A allech chi elwa o arweiniad ar-lein a mentora un-i-un ar eich taith ddigidol gydag arbenigwyr gwyddor data a deallusrwydd artiffisial (AI)? Bwriedir y rhaglen hyfforddiant, Darganfod Trawsnewid Digidol, i fusnesau neu sefydliadau o unrhyw faint ym meysydd amaeth, y diwydiannau creadigol, adeiladu neu drafnidiaeth, a’i nod fydd helpu eich busnes i archwilio technolegau digidol, AI a thechnolegau wedi’u gyrru gan ddata. Bydd y gyfres hon ar lefel ragarweiniol yn eich helpu i fynd i’r...