BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Ardrethi Annomestig – Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch yng Nghymru – 2022-23

Bwriad y canllaw hwn yw cefnogi cynghorau sir a bwrdeistref sirol (awdurdodau lleol) i weinyddu'r cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch (y rhyddhad).

Lluniwyd y canllawiau hyn i helpu cynghorau sir a bwrdeistref sirol (“awdurdodau lleol”) i weinyddu’r cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch (“y rhyddhad”). Ar 20 Rhagfyr 2021, cyhoeddodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol y byddai'r rhyddhad ardrethi'n cael ei ehangu dros dro ar gyfer 2022-23. Mae’r canllawiau hyn yn berthnasol i Gymru yn unig.

Mae’r canllawiau yn gosod y meini prawf y bydd Llywodraeth Cymru yn eu defnyddio i bennu cyllid i awdurdodau lleol ar gyfer rhyddhad ardrethi sy’n cael ei ddarparu i eiddo manwerthu, hamdden a lletygarwch. Nid yw’r canllawiau yn disodli unrhyw ddeddfwriaeth bresennol ar ardrethi annomestig nac unrhyw fath arall o ryddhad.

Dylid anfon unrhyw gwestiynau am y cynllun at eich awdurdod lleol.

Mae’r rhyddhad yn cael ei gynnig o 1 Ebrill 2022 a bydd ar gael tan 31 Mawrth 2023.

Cyflwyniad

Mae’r rhyddhad hwn wedi’i anelu at fusnesau a threthdalwyr eraill yng Nghymru yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch, er enghraifft siopau, tafarnau a bwytai, campfeydd, lleoliadau perfformio a gwestai.

Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid grant i bob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru i ddarparu’r Cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch i fusnesau sy’n gymwys ar gyfer 2022-23. Nod y cynllun yw darparu cymorth i eiddo cymwys sydd wedi’i feddiannu drwy gynnig 50% o ostyngiad ar filiau ardrethi annomestig ar gyfer eiddo o’r fath. Bydd y cynllun ar gael i bob busnes cymwys, fodd bynnag bydd uchafswm i swm y rhyddhad y caiff busnesau ei hawlio ar draws Cymru. Cyfanswm y rhyddhad sydd ar gael yw £110,000 ar draws yr holl eiddo sy’n cael eu defnyddio gan yr un busnes. Mae angen i bob busnes ddatgan nad yw swm y rhyddhad y maent yn gwneud cais amdano ar draws Cymru yn fwy na’r uchafswm wrth wneud cais i awdurdodau lleol unigol. Mae enghraifft o ffurflen ddatganiad wedi’i hamgáu yn Atodiad 1 i awdurdodau lleol ei defnyddio wrth ddatblygu eu ffurflenni eu hunain i’w cyhoeddi a’u cyflwyno i fusnesau.

Mae’r ddogfen hon yn darparu canllawiau ynghylch rhoi’r cynllun hwn ar waith a’i gyflwyno.

Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch

 

Sut bydd y rhyddhad yn cael ei ddarparu?

Gan mai mesur dros dro yw hwn, rydym yn darparu’r rhyddhad drwy roi ad-daliad i awdurdodau lleol sy’n defnyddio’u pwerau rhyddhad ardrethi yn ôl disgresiwn o dan adran 47 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988.  Yr awdurdodau lleol unigol eu hunain fydd yn mabwysiadu cynllun ac yn penderfynu ym mhob achos a ddylid caniatáu’r rhyddhad o dan adran 47. Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi ad-daliad i’r awdurdodau lleol am y rhyddhad sy’n cael ei ddarparu yn unol â’r canllawiau hyn drwy grant o dan adran 31 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 a adran 58A o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Sut bydd y cynllun yn cael ei weinyddu?

Yr awdurdodau lleol eu hunain fydd yn penderfynu sut i weinyddu'r cynllun er mwyn sicrhau bod cymaint â phosib yn cymryd rhan a bod cyn lleied â phosib o faich gweinyddol ar dalwyr ardrethi a staff yr awdurdod lleol.

Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am ddarparu gwybodaeth glir a hygyrch i fusnesau ynghylch manylion a gweinyddiaeth y cynllun. Os nad oes modd i awdurdod ddarparu'r rhyddhad hwn i fusnesau cymwys o 1 Ebrill 2022 ymlaen, am ba bynnag reswm, dylid ystyried hysbysu busnesau cymwys eu bod yn gymwys i gael y rhyddhad, ac y bydd eu biliau'n cael eu hailgyfrifo.

Pa eiddo fydd yn gallu manteisio ar y rhyddhad?

Yr eiddo a fydd yn gallu manteisio ar y rhyddhad hwn fydd eiddo manwerthu, hamdden a lletygarwch – fel siopau, tafarnau a bwytai, campfeydd, lleoliadau perfformio a gwestai ledled Cymru. Ceir rhagor o fanylion am y meini prawf cymhwysedd a'r eithriadau i'r rhyddhad isod.

Dylai’r rhyddhad gael ei roi i bob busnes cymwys fel gostyngiad yn ei fil ardrethi yn seiliedig ar feddiannaeth rhwng 1 Ebrill 2022 a 31 Mawrth 2023. Cydnabyddir bod rhai achosion lle bydd awdurdod lleol yn cael gwybod yn ôl-weithredol bod newid wedi bod o ran meddiannydd. Mewn achosion o’r fath, os yw’n glir bod y busnes yn meddiannu’r eiddo ar 1 Ebrill 2022 neu wedi hynny, caiff yr awdurdod lleol ddefnyddio’i ddisgresiwn wrth ddyfarnu’r rhyddhad.

At ddibenion y cynllun hwn, bydd eiddo manwerthu fel "siopau, bwytai, caffis a llefydd sy'n gwerthu diod" yn golygu fel a ganlyn (yn ddarostyngedig i feini prawf eraill yn y canllawiau).

Hereditamentau sy'n cael eu defnyddio i werthu nwyddau i aelodau o'r cyhoedd sy'n ymweld â nhw

  • Siopau (fel siop flodau, siop fara, cigydd, groser, siop ffrwythau a llysiau, gemydd, siop bapur ysgrifennu, siop drwyddedig, siop bapur newydd, siop caledwedd, archfarchnad ac ati)
  • Siopau elusen
  • Optegydd
  • Fferyllfeydd
  • Swyddfeydd post
  • Siopau dodrefn neu ystafelloedd arddangos (fel siopau carpedi, gwydr dwbl, drysau garej)
  • Ystafelloedd arddangos ceir neu garafannau
  • Canolfannau gwerthu ceir ail law
  • Marchnadoedd
  • Gorsafoedd petrol
  • Canolfannau garddio
  • Orielau celf (lle mae modd prynu neu logi gwaith celf)

Hereditamentau sy'n cael eu defnyddio i ddarparu'r gwasanaethau canlynol i aelodau o'r cyhoedd sy'n ymweld â nhw

  • Gwasanaethau trin gwallt a harddwch
  • Trwsio esgidiau/torri allweddi
  • Asiantaethau teithio
  • Swyddfeydd tocynnau (ee ar gyfer y theatr)
  • Gwasanaethau sychlanhau 
  • Golchdai
  • Trwsio cyfrifiaduron, setiau teledu neu gyfarpar domestig
  • Trefnwyr angladdau
  • Prosesu lluniau
  • Llogi DVD neu fideo
  • Llogi offer
  • Llogi ceir
  • Swyddfeydd gwerthu a gosod tai

Hereditamentau sy'n cael eu defnyddio i werthu bwyd a/neu ddiod i aelodau o'r cyhoedd sy'n ymweld â nhw

  • Bwytai
  • Bwytai archebu o’r car
  • Siopau tecawê
  • Siopau brechdanau
  • Caffis
  • Siopau coffi
  • Tafarnau
  • Bariau neu fariau gwin

Rydym yn ystyried bod ymgynnull a hamdden yn golygu’r canlynol:

Hereditamentau sy'n cael eu defnyddio i ddarparu chwaraeon, hamdden a chyfleusterau i aelodau o’r cyhoedd sy’n ymweld â nhw (gan gynnwys i wylio gweithgareddau o’r fath) ac i ymgynnull aelodau o’r cyhoedd sy’n ymweld â nhw

  • Meysydd a chlybiau chwaraeon
  • Cyfleusterau chwaraeon a hamdden
  • Campfeydd
  • Atyniadau twristaidd
  • Amgueddfeydd ac orielau celf
  • Plastai a thai hanesyddol
  • Theatrau
  • Lleoliadau cerddoriaeth fyw
  • Sinemâu
  • Clybiau nos

Hereditamentau sy'n cael eu defnyddio i ymgynnull aelodau o’r cyhoedd sy’n ymweld â nhw

  • Neuaddau cyhoeddus
  • Tai clybiau, clybiau a sefydliadau

Rydym yn ystyried bod gwestai, eiddo llety a phreswyl a llety hunanarlwyo yn golygu’r canlynol:

Hereditamentau lle mae’r rhan annomestig yn cael ei defnyddio i ddarparu llety preswyl fel busnes

  • Gwestai, tai llety a thai preswyl
  • Cartrefi gwyliau
  • Parciau a safleoedd carafannau

Ystyriaethau eraill

Er mwyn gallu manteisio ar y rhyddhad, dylai'r hereditament gael ei ddefnyddio'n bennaf neu'n gyfan gwbl at y dibenion cymwys. Yn debyg i fathau eraill o ryddhad, yr hyn sy'n digwydd yn yr eiddo sy'n bwysig yn hytrach na'r ffaith ei fod yn cael ei ddefnyddio. Felly, os yw hereditamentau yn cael eu defnyddio, ond nid yn bennaf neu'n gyfan gwbl ar gyfer y pwrpas cymwys, ni fyddant yn gymwys i gael y rhyddhad. I osgoi amheuaeth, dylid ystyried bod hereditamentau a gaeodd dros dro oherwydd cyngor y Llywodraeth ar COVID-19 yn hereditamentau sydd wedi’u meddiannu at ddibenion y rhyddhad hwn.

Nid oes bwriad i'r rhestr uchod fod yn un gwbl drylwyr, gan y byddai'n amhosibl rhestru'r holl ddefnyddiau manwerthu, hamdden a lletygarwch amrywiol sy'n bodoli. Hefyd bydd rhai enghreifftiau'n codi o ddefnydd cymysg. Fodd bynnag, y bwriad yw rhoi arweiniad i'r awdurdodau lleol ynghylch y mathau o ddefnydd sy'n gymwys am y rhyddhad ym marn Llywodraeth Cymru at y diben hwn. Dylai awdurdodau lleol benderfynu dros eu hunain a yw eiddo penodol nad yw ar y rhestr yn gyffredinol debyg o ran natur i'r uchod. Os felly dylid ei ystyried yn gymwys ar gyfer y cynllun. Yn yr un modd, os nad yw eiddo yn debyg yn gyffredinol i'r rhai ar y rhestr uchod, ni ddylai fod yn gymwys ar gyfer y cynllun.

Mae’r rhyddhad ardrethi yn cael ei roi yn ôl disgresiwn. Os yw awdurdodau lleol yn penderfynu defnyddio’u disgresiwn i beidio â chaniatáu rhyddhad i fusnesau cymwys, efallai y byddent yn dymuno ceisio cyngor cyfreithiol ar gyfer unrhyw faterion cyfreithiol a allai godi o ganlyniad i benderfyniad o’r fath, fesul achos.  

Efallai y bydd busnesau o’r farn eu bod wedi gallu parhau i fasnachu ar lefel sylweddol yn ystod y cyfyngiadau Coronafeirws, ac felly efallai na fyddent yn dymuno gwneud cais am y rhyddhad. 

Y mathau o hereditamentau nad ydynt yn cael eu hystyried yn gymwys i gael Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch

Mae'r rhestr ganlynol yn nodi'r mathau o ddefnydd nad ydynt yn cael eu hystyried gan Lywodraeth Cymru fel defnydd manwerthu, hamdden neu letygarwch at ddiben y cynllun hwn, ac na fyddai'n gymwys i gael y rhyddhad. Fodd bynnag, yr awdurdodau lleol eu hunain fydd yn penderfynu a yw hereditamentau yn debyg o ran natur i'r rhai sy'n cael eu rhestru ac os na fyddent yn gymwys i gael y rhyddhad o dan y cynllun.

Hereditamentau sy'n cael eu defnyddio'n gyfan gwbl neu'n bennaf i ddarparu'r gwasanaethau canlynol i aelodau o'r cyhoedd sy'n ymweld â nhw

  • Gwasanaethau ariannol (ee banciau, cymdeithasau adeiladu, peiriannau arian parod, bureaux de change, benthycwyr diwrnod cyflog, siopau betio, gwystlyddion)
  • Gwasanaethau meddygol (ee milfeddygon, deintyddion, meddygon, osteopathiaid, ceiropractyddion)
  • Gwasanaethau proffesiynol (ee cyfreithwyr, cyfrifwyr, asiantaethau yswiriant, ymgynghorwyr ariannol, tiwtoriaid)
  • Swyddfeydd dosbarthu Swyddfa’r Post
  • Meithrinfeydd dydd
  • Llety cŵn a chathod
  • Clybiau casino a gamblo
  • Cartrefi arddangos ac ystafelloedd marchnata
  • Asiantaethau cyflogaeth

Hereditamentau nad ydynt yn rhesymol hygyrch i aelodau o’r cyhoedd sy’n ymweld â nhw

Os nad yw hereditamentau fel arfer yn rhesymol hygyrch i aelodau o'r cyhoedd sy'n ymweld â nhw, ni fyddant yn gymwys i gael rhyddhad o dan y cynllun, hyd yn oed os oes defnydd atodol o'r hereditament y gellid ystyried ei fod yn syrthio o dan y disgrifiadau yn Pa eiddo fydd yn gallu manteisio ar y rhyddhad?

Hereditamentau gwag

Dylai pob eiddo sy'n wag ar 1 Ebrill 2022 gael ei eithrio rhag y rhyddhad hwn. Fodd bynnag, o dan y cynllun Rhyddhad Eiddo Gwag gorfodol, bydd eiddo gwag yn derbyn gostyngiad o 100% yn ei ardrethi ar gyfer y tri mis cyntaf (ac mewn rhai achosion y chwe mis cyntaf) o fod yn wag.

Hereditamentau sy’n eiddo i awdurdod lleol neu sy’n cael eu rhentu neu eu rheoli ganddo

Mae hereditamentau sy’n eiddo i awdurdod lleol neu sy’n cael eu rhentu neu eu rheoli ganddo, er enghraifft canolfannau ymwelwyr, siopau gwybodaeth i dwristiaid a siopau coffi neu siopau rhoddion sy’n rhan o adeiladau hanesyddol ac yn cael eu rhedeg gan awdurdodau lleol, yn esempt o’r cynllun hwn.

Faint o ryddhad sydd ar gael?

Cyfanswm y rhyddhad a ariennir gan y Llywodraeth sydd ar gael i bob eiddo o dan y cynllun hwn ar gyfer 2022-23 yw 50% o’r bil perthnasol.

Mae hyn yn amodol ar uchafswm o £110,000 i bob busnes ar draws eu holl eiddo yng Nghymru. Dylid cymhwyso’r rhyddhad i’r bil net sy’n weddill ar ôl gweithredu unrhyw ryddhad gorfodol (gan gynnwys elfennau yn ôl disgresiwn a ariennir yn llawn neu’n rhannol gan yr awdurdod lleol) ac unrhyw ryddhad arall yn ôl disgresiwn a ariennir gan grantiau adran 31 (ac eithrio’r rhai pan fo awdurdodau lleol wedi defnyddio eu pwerau rhyddhad ehangach yn ôl disgresiwn a gyflwynwyd gan Ddeddf Lleoliaeth 2011, nad ariennir gan grantiau adran 31). Mae’r mathau o ryddhad y dylid eu cymhwyso cyn y Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch yn cynnwys categorïau o ryddhad yn ôl disgresiwn a oedd ar gael cyn Deddf Lleoliaeth 2011 (e.e. rhyddhad ardrethi ar gyfer elusennau, clybiau chwaraeon amatur cymunedol, sefydliadau nid-er-elw, caledi, eiddo gwag). Caiff awdurdodau lleol ddefnyddio eu pwerau ehangach yn ôl disgresiwn i gynnig gostyngiadau pellach y tu allan i’r cynllun hwn neu ryddhad ychwanegol i hereditamentau o fewn y cynllun. Pan fo awdurdod lleol yn cymhwyso rhyddhad a ariennir yn lleol o dan adran 47 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1998, dylid ei gymhwyso ar ôl y Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch.

Bydd cymhwysedd ar gyfer y cynllun rhyddhad ardrethi a’r rhyddhad ei hun yn cael ei asesu a’i gyfrifo ar sail ddyddiol. Dylid defnyddio’r fformiwla ganlynol wrth benderfynu ar swm y rhyddhad ardrethi i’w ganiatáu ar gyfer hereditament penodol yn ystod blwyddyn ariannol.
 
Swm y rhyddhad i’w ganiatáu = V/2
 
V yw’r tâl dyddiol am yr hereditament ar gyfer y diwrnod trethadwy ar ôl gweithredu unrhyw ryddhad gorfodol ac unrhyw      ryddhad arall yn ôl disgresiwn (ac eithrio’r rhai pan fo awdurdodau lleol wedi defnyddio eu pwerau rhyddhad yn ôl disgresiwn a gyflwynwyd gan Ddeddf Lleoliaeth 2011, nad ariennir gan grantiau adran 31).
 
Dylid cyfrifo hyn gan anwybyddu unrhyw addasiadau blwyddyn flaenorol i’r atebolrwydd sy'n syrthio ar y diwrnod.
Bydd busnesau sy'n defnyddio mwy nag un eiddo yn gallu cael Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch ar gyfer pob eiddo cymwys, o fewn uchafswm o £110,000 i bob busnes ar draws Cymru.

Gall busnes gydag un eiddo a rhwymedigaeth o fwy na £220,000 yn weddill (ar ôl unrhyw ryddhad) ddefnyddio dyraniad cyfan y rhyddhad. Ni fydd unrhyw fusnesau eraill sy’n eiddo i’r busnes hwnnw yn gymwys o dan y cynllun.
Mae eiddo manwerthu, hamdden a lletygarwch sydd wedi’i eithrio o’r Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach oherwydd y rheolau amlfeddiannaeth yn gymwys am y cynllun rhyddhad hwn, o fewn yr uchafswm.

Newidiadau i hereditamentau presennol gan gynnwys newid meddiant


Bydd eiddo gwag sy'n dechrau cael ei ddefnyddio ar ôl 1 Ebrill 2022 yn gymwys i gael y rhyddhad hwn o ddyddiad ei feddiannu.

Os oes newid meddiant yn ystod y flwyddyn ariannol, ar ôl i'r rhyddhad gael ei ddarparu i'r hereditament, bydd y meddiannydd newydd yn gymwys i dderbyn y rhyddhad ar sail pro-rata os ydynt yn gweithredu yn y sectorau manwerthu, hamdden neu letygarwch. Bydd hyn yn cael ei gyfrifo yn seiliedig ar weddill y dyddiau meddiannu gan ddefnyddio’r fformiwla yn yr adran Faint o ryddhad sydd ar gael?

Dylid gweithredu’r gostyngiad yn ddyddiol gan ddefnyddio’r fformiwla a nodir uchod. Dylai hereditament a grëwyd o ganlyniad i raniad neu uniad yn ystod y flwyddyn ariannol, neu pan fo newid defnydd wedi bod, gael ei ystyried o’r newydd ar gyfer y gostyngiad ar y diwrnod hwnnw.

Cymorth Gwladwriaethol / Cyfundrefn Rheoli Cymorthdaliadau

Yn dilyn diwedd cyfnod pontio ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd ar 31 Rhagfyr 2020, mae rheoliadau Cymorth Gwladwriaethol yr UE yn berthnasol mewn rhai amgylchiadau yn unig. Gan nad yw’r rhyddhad wedi’i ariannu gan gronfa weddilliol yr UE, nid yw rheoliadau Cymorth Gwladwriaethol yr UE bellach yn berthnasol ar gyfer y cynllun hwn. O 1 Ionawr 2021, daeth Trefn Gymhorthdal y DU i rym. Mae Llywodraeth Cymru o’r farn bod y cynllun y tu hwnt i gwmpas unrhyw gytundebau masnachu rhyngwladol gan fod mesurau yn canolbwyntio yn lleol yng Nghymru.

Enghraifft o Ffurflen Ddatganiad

Mae enghraifft o ffurflen ddatganiad wedi’i hamgáu yn Atodiad 1 i awdurdodau lleol ei defnyddio wrth ddatblygu eu ffurflenni eu hunain i’w cyhoeddi a’u cyflwyno i fusnesau.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.