Cynhelir Diwrnod Shwmae Su’mae ar 15 Hydref bob blwyddyn ac yn hybu’r syniad o ddechrau pob sgwrs gyda shwmae, su’mae neu shwdi! Nôd y diwrnod yw dangos bod y Gymraeg yn perthyn i bawb – yn siaradwyr rhugl, dysgwyr neu os ydych yn swil am eich Cymraeg. Cyfle i gael hwyl a rhannu’r iaith – yn y siop, y ganolfan hamdden, yn y gwaith, gyda ffrindiau. Yn y gorffennol dathlodd ysgolion, bwytai a gorsafoedd radio...