Bydd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW) yn cynnal ei gynhadledd flynyddol ar 22 Mawrth 2024, yn ICC Cymru, Casnewydd. Y thema eleni yw ‘Prentisiaethau, Sgiliau ar gyfer Twf Economaidd yng Nghymru’. Bydd y gynhadledd, a fydd yn cynnwys trafodaeth gan banel o gyflogwyr, yn canolbwyntio ar “fynd ati heddiw i adeiladu llwyddiant yfory”. Bydd cynrychiolwyr yn trafod sut i ddatgloi potensial trwy brentisiaethau, gan rymuso pobl ar gyfer y dyfodol, grymuso cyflogwyr a sbarduno ffyniant...