BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Farrens

Farrens

Cwmni hyfforddi a chefnogi cynhyrchiant yn mynd o nerth i nerth yn ystod y pandemig Covid-19, gyda chymorth gan Busnes Cymru

Wedi'i sefydlu gan Claire Farren fel ateb i'w hangen am well cydbwysedd bywyd a gwaith, mae Farrens yn fusnes wedi'i leoli ym Mhen-y-bont ar Ogwr sy'n arbenigo mewn symleiddio prosesau a herio meddylfryd cwmnïau. Cysylltodd Claire â gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru i gael arweiniad ar sut i fynd â'r busnes i'r lefel nesaf ac ers hynny mae hi wedi llwyddo i ddod o hyd i gyllid ac ennill contractau newydd.

  • Cyngor ar gynllunio busnes, llif arian, marchnata, contractau a phrisio
  • Cymorth i oresgyn rhwystrau twf a hyder
  • 3 o gontractau wedi'u hennill gydag Awdurdodau Lleol a Llywodraeth Cymru

Cyflwyniad i'r busnes

Gyda dros 15 mlynedd o brofiad yn gweithio gyda'r C Suite o seneddau datganoledig i gorfforaethau byd-eang ac awdurdodau lleol, sefydlodd Claire Farren gwmni Farrens i helpu uwch arweinwyr i oresgyn gorflino, adennill dylanwad a chynhyrchiant uchel, tra'n disodli heriau sy'n rhwystrau i dwf.

Mae Farrens hefyd yn arbenigo mewn gweithio gyda chynorthwywyr a staff cefnogi i newid arddulliau gweithio a galluogi cydbwysedd bywyd a gwaith cadarnhaol drwy ddefnyddio offer TG arloesol, strwythurau pwerus ar gyfer newid a ffiniau clir.

Pam wnaethoch chi benderfynu dechrau eich busnes eich hun?

Penderfynais ddechrau fy musnes fy hun, gan ein bod yn awyddus i'n teulu dyfu. Roeddwn i'n awyddus i gael awyrgylch gwaith hyblyg lle gallwn i ddewis yr oriau roeddwn i'n eu gweithio a gallu gollwng a chasglu'r plant o'r ysgol yn gyfforddus. Roeddwn i wrth fy modd â'm rôl fel gweithiwr, felly dewisais barhau â hyn ond mewn cyd-destun rhithiol, a fyddai'n gallu rhoi'r hyblygrwydd yr oeddwn yn edrych amdano i mi.

Pa heriau a wyneboch?

Yr her fwyaf a wynebais oedd cael yr hyder mai'r penderfyniadau'r oeddwn yn eu gwneud a'r llwybrau'r oeddwn yn dewis eu dilyn oedd y "rhai cywir" i mi. Ar ôl gweithio i gwmnïau corfforaethol erioed, roeddwn wedi arfer cael cymaint o bobl o gwmpas a fyddai'n helpu gwneud penderfyniadau ac yn creu amgylchedd cydweithredol. Bellach roeddwn ar fy mhen fy hun ac yn naturiol, rydych yn cwestiynu eich hun ac yn ceisio rhwydwaith dibynadwy i'm helpu ac i'm harwain.

Cymorth Busnes Cymru

Mae Claire wedi bod yn cydweithio gyda chynghorydd Busnes Cymru, Eve Goldsbury, ers 2018 pan dderbyniodd hi gefnogaeth gyda'i chynllun busnes a'i chynllun ariannol. Yn fwy diweddar, mae Eve wedi cefnogi Claire wrth iddi oresgyn ei rhwystrau twf ei hun yn ystod Covid-19.

Hefyd, datblygodd Eve a Claire gynllun arallgyfeirio ar gyfer Farrens yn ystod y pandemig, gan alluogi'r busnes i ennill dau gontract newydd gydag Awdurdodau Lleol ac un gyda Senedd Cymru er mwyn darparu hyfforddiant, arweiniad a mentora digidol.

Canlyniadau

  • Cyngor ar gynllunio busnes, llif arian, marchnata, contractau a phrisio
  • Cymorth i oresgyn rhwystrau twf a hyder
  • 3 o gontractau wedi'u hennill gydag Awdurdodau Lleol a Llywodraeth Cymru

Mae Eve wedi bod yn gynghorydd a chefnogwr gwych i mi dros ychydig o flynyddoedd bellach. Mae hi wedi bod o gymorth i mi ddatblygu fy ngwybodaeth fusnes a'm hyder gyda phenderfyniadau roedd yn rhaid i mi eu gwneud neu lwybrau rwyf wedi eu dewis ar hyd y ffordd.

Mae ei chyngor busnes wedi rhoi sgiliau uwch i mi, wedi fy natblygu fel arweinydd busnes ac wedi fy ngalluogi i dyfu o ran hyder. Mae hi wedi fy herio, fy nysgu ac wedi caniatáu i mi feddwl mewn ffordd wahanol am fy musnes. Mae hi'n darparu man diogel i mi archwilio fy mhroses meddwl a chynllunio gweithdrefnau i dyfu fy musnes a datblygu fy hun!

Cynlluniau a dyheadau ar gyfer y dyfodol

Mae hwn yn faes sy'n esblygu o hyd i mi, ac rwyf yn werthfawrogol iawn o fod yn y sefyllfa hon. Rwyf yn gweithio'n galed i ailddiffinio'r gwasanaeth sydd gennyf i'w gynnig wrth i'm harbenigedd dyfu a datblygu. Hoffwn fod yn arbenigwr cynhyrchiant adnabyddus ac ar hyn o bryd rwyf yn adeiladu cynllun i gefnogi'r uchelgais hon.

Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant am sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl eraill fel chithau i ddechrau neu dyfu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/case-studies neu dilynwch @_businesswales / @_busnescymru ar Twitter.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.