithio cyfrannu at Gymru carbon niwtral. Gyda phrofiad busnes a ffermio, penderfynodd Carys Taylor a'i gŵr Hemi arallgyfeirio ac ychwanegu at incwm eu fferm drwy lansio busnes newydd, datblygu cynhyrchion bio-olosg – probiotig siarcol sy'n addas ar gyfer garddio/garddwriaeth, amaethyddiaeth a hydroffoneg. Gyda chymorth gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru, lansiodd Carys a Hemi Dad's Farm Ltd yn llwyddiannus, ac maent eisoes yn...
Mae’r Rhaglen Sbarduno Datblygwyr Technoleg yn cefnogi busnesau bach a chanolig, boed yn fusnesau newydd, yn gwmnïau deillio neu’n sefydliadau mwy aeddfed, sydd â syniad sydd yn y camau cynnar am dechnoleg trafnidiaeth ac sy’n awyddus i gyflymu eutaith i gyrraedd y farchnad. Mae’r Rhaglen Sbarduno Datblygwyr Technoleg Cam 5 yn cefnogi busnesau bach a chanolig sy’n datblygu technoleg, cynhyrchion a gwasanaethau modurol arloesol: sy’n cefnogi gweithredu cerbydau heb unrhyw allyriadau, neu; sy’n cefnogi symud...
Mae’r cynllun talu newydd ar gyfer TAW ohiriedig yn agored hyd at ac yn cynnwys 21 Mehefin 2021. Os ydych ar y Cynllun Cyfrifyddu Blynyddol TAW, neu ar y Cynllun Taliadau TAW ar Gyfrif, byddwch yn cael gwahoddiad i ymuno â’r cynllun talu newydd yn hwyrach ym mis Mawrth 2021. Mae’r cynllun newydd yn sicrhau y gallwch wneud y canlynol: talu eich TAW ohiriedig mewn rhandaliadau cyfartal, yn ddi-log dewis nifer y rhandaliadau, rhwng 2...
Mae’r Cynllun Cadw Swyddi drwy Gyfnod y Coronafeirws wedi cael ei ymestyn hyd ddiwedd Medi 2021. Bydd Llywodraeth y DU yn parhau i dalu 80% o gyflogau arferol cyflogeion am yr oriau nad ydyn nhw’n gweithio, hyd at uchafswm o £2,500 y mis, hyd ddiwedd Mehefin 2021. Yn ystod mis Gorffennaf, bydd grantiau’r Cynllun Cadw Swyddi yn talu am 70% o gyflogau arferol cyflogeion am yr oriau nad ydyn nhw’n gweithio, hyd at uchafswm o...
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi llunio canllawiau chyflogwyr er mwyn iddyn nhw fod yn fwy ymwybodol o faterion sy’n ymwneud â chydraddoldeb a hawliau dynol. Maen nhw’n annog cyflogwyr yn y sector preifat a’r sector cyhoeddus i fabwysiadu polisïau gweithle sy’n cynnwys: cam-drin domestig: polisïau yn y gweithle a rheoli a chefnogi cyflogeion eich busnes chi yw iechyd meddwl creu gweithle cyfeillgar i ffydd ar gyfer Mwslimiaid I gael rhagor o wybodaeth ac...
Mae dogfen esboniadol fer wedi’i llunio i’ch helpu i ddeall y rheolau newydd sydd ar waith ar gyfer teithio busnes i Ewrop gyda’r gwaith. Mae’r rheolau hyn yn gymwys i chi os ydych chi’n teithio gyda’ch gwaith i Ewrop, waeth a ydych chi’n mynychu cynhadledd neu’n darparu gwasanaethau ai peidio. Am ragor o wybodaeth am ofynion mynediad, bagiau, enillion, cymwysterau ac yswiriant sy’n gysylltiedig â’ch teithio, cymerwch gip ar y ddogfen esboniadol lawn. Am ragor...
Cynigir Rhaglen Gymorth y Gweithlu Maes gan Swyddfa’r Cabinet i gefnogi busnesau sy’n masnachu gwerth dros £250,000 o nwyddau gyda’r UE bob blwyddyn. Mae’r cymorth sydd ar gael yn amrywio o wahoddiadau i ddigwyddiadau arbenigol, datrys ymholiadau un-i-un, mwy o fynediad at astudiaethau achos busnes a chanllawiau sector-benodol gan arbenigwyr polisi. I fod yn rhan o’r rhaglen hon bydd angen i chi ateb rhai cwestiynau ar eich busnes a’r nwyddau rydych chi’n eu masnachu. Am...
Bydd y DU yn cynnal 26ain Cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig, Cynhadledd y Pleidiau (COP26) yn Glasgow rhwng 1 a 12 Tachwedd 2021. Mae’r broses mynegi diddordeb i wneud cais i gymryd rhan yn y lleoedd a reolir gan Lywodraeth y DU yn COP26 ar agor nawr, tan ddydd Gwener 5 Mawrth am 17:00. Mae hyn yn cynnwys cyfleoedd megis cynnal digwyddiadau, gosodiadau creadigol a gofod arddangos. Rhagor o wybodaeth yma.
Mae ceisiadau wedi agor ar gyfer Grantiau Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, o £3,000 hyd at £5 miliwn. Bydd y grantiau’n blaenoriaethu prosiectau sy’n cyfrannu at yr adferiad yn dilyn argyfwng y coronafeirws (COVID-19) a hefyd: sy’n hybu’r economi leol yn annog datblygiad sgiliau a chreu swyddi yn cefnogi lles yn creu gwell lleoedd i fyw, gweithio ac ymweld â nhw yn gwella cadernid sefydliad sy’n gweithio ym maes treftadaeth Hefyd, mae’n rhaid i bob prosiect...
Mae’r Sbardunwr Amddiffyn a Diogelwch (DASA) yn cyllido arloesi drwy ddau brif fecanwaith, yr Alwad Agored am Arloesi a Chystadlaethau â Thema. Galwad Agored am Arloesi Mae’r Alwad Agored yn bodoli i gynnig y cyfle i gyflenwyr gyflwyno eu syniadau i randdeiliaid amddiffyn a diogelwch. Mae’r Alwad Agored yn croesawu arloesi sy’n mynd i’r afael ag unrhyw her ym maes amddiffyn, neu arloesedd sy’n mynd i’r afael â heriau diogelwch lle mae Maes Ffocws Arloesi...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.