BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Hanes llwyddiant

Mana Design

Robin Stanley and Dan Rickards

Stiwdio dylunio graffeg arloesol yn agor ei ddrysau yn Aberteifi, gyda chefnogaeth busnes newydd gan Fusnes Cymru.

Sefydlwyd Mana Design gan Robin Stanley a Dan Rickards, dylunwyr graffeg, gyda’r nod o ddarparu gwasanaethau dylunio graffeg arloesol. Ar ôl mynychu gweithdy busnesau newydd Busnes Cymru ar ddechrau mis Mawrth ac elwa ar gefnogaeth ymgynghorol bellach ar sut i ddechrau arni, llwyddodd yr entrepreneuriaid i ddechrau’r busnes yng nghanol tref Aberteifi ym mis Hydref 2020.  

  • Dechrau da.
  • Wedi creu 2 o swyddi.
  • Wedi sicrhau contract mawr i ddarparu gwasanaethau dylunio graffeg i’r holl ysgolion yn y sir.

Cyflwyniad i’r busnes

Wedi’i lansio gan ddylunwyr profiadol, Robin Stanley a Daniel Rickards yn Aberteifi, mae Mana Design yn asiantaeth dylunio graffeg newydd, sy’n defnyddio technoleg o’r radd flaenaf i reoli brandiau, dylunio ac argraffu 3D, yn ogystal â gwasanaethau argraffu a dylunio gwefannau cyffredinol.

Cawsom sgwrs gyda Dan a Rob i weld sut y gwnaethant sefydlu eu busnes eu hun yng nghanol pandemig.

Pam benderfynoch chi sefydlu eich busnes eich hun? 

Rydym yn ddau unigolyn creadigol o arfordir gorllewin Cymru, ac rydym yn credu nad oes angen talu’n ddrud iawn am ddylunio da. Ar ôl treulio bron i ddau ddegawd yn gweithio’n llawrydd yn y diwydiant dylunio ac argraffu a llawer o gyfleoedd nad oeddynt yn hollol addas, penderfynom fwrw ati a dechrau busnes ein hun. 

Dechreuom drwy gydweithio ar brosiectau llawrydd, gan arbenigo mewn gwasanaethau dylunio graffeg. Roeddem bob amser yn anelu at y posibilrwydd o agor siop argraffu ochr yn ochr â’n gwaith dylunio, a gallu cynnig gwasanaeth siop ‘un stop’ i gleientiaid. Ar ôl ychydig o flynyddoedd o gynllunio a sawl ymdrech i gymryd drosodd busnesau presennol, daethom o hyd i’r lle perffaith o’r diwedd, a sicrhau cyllid. Ond bu i’r perchennog ein gadael ni i lawr ar y funud olaf. Bryd hynny, penderfynom weld a oedd ffordd arall o droi ein syniad yn realiti. 

Ar ôl tua chant o syniadau, un pwyllgor parc sglefrio a thua blwyddyn yn ddiweddarach, dechreuom sylweddoli bod y dirwedd ddylunio’n newid yn gyflym. Gyda thechnolegau a phrosesau newydd yn dod i’r amlwg, dechreuom arbrofi gydag argraffu 3D a dylunio Realiti Estynedig (AR). Gwelsom gyfle i wneud yr hyn roeddem wedi breuddwydio amdano erioed, sef agor ein busnes ein hun a gwneud rhywbeth sydd yn agos at ein calonnau. Roedd uno ein profiad dylunio ac argraffu gyda’r datblygiadau modern hyn yn rhoi mantais i ni dros gystadleuwyr lleol, ac yn rhoi’r posibilrwydd i ni o sefydlu ein hunain mewn marchnad gystadleuol tu hwnt.

Pa heriau wnaethoch chi eu hwynebu?

Ar y dechrau, roeddem wedi adeiladu enw da’n lleol fel dylunwyr ac roedd y gwaith yn llifo i mewn yn rheolaidd wrth i ni ddatblygu ochr argraffu’r busnes. Gan ddefnyddio ein rhwydwaith o gysylltiadau hyd eithaf ein gallu, roedd gennym ychydig o opsiynau gwahanol o ran prosiectau a chyllid. Roedd gennym gwmni cyllid asedau y tu ôl i ni; roeddem wedi gwneud cais am grantiau a hyd yn oed wedi siarad â buddsoddwyr preifat. Roedd pob un ohonynt yn awyddus ac yn gallu helpu, gan weld y potensial a bod yn bositif iawn am y trywydd yr oeddem arno. Roeddem wedi dod o hyd i’r lleoliad perffaith ar gyfer ein stiwdio, roeddem wedi sicrhau’r holl offer ac yn barod i fynd. Yn anffodus, roedd yr ychydig fisoedd nesaf yn hynod heriol. Bu i bob llwybr y gwnaethom ei archwilio ddisgyn yn ddarnau am resymau oedd yn hollol y tu hwnt i’n rheolaeth. Ond roeddem wedi dod mor bell â hyn, ac felly nid oeddem am roi’r ffidil yn y to cyn cychwyn. A dyna pryd daeth feirws bach o’r enw Covid-19 i’r dref!

Roedd gennym fwy o waith i’w wneud. Nid yw agor busnes newydd fyth yn hawdd, heb sôn am pan mae pandemig yn cymryd drosodd y blaned. Felly ar ôl llawer o bendroni, penderfynom mai nawr oedd yr amser, pandemig neu beidio. Felly dyma ni, ychydig o fisoedd yn ddiweddarach ac rydym yn falch o gyhoeddi bod ein stiwdio wedi agor ei ddrysau ym mis Hydref 2020, ac nid ydym wedi edrych yn ôl ers hynny. Wel, heblaw am edrych yn ôl i feddwl pam nad oeddem wedi mynd yn bellach yn gynt. Y gwir yw, bydd llawer o bobl yn rhoi rhesymau i chi i beidio â gwneud pethau, ond ni fydd llawer yn dweud wrthych am fynd allan a gwneud rhywbeth.

Sut wnaethon ni helpu?

  • Dechrau da.
  • Wedi creu 2 o swyddi.
  • Wedi sicrhau contract mawr i ddarparu gwasanaethau dylunio graffeg i bob ysgol yn y sir

Ar ôl mynychu gweithdy dechrau busnes Busnes Cymru ar ddechrau 2020 lle cawsant gwrdd â phobl o’r un anian, magu hyder a phenderfynu mynd ar ôl eu breuddwydion, dechreuodd Rob a Dan weithio gyda’r ymgynghorydd busnes Clive Davies, er mwyn bwrw ymlaen â’u syniadau. 

Helpodd Clive nhw gyda’u cynllun busnes, gan gynnwys cynorthwyo gyda model prisio’r busnes, ymchwil y farchnad ac adnabod marchnadoedd targed. Rhoddodd Clive gefnogaeth hefyd ar ragolygon llif arian a chais grant Arfor: 

“Unwaith i ni benderfynu mynd amdani, dysgom fod ar bawb angen help weithiau, waeth faint o waith maent yn gallu ei wneud ar eu pen eu hunain. Gwnaethom geisio cyngor gan bobl oedd yn fwy profiadol mewn rhai meysydd na ni. Cysylltom â Busnes Cymru i’n helpu i ddilysu a gwella ein syniadau, pennu cynllun busnes yn gywir, ac yn bwysicach na dim (neu dyma’r oeddem yn ei feddwl ar y pryd!) i’n helpu i sicrhau cyllid i fynd ati ychydig yn gynt. 

Cawsom ymgynghorydd busnes, Clive Davies, a’n rhoddodd ni ar y trywydd iawn ar unwaith. Ar ôl yr ychydig gyfarfodydd cyntaf, roeddem yn gallu dechrau ysgrifennu ein cynllun busnes yn fanylach a thorri pethau i lawr o bersbectif profiadol. Roedd hyn yn golygu ein bod yn gallu dechrau gosod targedau bychain, cyflawnadwy, i wthio ein busnes allan o’r ystafell sbâr ac i mewn i’n stiwdio ein hunain. 

Aethom i weithdy Busnes Cymru yng Nghastell Aberteifi ac ar un o’r sleidiau cyntaf un, gwelsom gwmni yr oeddem wedi dylunio iddynt o’r blaen. Gwelsom bobl eraill yn cael trafferth i egluro eu syniadau busnes, yn ansicr ohonyn nhw eu hunain neu hyfywedd y cynlluniau.  Roedd yn ddefnyddiol iawn i ni o ran gweld ble’r oeddem fel busnes. Bu i’r hwb hyder hwn a ddaeth o weld ein gwaith fel enghraifft ar y sgrin, a gweld yr holl berchnogion busnes eraill yn dal i bendroni, wneud i ni sylweddoli bod angen i ni symud ymlaen. Os nid nawr, pryd?

Drwy gyngor Clive a’r gweithdai ac ymchwil personol, rydym wedi gallu deall a gweithredu cymaint o agweddau ar y busnes yr oeddem wedi’u methu, neu agweddau nad oeddem yn llwyr ymwybodol ohonynt.”

Cynlluniau ac uchelgeisiau i’r dyfodol

Dyma’r rhan o’r stori sydd eisoes wedi’i hysgrifennu. Ar hyn o bryd, rydym yn ymchwilio ffyrdd arloesol o ymgorffori technoleg newydd i fywyd bob dydd. Rydym yn credu rhwng technoleg D3, AR a Realiti Rhithwir (VR), bydd dylunio’n dod yn llawer mwy amlwg dros y blynyddoedd nesaf. Un o’n prif dargedau ar gyfer y dyfodol yw gallu cynnig cyfle i bawb i ddatblygu sgiliau newydd a defnyddio offer ym meysydd argraffu a dylunio. Ond mae hynny ymhell yn y dyfodol. Ar hyn o bryd, rydym yn canolbwyntio ar fireinio ein hystod o arbenigeddau, gan gynnwys:

  • Datblygu hunaniaeth weledol a safonau brand.
  • Strategaeth Brand.
  • Dylunio argraffu.
  • Dylunio graffeg.
  • Dylunio ac argraffu 3D.

Rydym wastad wedi bod yn awyddus i wella a gwthio ein cyfyngiadau diwylliannol a’n cyfyngiadau ein hunain, ond y nod yw bod y fersiwn orau ohonom ni ein hunain pob dydd. Mae’r holl welliannau bychain hynny’n troi i fod yn rhywbeth mawr.

Ein nod yw gwthio ffiniau posibilrwydd, herio ein hunain i ddylunio byd gwell, un cam ar y tro. Ac rydym yn gwybod mai dyma ddechrau ein taith, rydym wastad yn chwilio am ffyrdd i ehangu ein gorwelion personol a phroffesiynol. Drwy ein hangerdd, gwaith caled a gwydnwch llwyr, rydym yn credu y gallwn fod yn llwyddiannus, neu ddelio gyda’n methiannau o leiaf. 

Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant o ran sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl fel chi i ddechrau neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch @_busnescymru ar Twitter.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.
We welcome calls in Welsh.