BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Archives

2911 canlyniadau

Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi canllawiau ar y canlynol: Os ydych chi yn y DU a bod eich dyddiad gadael yn dod i ben rhwng 24 Ionawr 2020 a 31 Gorffennaf 2020 Os ydych chi'n gweithio i'r GIG Os ydych chi y tu allan i'r DU Os ydych chi'n gwneud cais i ddod i mewn i'r DU neu'n aros ar sail bywyd teuluol neu breifat Os ydych chi am ganslo'ch fisa Canolfan Cymorth Mewnfudo...
Rhagor o gymorth gyda chofrestru, cymhwysedd a sut i gynnig y gostyngiad ar gyfer cynllun ‘Bwyta Allan i Helpu Allan’. Y sefydliadau cymwys yw'r rhai lle caiff bwyd ei werthu i'w fwyta'n syth ar y safle. Gallai hyn gynnwys: bwytai caffis tafarndai sy'n gweini bwyd bwytai mewn gwestai bwytai a chaffis mewn atyniadau i dwristiaid, safleoedd gwyliau a chyfleusterau hamdden ystafelloedd bwyta o fewn clybiau aelodau ffreuturau yn y gweithle ac mewn ysgolion I gael...
Ar 31 Rhagfyr 2020 bydd cyfnod pontio’r DU gyda’r UE yn dod i ben a bydd y DU yn gweithredu ffiniau llawn, allanol fel cenedl sofran. Mae Llywodraeth y DU wedi lansio ymgynghoriad ar Strategaeth Ffiniau 2025 y DU ac mae’r ymgynghoriad yn ceisio barn ar sut y gall systemau digidol newydd wella profiad masnachwyr a theithwyr a gwneud y DU yn lle mwy diogel. Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 28 Awst...
Rapport Mortgage
Mae Rapport Mortgage Services Ltd., wedi’i leoli yng Nghasnewydd, yn cynnig ystod eang o wasanaethau morgais a gwarchodaeth gan gynnwys pryniannau tro cyntaf, trosglwyddiadau cynnyrch, morgeisi preswyl a chyngor yswiriant, ymhlith eraill. Cysylltodd Pennaeth y practis, Richard Williams, â gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru ac mae wedi elwa o gyngor y mentor busnes gwirfoddol, Graeme Tipple. cyngor mentora ar recriwtio a hybu hyder cynllunio strategol ar gyfer y dyfodol gan gynnwys arallgyfeirio a strwythur busnes...
Mae Gwobrau'r Frenhines am Fenter yn cael eu rhoi am gyflawniad rhagorol busnesau'r DU yn y categorïau hyn: arloesi masnach ryngwladol datblygu cynaliadwy hybu cyfleoedd drwy symudedd cymdeithasol Beth fydd yn digwydd os bydd eich cwmni’n ennill Os byddwch yn ennill, byddwch yn: cael eich gwahodd i'r derbyniad Brenhinol derbyn y wobr, a fydd yn cael ei chyflwyno gan un o gynrychiolwyr y Frenhines sy’n Arglwydd Raglaw, yn eich cwmni cael hedfan baner Gwobrau'r Frenhines...
The Little Cheesemonger
Siop gaws a deli artisan o fri yng ngogledd Cymru yn elwa o gefnogaeth Busnes Cymru i sicrhau dechreuad llwyddiannus. Wedi'i sefydlu gan Gemma Williams yn y Rhyl yn 2017, mae The Little Cheesemonger yn siop gaws a deli artisan, sy'n cynnig amrywiaeth eang o gaws a nwyddau gourmet. Cysylltodd Gemma â gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru pan benderfynodd sefydlu ei busnes ei hun ac ers hynny, mae wedi elwa o weithdai, cymorth ymgynghorol ac...
Bydd modd i lety gwyliau sydd â chyfleusterau a rennir, megis meysydd pebyll, ailagor o ddydd Sadwrn 25 Gorffennaf 2020 ymlaen, ynghyd ag atyniadau tanddaearol. Dyma nodi carreg filltir bwysig gan y bydd atyniadau Cymru i ymwelwyr yn ailagor yn llawn. Hefyd, bydd rheolau newydd sy’n ei gwneud yn orfodol i wisgo gorchudd wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus, gan gynnwys mewn tacsis, yn dod i rym ddydd Llun 27 Gorffennaf 2020. Dyma’r cam diweddaraf yn y...
Mae grantiau ymateb ac ail-ddychmygu’n cynnig cyllid o rhwng £10,000 a £50,000, gan ddarparu cyllid i helpu amgueddfeydd, orielau a sefydliadau diwylliannol ymateb i heriau uniongyrchol sy’n gysylltiedig â’r argyfwng Covid-19 a chynnig cymorth i addasu ac ail-ddychmygu ffyrdd o weithio yn y tymor hirach. Croesewir ceisiadau gan amgueddfeydd cyhoeddus, orielau, tai hanesyddol, llyfrgelloedd ac archifau yn y DU sydd â: gofodau i’r cyhoedd ymweld â nhw fel arfer a phrofi’r celfyddydau gweledol neu gasgliadau...
Celtic Arms
Bwyty traddodiadol yn Llaneurgain yn cynyddu ei elw ar ôl derbyn cymorth gan Busnes Cymru. Dan reolaeth Jose Lourenco yng ngogledd Cymru, mae The Celtic Arms yn fwyty traddodiadol, sy'n cynnig profiad bwyta unigryw gyda phrydau wedi'u coginio'n ffres ac ystafelloedd achlysuron. Cysylltodd Jose â gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru am gymorth gyda'i strategaeth dwf. cymorth gan Ymgynghorydd Twf creu 2 swydd ers ymyrraeth Busnes Cymru cymorth gyda marchnata ac atgyfeiriadau ar gyfer rhagor o...
Mae’r Swyddfa Eiddo Deallusol yn cyflwyno’r newidiadau dros dro canlynol i ffioedd o 30 Gorffennaf 2020 tan 31 Mawrth 2021 mewn perthynas â phatentau, nodau masnach a dyluniadau cofrestredig: bydd ffioedd am estyniadau amser yn sero ni chodir tâl ychwanegol am dalu ffi ymgeisio am batent ar ôl dyddiad cyflwyno’r cais bydd ffioedd i wneud cais am ailsefydlu ac adfer yn sero o ran patentau a dyluniadau, ni chodir tâl ychwanegol am dalu ffi adnewyddu...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.