BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Archives

2501 canlyniadau

Mae Cronfa Darparwyr Preifat y Sector Chwaraeon yn cynnig cymorth ariannol i ddarparwyr preifat a masnachol. Nod y gronfa yw sicrhau bod busnesau preifat yn gallu dod allan o'r pandemig i barhau i ddarparu cyfleoedd sy'n cadw pobl yn actif ledled Cymru. Mae'r gronfa ar gyfer darparwyr preifat a masnachol sy'n darparu cyfleoedd gweithgarwch corfforol yn uniongyrchol i'r cyhoedd yng Nghymru fel: campfeydd masnachol stiwdios dawns a ffitrwydd darparwyr marchogaeth ceffylau darparwyr chwaraeon modur parciau...

 

 

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Chwefror 2021
Diweddarwyd diwethaf:
12 Medi 2023
Mewn ymateb i gymaint o waith yn cael ei ganslo yn sgil y pandemig Covid-19, mae Undeb y Cerddorion (yr MU) wedi sefydlu cronfa galedi gwerth £1 miliwn y gall aelodau wneud cais amdani. Mae’r gronfa ar gael i aelodau presennol yr MU sydd: yn talu tanysgrifiad aelodaeth lawn o’r MU ar hyn o bryd, neu’n talu tanysgrifiad cyd-aelodaeth lawn o’r MU / NEU (yn llawn neu drwy Ddebyd Uniongyrchol) sydd â chyfrif banc yn...
Mae Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yn cydnabod yr heriau digynsail mae busnesau a sefydliadau yn eu hwynebu yn ystod y pandemig Coronafeirws (COVID-19) ac yn deall y gall sefydliadau sy’n defnyddio data pobl yn ystod y pandemig fod angen rhannu gwybodaeth yn gyflym. Ni fydd diogelu data yn eich rhwystro rhag gwneud hynny. Mae chwe cam diogelu data Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ar gyfer sefydliadau yn nodi’r egwyddorion allweddol sydd angen i sefydliadau eu hystyried i ddefnyddio...
Mae Arloesi yn y Diwydiant Bwyd 2021 ar gyfer pobl sy’n arloesi yn y gymuned bwyd a diod, gan gynnwys busnesau newydd, BBaChau, academyddion, ymchwilwyr a busnesau sefydledig o bob maint. Cynhelir y digwyddiad ar-lein ar: 3 Mawrth 2021 rhwng 9am a 12.15pm – Trends & Innovative R&D 4 Mawrth 2021 rhwng 9am a 12:15pm - Trends & Emerging Science Pam mynychu? byddwch yn archwilio rôl deiet ar iechyd a maethiad, gan gynnwys trafodaethau am...
Mae Academi Busnes Digidol Tech Nation yn cynnig 90 cwrs busnes ar-lein am ddim i’ch helpu i ddechrau arni, tyfu neu ymuno â busnes digidol. Mae’r cyrsiau yn cynnwys pynciau amrywiol, gan gynnwys: syniadau a chynhyrchion pobl gweithrediadau a chyllid marchnata a gwerthu brand a chyfathrebu Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Academi Busnes Digidol Tech Nation.
Workplace Worksafe
A hithau'n cael ei chydnabod yn un o'r 100 entrepreneur benywaidd gorau yn y DU yn ystod pandemig Covid-19, mae Rhian Parry o Ruthun wedi llwyddo i dyfu ei busnes iechyd a diogelwch arbenigol flwyddyn ar ôl blwyddyn. Cyflwyniad i'r busnes Mae Workplace-Worksafe Ltd., a gafodd ei sefydlu gan Rhian Parry, yn brif gyflenwr cyfarpar diogelu personol i'r gweithle, dillad gwaith â brand a gwisg gorfforaethol, yn ogystal â gwasanaeth caffael yn benodol i safle...
Mae Llywodraeth Cymru yn annog busnesau i sicrhau eu bod wedi cofrestru i gael cymorth ariannol i'w helpu i ymdopi â’r effeithiau y mae’r coronafeirws yn parhau i’w cael. Bwriedir y pecyn ariannol yn bennaf ar gyfer busnesau sy'n talu ardrethi annomestig ac sydd wedi cael eu gorfodi i gau neu weithredu'n wahanol oherwydd y cyfyngiadau a gyflwynwyd yn sgil y coronafeirws. Gan fod angen i fusnesau fod wedi cofrestru gyda'u hawdurdod lleol ym mis...
Bydd gyrwyr tacsis a gyrwyr cerbydau hurio preifat yng Nghymru yn medru hawlio pecyn am ddim o gyfarpar diogelu personol ansawdd uchel a deunyddiau glanhau cerbyd, wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru. Bwriad y cynllun yw magu hyder gyrwyr a theithwyr wrth deithio’n ddiogel. Mae’r pecyn yn cynnwys gorchuddion wyneb amldro a hylif diheintio dwylo o safon feddygol. Bydd y pecyn hefyd yn cynnwys hylif diheintio amlbwrpas, cadachau, clytiau diheintio a menyg i lanhau cerbydau’n effeithiol...
Bydd Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel yn cael ei ddathlu’n fyd-eang ym mis Chwefror bob blwyddyn i hyrwyddo'r defnydd diogel a chadarnhaol o dechnoleg ddigidol, yn arbennig ymhlith plant a phobl ifanc. Bydd tua 140 o wledydd ledled y byd yn ei ddathlu, bydd Diwrnod Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2021 yn cael ei gynnal ar 11 Chwefror 2021. O seiberfwlio i rwydweithiau cymdeithasol, bob blwyddyn, bwriad y diwrnod yw codi ymwybyddiaeth o’r problemau...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.