Heddiw (3 Awst 2023) cadarnhaodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dawn Bowden, bod prosiectau twristiaeth ledled Cymru wedi ennill cyfran o gronfa gwerth £5 miliwn Llywodraeth Cymru, sef Y Pethau Pwysig, er mwyn cynorthwyo i ddarparu profiad gwyliau o’r radd flaenaf. Mae 29 prosiect seilwaith twristiaeth yng ngogledd, canolbarth, de-orllewin a de-ddwyrain Cymru wedi cael buddsoddiad gan y gronfa, sy’n helpu i gyflawni gwelliannau seilwaith twristiaeth ar raddfa fach. Mae’r gronfa, sy’n agored...