BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Archives

81 canlyniadau

volunteers and charity workers
Mae Wythnos Elusennau Bach, a gynhelir rhwng 24 Mehefin a 28 Mehefin 2024, yn dathlu ac yn codi ymwybyddiaeth am waith hanfodol sector elusennau bach y DU, sy’n gwneud cyfraniad amhrisiadwy i fywydau miliynau o unigolion, cymunedau ac achosion ledled y DU a gweddill y byd. Thema’r wythnos eleni fydd ‘Elusennau Cydnerth dros Gymunedau Cryfach’, a’r amcanion yw: Dathlu’r cyfraniad y mae elusennau bach yn ei wneud i gymunedau ledled y DU ac ar draws...
Female engineer
Cynhelir Diwrnod Rhyngwladol Menywod mewn Peirianneg ar 23 Mehefin 2024 ac mae’n hyrwyddo’r gwaith anhygoel y mae peirianwyr benywaidd yn ei wneud ar draws y byd. Y thema eleni yw #peiriannegyncyfoethogi #enhancedbyengineering. Mae Diwrnod Rhyngwladol Menywod mewn Peirianneg yn tynnu sylw at beirianwyr benywaidd ar draws y byd a hwythau’n dal i gael eu tangynrychioli’n aruthrol, gyda ffigurau 2021 yn nodi mai dim ond 16.5% o beirianwyr y DU sy’n fenywod. Ydych chi eisiau cymryd...
Wind turbines at sea and engineer
Dim amheuaeth ynghylch arbenigedd ac uchelgais Cymru yng nghynhadledd fyd-eang gwynt ar y môr. Wrth siarad yng nghynhadledd Global Offshore Wind ym Manceinion, rhannodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg ei weledigaeth uchelgeisiol ar gyfer Cymru yn y chwyldro gwynt ar y môr. Gyda'r cymysgedd cywir o arbenigedd a daearyddiaeth, mae Cymru wedi bod yn gartref i brosiectau arloesol gwynt ar y môr ers amser. Fel rhan o araith allweddol i gynulleidfa...
Clywedog reservoir, Glyndŵr's Way
A yw eich busnes neu sefydliad wedi’i leoli ger Llwybr Arfordir Cymru neu’r Llwybrau Cenedlaethol yng Nghymru? Os felly, ydych chi’n elwa o’r ymwelwyr neu’r cerddwyr sy’n defnyddio’r llwybrau hyn? Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi comisiynu asiantaeth ymchwil marchnad annibynnol, DJS Research Ltd i gynnal arolwg byr o fusnesau. Bydd yr arolwg yn helpu Cyfoeth Naturiol Cymru i ddeall yn well pa gymorth sydd ai angen ar fusnesau/sefydliadau i fanteisio’n llawn ar eu lleoliad a’r...
Eryri
Diwrnod Aer Glân, a gynhelir ar 20 Mehefin 2024, yw ymgyrch llygredd aer fwyaf y DU, sy’n ymgysylltu â miloedd o bobl mewn cannoedd o ddigwyddiadau, ac yn cyrraedd miliynau yn fwy trwy'r cyfryngau. Mae Diwrnod Aer Glân, a gydlynir gan y Global Action Plan, yn dod â chymunedau, busnesau, addysg a'r sector iechyd at ei gilydd i: wella dealltwriaeth y cyhoedd o lygredd aer meithrin ymwybyddiaeth o sut mae llygredd aer yn effeithio ar...
Entrepreneurs
Mae Gwobrau Entrepreneuriaid Barclays yn ôl ac ar agor nawr ar gyfer enwebiadau. Mae'r Gwobrau'n dathlu'r entrepreneuriaid hynny sy'n tarfu ar y sefyllfa bresennol, gan yrru arloesedd a chefnogi cymunedau a'r economi yn ehangach. Dyma’ch cyfle i arddangos eich busnes a'r daith rydych chi wedi bod arni hyd yn hyn. Bydd yr enwebiadau'n cau am hanner nos, ddydd Gwener, 28 Mehefin 2024. I gael mwy o wybodaeth, ewch i: Entrepreneur Awards | Barclays
stacks of coins with plant shoots
Fforwm ar gyfer pobl sy'n chwilio am gyllid ar gyfer eu busnes yw Fforwm Cyllid ar gyfer Twf Insider Cymru, mewn partneriaeth â’r Gronfa Buddsoddi i Gymru gan Fanc Busnes Prydain. Cynhelir y digwyddiad rhad ac am ddim ar 9 Gorffennaf 2024 yng ngwesty a sba Mercure Cardiff Holland House, gyda’r cofrestru yn dechrau am 8:45am. Bydd y digwyddiad yn rhannu gwybodaeth am amrywiaeth o opsiynau ariannu a sut i'w defnyddio ar gyfer twf busnes...
team members in a circle
Mae Gwobr Creu Ymddiriedaeth (Building Trust) PwC am Effaith mewn Menter Gymdeithasol, mewn partneriaeth â'r Ysgol Entrepreneuriaid Cymdeithasol, yn rhoi cydnabyddiaeth i fentrau cymdeithasol yn y DU sy'n dangos rhagoriaeth o ran rhoi gwybod am effaith. Er mwyn gwneud cais, rhaid i ymgeiswyr nodi sut maent yn dangos effaith gymdeithasol a/neu amgylcheddol gadarnhaol, yn ogystal â chyflwyno tystiolaeth ansoddol a meintiol i gefnogi eu cais. Bydd yr enillydd yn cael rhodd o £5,000 a dau...
Ffermio
Cynhelir Wythnos Bwyd a Ffermio Cymreig, sy’n cael ei threfnu gan NFU Cymru, rhwng 17 a 21 Mehefin 2024. Bydd yr wythnos o weithgareddau, sy’n cael ei chynnal ledled Cymru, yn hyrwyddo popeth sy’n wych am fwyd ac amaeth yng Nghymru. Mae ffermwyr Cymru yn cael eu hannog i droi at Facebook, Instagram a Twitter i dynnu sylw at bwysigrwydd ffermio i Gymru a’i chymunedau, gan ddefnyddio’r hashnodau #WythnosFfermioCymreig a #WelshFarmingWeek a thagio NFU Cymru...
group of people filling in forms
Wythnos Ffoaduriaid, a gynhelir rhwng 17 Mehefin a 23 Mehefin 2024, yw gŵyl gelfyddydau a diwylliant fwyaf y byd sy’n dathlu cyfraniadau, creadigrwydd a gwytnwch ffoaduriaid a phobl sy’n ceisio noddfa. Cafodd ei sefydlu ym 1998 yn y DU, ac mae’r ŵyl flynyddol hon yn cyd-redeg â Diwrnod Ffoaduriaid y Byd, a gaiff ei ddathlu ledled y byd ar 20 Mehefin. Mae Wythnos Ffoaduriaid yn dathlu cyfraniadau ffoaduriaid a cheiswyr noddfa er mwyn herio stereoteipiau...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.