BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Archives

2451 canlyniadau

Learning Communities Network
Menter-wraig o Bowys yn lansio busnes hyfforddiant ar-lein, sy’n canolbwyntio ar gyrsiau datblygiad proffesiynol a phersonol. Yn addysgwr oedolion profiadol sydd wedi datblygu a chynnal cyrsiau ar-lein ers sawl blwyddyn, penderfynodd Siobhan Riordan fuddsoddi ei gwybodaeth, ei sgiliau a’i chred mewn creu math newydd o hyfforddiant rhithwir newydd gan ddefnyddio model Cymuned Ddysgu. Derbyniodd y Rhwydwaith Cymunedau Dysgu gefnogaeth gan wasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru, gan lansio’n llwyddiannus. Mae eisoes yn denu cwsmeriaid o leoedd...
Newydd: Mae'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol yn cynnal cyfres o weminarau a sgyrsiau seiberddiogelwch am ddim ar gyfer busnesau o bob maint, sefydliadau addysgol ac elusennau yn y DU. Newydd: Allforio nwyddau o Brydain Fawr i'r UE drwy'r croesfannau byr: Mae gweminar a sesiwn holi ac ateb ar y materion sy'n codi o nwyddau sy'n symud o Brydain Fawr i'r UE, drwy'r croesfannau byr, wedi'u cyhoeddi. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan GOV.UK. Cynnwys...
Wonderwool Wales
Busnes Cymru yn helpu'r ŵyl wlân fwyaf yng Nghymru i gadw deupen llinyn ynghyd a dod o hyd i ffyrdd newydd o arddangos busnesau gwlân a ffibr yng nghanol pandemig byd-eang. Wonderwool Wales yw'r ŵyl wlân fwyaf yng Nghymru. Fe'i cynhelir yn flynyddol ym Mhowys, ac mae'n ddigwyddiad hollbwysig i'r ardal, gan ddenu dros 6,000 o ymwelwyr bob blwyddyn. Er i ni orfod canslo'r digwyddiad ddwy flynedd yn olynol oherwydd pandemig Covid-19, mae Wonderwool wedi...
Ar 1 Mawrth 2021, mae’r gyfraith ar ble gall pobl smygu yng Nghymru yn newid. Golyga hyn y bydd yn ofynnol i dir ysbytai, tir ysgolion, meysydd chwarae cyhoeddus a lleoliadau gofal awyr agored ar gyfer plant fod yn ddi-fwg. Bydd yn drosedd smygu mewn ardal ddi-fwg a gall unrhyw un sy’n cael ei ddal yn torri’r gyfraith wynebu dirwy o £100. Bydd y ddeddfwriaeth yn gwneud newidiadau yn y sector twristiaeth hefyd. Ar hyn...
Mae’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS), ar y cyd ag Innovate UK, wedi lansio’r cyfle nesaf i wneud cais am arian o’r Gronfa Trawsnewid Ynni Diwydiannol (IETF). Bydd gan fusnesau Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon gyfle arall i ymgeisio am hyd at £40 miliwn mewn cyllid grant drwy ffenestr gystadleuaeth Cam 1: Gwanwyn 2021 IETF. Mae’r canllawiau i ymgeiswyr yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen i wneud cais am gystadleuaeth Cam...
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio cynllun gweithredu newydd i helpu i ddiogelu dyfodol tymor hir y sector gweithgynhyrchu yng Nghymru. Mae Dyfodol Gweithgynhyrchu i Gymru: Fframwaith Gweithredu yn nodi’r camau sydd angen eu cymryd i ddatblygu sector gweithgynhyrchu cryf ac uchel ei werth, gyda gweithlu crefftus a hyblyg sy’n gallu darparu’r cynnyrch, gwasanaethau a thechnolegau sydd eu hangen ar economi’r dyfodol yng Nghymru. Mae’r cynllun yn ystyried y newid yn yr hinsawdd a’r angen i...
Mae Dydd Gŵyl Dewi ar 1 Mawrth 2021 yn gyfle i ddangos i’r byd y gorau o Gymru a’r hyn sydd ganddi i’w chynnig ac mae Dyma Gymru yn eich gwahodd i ymuno â nhw. Fel rhan o’u gŵyl ddigidol dros benwythnos Gŵyl Ddewi, byddant yn arddangos Cymru ar draws y cyfryngau cymdeithasol gyda straeon am y bobl, am y diwylliant, am fusnesau a chymunedau, gan gynnwys y canlynol: dathliad 72 awr yng nghwmni defnyddwyr...
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar sut y byddant yn cynnig profi am COVID-19 i weithleoedd sector cyhoeddus a phreifat. Bydd cefnogaeth Llywodraeth Cymru i brofion asymptomatig rheolaidd mewn gweithleoedd yn y sector preifat a'r sector cyhoeddus yng Nghymru yn canolbwyntio ar weithleoedd: lle mae gweithwyr yn dod i fwy o gysylltiad â risg; lle mae gweithwyr yn gweithio’n agos at bobl eraill; sydd â > 50 o weithwyr nad ydynt yn gallu gweithio...
Bydd cynhadledd rithwir Allforio Cymru yn rhoi amrywiaeth o wybodaeth a chyngor i allforwyr newydd a’r rhai sydd eisoes yn allforio ar bob agwedd ar allforio a sut y gall Llywodraeth Cymru helpu eich busnes. Yn y gynhadledd rithwir hon cewch gyfle i wneud y canlynol: Mynychu gweminarau – bydd y rhain yn ymdrin â phynciau allforio sy’n trendio. Cymryd rhan mewn Trafodaethau Bord Gron – bydd y rhain yn cael eu cynnal gan arbenigwyr...
Ym mis Tachwedd 2020, lansiodd Llywodraeth Cymru y cynllun taliad o £500 i gefnogi pobl y gofynnwyd iddynt hunanynysu gan y gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu. Mae'r cynllun wedi'i ddiweddaru i gynnwys y rheini y gofynnwyd iddynt hunanynysu na allant weithio o gartref, ac sydd: yn derbyn Tâl Salwch Statudol neu Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Dull Newydd neu lai; a/neu yn derbyn incwm personol NET o £500 neu lai. Bydd y cynllun yn cael ei ymestyn...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.