BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Archives

931 canlyniadau

Yn dilyn llwyddiant anferthol camau 1 a 2 ac ymateb calonogol rhanddeiliaid iddynt, mae’r Adran Diogelu’r Cyflenwad Ynni a Sero Net (DESNZ) wedi cyhoeddi ei bod am lansio Cam 3 y Gronfa Trawsnewid Ynni Diwydiannol (IETF). Bydd Cam 3 yr IETF yn werth £185 miliwn o grantiau i fusnesau’r DU ar gyfer cynnal astudiaethau a phrosiectau cyflawni ar gyfer arbed ynni a datgarboneiddio. Bydd yr adran yn ymgynghori â diwydiannau’r DU nes ymlaen eleni i...
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi'r Model Gweithredu Targed drafft (TOM), gan amlinellu sut mae'n bwriadu cyflawni Strategaeth Ffiniau 2025. Bydd hyn yn effeithio ar fewnforio nwyddau iechydol a ffytoiechydol (SPS) o'r UE (Gweriniaeth Iwerddon, yn bennaf) trwy borthladdoedd Cymru. Mae nwyddau SPS yn cynnwys: Planhigion Cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid Anifeiliaid byw Bwyd a bwyd anifeiliaid risg uchel nad ydynt yn dod o anifeiliaid Byddant yn destun gwiriadau ychwanegol ar bwyntiau mynediad i ddiogelu...
Mae Hybu Cig Cymru (HCC) wedi cyhoeddi y bydd yn derbyn ceisiadau ar gyfer ei ysgoloriaeth deithio o 3 Ebrill 2023, pan fydd y chwilio'n dechrau am enillydd yr Ysgoloriaeth eleni. Mae Ysgoloriaeth HCC ar agor i unrhyw un dros 18 mlwydd oed sy’n gweithio yn y sector cig coch yng Nghymru. Mae'n werth £4,000 ac mae'n gwobrwyo unigolion brwdfrydig i'w galluogi i astudio agwedd ar gynhyrchu neu brosesu cig coch unrhyw le yn y...
Sioeau Busnes Cymru yw'r arddangosfa fwyaf yng Nghymru ar gyfer busnesau - mae’n cynnwys tair sioe genedlaethol. Mae'r sioeau'n darparu llwyfan i fusnesau o bob maint arddangos eu cynnyrch a'u gwasanaethau. Mae’r sioeau’n gyfle i chi ddysgu technegau busnes newydd, gwrando ar brif siaradwyr sy’n ysbrydoli, cael cyngor arbenigol, cael gwybodaeth gan gynrychiolwyr ac arddangoswyr eraill a gwella cysylltiadau busnes drwy rwydweithio. Dyddiadau a lleoliadau eleni yw: 25 Ebrill 2023 – Stadiwm Dinas Caerdydd, Caerdydd...
Tra bod technoleg ddigidol a fideoalwadau yn ei gwneud hi'n llawer haws i gynnal perthynas gyda chwsmeriaid, mae busnesau'n dweud wrthym fod pobl yn gwneud busnes gyda phobl, a does dim yn adeiladu perthnasau newydd yn well na chyswllt wyneb yn wyneb. Mae ymweld â marchnadoedd i gwrdd â chwsmeriaid newydd a phosibl yn elfen hanfodol o ennill a chadw busnes. I gefnogi busnesau yng Nghymru i wneud hynny, datgelodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething...
Bydd y ddarpariaeth prydau ysgol am ddim yn ystod y gwyliau yn parhau i fod ar gael i blant o deuluoedd incwm is yn ystod gwyliau’r Pasg a’r Sulgwyn. Mae’r ddarpariaeth yn cael ei hariannu diolch i gytundeb rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru. Yn ystod gwyliau'r Pasg bydd awdurdodau lleol unigol yn penderfynu sut i weinyddu'r ddarpariaeth prydau ysgol am ddim, naill ai drwy greu cinio neu drwy ddarparu talebau neu daliadau uniongyrchol i...
Gallai niferoedd gyrwyr cerbydau nwyddau trwm, bysiau a choetsys gael hwb drwy ddiwygiadau arfaethedig i reolau hyfforddi gyrwyr. Nod rhai o'r newidiadau arfaethedig yw helpu i'w wneud yn fwy fforddiadwy ac yn fwy effeithlon i yrwyr adnewyddu eu cymwysterau neu ddychwelyd i'r diwydiant. Mae’r ymgynghoriad newydd yn cynnig diwygiadau i'r Dystysgrif Cymhwysedd Proffesiynol Gyrwyr (DCPC). Daw'r ymgynghoriad i ben ar 27 Ebrill 2023. I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Driver Certificate...
Daw rheolau treth lleol newydd i rym heddiw a fydd yn rhoi gwell cefnogaeth i gymunedau Cymru fynd i’r afael â’r lefelau uchel o ail gartrefi ac eiddo gwag. Mae’n nodi carreg filltir arall yn y gwaith o weithredu cyfres o fesurau sy’n cael eu cyflwyno fel rhan o ymrwymiad Cytundeb Cydweithio Llywodraeth Cymru gyda Phlaid Cymru i fynd i’r afael ag effaith ail gartrefi a chartrefi gwag ar gymunedau ar hyd a lled y...
Gwyrddgalchu yw'r arfer lle mae cwmnïau'n honni eu bod yn gwneud mwy dros yr amgylchedd nag ydyn nhw mewn gwirionedd. Mae gwyrddgalchu wedi cynyddu wrth i’r canlynol ddigwydd: ymrwymiadau hinsawdd cwmnïau gynyddu defnyddwyr yn ceisio prynu cynhyrchion mwy cynaliadwy yn gynyddol cwmnïau'n cael eu cymell i wneud cynhyrchion yn fwy deniadol i ddefnyddwyr gweithwyr yn cael eu denu i weithio i gwmnïau sydd â rhinweddau cynaliadwyedd cryf Mae gwneud honiadau amgylcheddol ffug yn amharu ar...
Nod Smart Manufacturing Data Hub (SMDH), dan arweiniad Prifysgol Ulster, yw cefnogi 10,000 o BBaChau gweithgynhyrchu'r DU i ddefnyddio, dysgu a gweithredu technoleg trawsnewid digidol yn eu ffatrïoedd trwy ystod o fentrau cymorth a mesurau ariannu. Cefnogir y rhaglen gan £50 miliwn o gyllid o dan y fenter Made Smarter gan Innovate UK. Bydd y gefnogaeth i BBaChau yn cynnwys addysg a chyngor arbenigol ar lwybrau digideiddio, gweithredu technoleg sy'n cael ei gyrru gan ddata...

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.