BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Archives

2641 canlyniadau

Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) wedi paratoi canllawiau ar gyfer pobl ym myd busnes sydd â dyletswyddau o dan y gyfraith iechyd a diogelwch, er enghraifft, cyflogwyr a’r rheini sy’n rheoli yn y gweithle. Maent yn esbonio beth gallwch chi ei ddisgwyl pan fydd arolygydd iechyd a diogelwch yn galw heibio i’ch gweithle. Yn ogystal â hyn, maent yn dweud wrth weithwyr a’u cynrychiolwyr pa wybodaeth y gallant ddisgwyl ei chael gan arolygydd...
Gogledd Iwerddon o 1 Ionawr 2021 Mae canllawiau wedi’u cyhoeddi yn rhoi manylion yr hyn sydd angen i chi ei wneud i gydymffurfio â rheoliadau ar nwyddau wedi’u gweithgynhyrchu y byddwch yn eu rhoi ar y farchnad yng Ngogledd Iwerddon o 1 Ionawr 2021. Gallwch wirio pa reolau sy’n berthnasol i chi, a oes angen i chi newid eich asesiad neu nodau cydymffurfio, dod o hyd i wybodaeth am benodi person awdurdodedig a gwirio a...
Brythonic Yachts
Busnes cychod hwylio mawr moethus, unigryw, yn lansio'n llwyddiannus yn Aberhonddu, gyda chymorth Busnes Cymru. Ar ol rhedeg busnes datrysiadau morol llwyddiannus arall, Morgan Mar. Designs Ltd, penderfynodd y gwr a gwriag, Drew Reyland a Fiona Morgan, lenwi bwlch yn y farchnad ryngwladol a dechrau busnes newydd, Brythonic Yachts, gan gynnig cychod hwylio mawr o'r radd flaenaf, ar archeb. Roedd Busnes Cymru wrth law i gefnogi Morgan Maritime Designs Ltd yn nyddiau cynnar ei weithrediad...
Nod y mesur hwn yw sicrhau nad oes rhaid talu trethi ar weithdrefnau profion antigenau perthnasol gan gyflogwyr ac mae’n darparu ar gyfer eithriad dros dro newydd i sicrhau na fydd gweithwyr sy’n cael prawf antigenau coronafeirws perthnasol gan eu cyflogwr yn gorfod talu tâl buddion mewn nwyddau. Bydd yr eithriad yn berthnasol i unrhyw brawf antigenau coronafeirws perthnasol a ddarperir gan gyflogwr, ar neu ar ôl 8 Rhagfyr 2020, hyd at ac yn cynnwys...
Pendragon Drafting
Cwmni costau cyfreithiol a chyfryngu yn Ne Cymru yn cyrraedd mwy o bobl gyda diolch i raglen fentora Busnes Cymru Sefydlodd David Bentley-Miller ei gwmni costau cyfreithiol a chyfryngu, Pendragon Drafting, yn 2011, ac ers hynny mae wedi datblygu'r cwmni i gynnig ystod eang o wasanaethau cyfreithiol. Cysylltodd â gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru i gael cymorth i dyfu ei fusnes, ac yn fuan ar ôl hynny, sefydlodd berthynas weithio lwyddiannus gyda mentor busnes gwirfoddol...
Mae’r canllawiau ar hawlio ar gyfer cyflogau gweithwyr drwy’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws wedi’u diweddaru: mae’r Cynllun yn cael ei ymestyn nes 31 Mawrth 2021 30 Tachwedd 2020 yw’r diwrnod olaf i gyflogwyr gyflwyno neu newid ceisiadau am gyfnodau sy’n dod i ben ar neu cyn 31 Hydref 2020 mae’n rhaid cyflwyno ceisiadau am ddiwrnodau ffyrlo ym mis Tachwedd 2020 erbyn 14 Rhagfyr 2020 mae’r canllawiau wedi’u diweddaru gyda manylion am wybodaeth...
Ydych yn ddarparwr cyflogaeth a gefnogir, sy’n awyddus i wybod mwy am sut mae Covid-19 wedi cael effaith ar bobl awtistig / pobl ag anabledd dysgu? Ydych chi eisiau gwybod pa gymorth sydd ar gael i gyflogwyr sydd â staff awtistig, neu ag anabledd dysgu? Yna ymunwch â'r Gweminar Symposiwm Cyflogaeth am ddim a cynhelir ar 4 Rhagfyr 2020 , wedi’i hwyluso mewn partneriaeth â’r Tîm Awtistig Cenedlaethol (CLlLC), Prifysgol Abertawe, Canolfan Genedlaethol dros Iechyd...
Mae safleoedd gwybodaeth a chyngor newydd wedi agor ledled y DU i sicrhau bod gan gludwyr bopeth sydd ei angen arnynt i baratoi ar gyfer diwedd y cyfnod pontio. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK. Mae’r safleoedd COVID-ddiogel, sydd wedi’u lleoli mewn gwasanaethau traffordd a mannau gorffwys i lorïau ledled rhwydwaith ffyrdd y DU, yn cynnig hyfforddiant un-i-un i gludwyr ar y gwasanaeth ‘Check an HGV' newydd a’r newidiadau i brosesau ar y...
Dylai cwsmeriaid Hunanasesu gadw llygad ar agor am droseddwyr sy’n hawlio eu bod nhw o Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC). Gan fod yr adran yn cyhoeddi miloedd o negeseuon SMS ac e-bost fel rhan o’i hymgyrch flynyddol i annog pobl i lenwi eu ffurflenni treth Hunanasesu, mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn rhybuddio cwsmeriaid sy’n llenwi eu ffurflenni i osgoi cael eu twyllo gan sgamwyr. Y dyddiad cau ar gyfer dychwelyd ffurflenni treth...
Mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru ei chanllawiau i fusnesau twristiaeth a lletygarwch. Mae’r canllawiau’n ceisio helpu cyflogwyr, gweithwyr cyflogedig a phobl hunangyflogedig sy’n gweithio yn y sectorau twristiaeth a lletygarwch yng Nghymru i weithredu’n ddiogel yn ystod y pandemig COVID-19 a chadw ymwelwyr yn ddiogel. I gael mwy o wybodaeth, ewch i wefan LLYW.Cymru.

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.