BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

CMW Painting Services Ltd

Mae Busnes Cymru wedi cefnogi fy uchelgais i fod yn sefydliad cynaliadwy a chymdeithasol ymwybodol.

Roedd Ceri Williamson, peintiwr ac addurnwr cymwysedig, yn awyddus i ddechrau ei busnes ei hun.

Er mwyn sicrhau y byddai modd i’r busnes ddechrau masnachu, gofynnodd Ceri am gyngor gan Busnes Cymru. Trafododd wahanol agweddau ar ei syniad busnes gyda’i chynghorydd arbenigol, yn cynnwys y cynllun busnes, datblygu rhagolygon, strategaeth farchnata, a’r opsiynau cyllido a oedd ar gael.

Ar ôl cael arweiniad gan ei chynghorydd busnes, rydym yn falch o glywed bod Ceri wedi dechrau ar ei siwrnai trwy’r byd busnes erbyn hyn, fel unig gyfarwyddwr CMW Painting Services Ltd!

Er mwyn gwneud yn siŵr bod ei busnes yn gweithredu mewn modd cynaliadwy, mae Ceri wedi ymrwymo i’n Haddewid Twf Gwyrdd, gan ddatgan y bydd ei busnes yn cymryd camau i sicrhau y defnyddir cludiant effeithlon ac y bydd y busnes yn gymdeithasol gyfrifol tuag at y staff.

Ymhellach, mae hi wedi ymrwymo i’n Haddewid Cydraddoldeb, a bydd Ceri yn cofrestru fel cyflogwr  Cyflog Byw achrededig a chyflogwr Hyderus o ran Anabledd.

Ydych chi angen cyngor ynglŷn â dechrau eich busnes? Cysylltwch i gael rhagor o wybodaeth Mynnwch Gymorth | Business Wales (gov.wales)

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.