BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Archives

851 canlyniadau

Mae gan GEN UK adnoddau dysgu, mentora a chefnogaeth i Entrepreneuriaid Benywaidd o Wcráin, pa gam bynnag y mae eu busnes neu syniad wedi’i gyrraedd. Ydych chi’n entrepreneur benywaidd addawol o’r Wcráin (neu’n gwybod am rywun o’r fath) sydd eisiau datblygu eich busnes i'r lefel nesaf? Gwnewch gais nawr am gymorth trwy'r rhaglen RESTART Ukraine unigryw. Mae'r meysydd cymorth yn cynnwys: Help i osod nodau busnes a chynllunio Marchnata a brandio Cynllunio ariannol Dod o...
Gall busnesau bwyd bellach ddod o hyd i ganllawiau a chyngor gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) mewn un hyb sy’n hawdd mynd ato ar food.gov.uk sy’n cynnwys canllawiau i fusnesau. Mae’r hyb newydd yn cynnwys yr holl ganllawiau ar sut i ddechrau busnes bwyd, sut i gael sgôr hylendid bwyd dda a sut i reoli alergenau i gadw cwsmeriaid yn ddiogel. Mae’r ASB hefyd yn rhannu amrywiaeth o astudiaethau achos gan fusnesau bwyd ledled...
Adnoddau a chyngor arbenigol i helpu gweithgynhyrchwyr sy’n BBaChau sydd wedi'u lleoli yn y DU i leihau eu defnydd o ynni a chynyddu proffidioldeb. Mae'r Pecyn Gwybodaeth Cymorth Ynni i Fusnesau yn rhoi mynediad hawdd i wneuthurwyr at arbenigwyr ac offer, gan eich helpu i wneud gostyngiadau sylweddol i'ch defnydd o ynni mewn cyfnodau amser byr. Mae'r gefnogaeth yn cynnwys meysydd fel: Mewnwelediadau sy'n cael eu gyrru gan ddata i'ch defnydd o ynni Help i...
Mae Cystadleuaeth Arloesi Rownd 6 Her Faraday Battery yn cael ei lansio ar 16 Mai 2023, gyda'r nod o gyflymu datblygiad technolegau batri cynaliadwy a fforddiadwy. Mae'r Her, sydd â hyd at £10 miliwn ar gael, yn rhan allweddol o Strategaeth Ddiwydiannol y DU, gyda'r nod o sefydlu'r DU fel arweinydd byd-eang ym maes technoleg batri. Bydd y gystadleuaeth eleni yn canolbwyntio ar gyflymu masnacheiddio technolegau batri arloesol, gan ddarparu cyllid a chefnogaeth i brosiectau...
Owner Jenny Jarvis
Mae Busnes Cymru wedi fy helpu i wireddu fy nghynllun busnes, a rŵan rwy’n byw fy mreuddwyd. Gan ei bod hi’n frwdfrydig iawn ynglŷn â’r syniad o ddarparu gofod diogel, di-straen i bobl ymlacio, penderfynodd Jenny Jarvis y byddai’n agor Stiwdio Ioga a Chaffi yng Nghaerdydd. Er bod ganddi brofiad busnes blaenorol, daeth Jenny at Busnes Cymru am gymorth. Wedi iddi ymchwilio i ddarpariaethau ioga a bwytai iach yn yr ardal, llwyddodd Jenny i adnabod...
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ymgynghori ar y Cod Ymarfer a’r cynigion gorfodi a sancsiynau ar gyfer rheoliadau ailgylchu yn y gweithle sy’n cynnwys y sector Busnes, y sector cyhoeddus a’r trydydd sector rhwng 23 Tachwedd 2022 a 15 Chwefror 2023. Mae’r ymgyngoriadau yn nodi manylion y gofynion arfaethedig ar gyfer pob busnes a sefydliadau’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector, i wahanu deunyddiau ailgylchadwy allweddol fel y mae’r rhan fwyaf o ddeiliaid tŷ Cymru...
O ddydd Llun, 15 Mai 2023, oni bai eich bod eisoes yn defnyddio meddalwedd sy’n gydnaws â Gwneud Treth yn Ddigidol (MTD), ni fyddwch yn gallu defnyddio eich cyfrif ar-lein TAW presennol mwyach i ffeilio eich ffurflenni TAW blynyddol. Mae hynny oherwydd, yn ôl y gyfraith, rhaid i bob busnes sydd wedi'i gofrestru ar gyfer TAW bellach ddefnyddio meddalwedd sy’n gydnaws â Gwneud Treth yn Ddigidol (MTD) i gadw ei gofnodion TAW a ffeilio ei...
Os ydych chi’n gweithio yn y trydydd sector/gwirfoddol neu’r sector cyhoeddus, ac yn gweithio ar lefel Bwrdd neu’n uwch arweinydd, yn newydd yn eich swydd neu ynddi ers tro, newydd gyrraedd Cymru neu wedi bod yma o’r crud, dyma’r rhaglen i chi. Mae’n rhaglen ni, Arwain mewn Gwlad Ddwyieithog, yn un o’r cynlluniau hyn. Mae’n gyfle i ddod at ein gilydd am ddiwrnod o weithdy gydag uwch arweinwyr eraill i drafod sut mae datblygu diwylliant...
Gwnewch gais am Ddyfarniad Prisio Uwch er mwyn rhoi cadarnhad cyfreithiol i chi o ran y dull cywir i’w ddefnyddio wrth brisio’ch nwyddau er mwyn gwneud datganiad mewnforio. Pan fyddwch yn mewnforio nwyddau i’r DU, bydd yn rhaid i chi sefydlu’r dull cywir i’w ddefnyddio ar gyfer cyfrifo gwerth tollau’r nwyddau. Gallwch wneud cais i CThEF am Ddyfarniad Prisio Uwch cyn i chi wneud datganiad mewnforio, a hynny er mwyn: gwirio mai’r dull cywir yw’r...
Debra Drake
Rhoddodd Busnes Cymru’r arfau a’r hyder i mi sefydlu fy Ysgol Wnïo fy hun. Rhoddodd y llwyddiant o gyrraedd rownd derfynol The Great British Sewing Bee ar y BBC a chael adborth mor gadarnhaol gan y beirniad hwb i Debra Drake ddechrau ei hysgol ddylunio ei hun sef Sewing with Style. Rhoddodd Busnes Cymru'r arfau a’r hyder i Debra ddilyn ei diddordeb gydol oes o redeg ei busnes gwnïo ei hun. Aeth i amrywiaeth o...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.