Stiwdio dylunio graffeg arloesol yn agor ei ddrysau yn Aberteifi, gyda chefnogaeth busnes newydd gan Fusnes Cymru.
Sefydlwyd Mana Design gan Robin Stanley a Dan Rickards, dylunwyr graffeg, gyda’r nod o ddarparu gwasanaethau dylunio graffeg arloesol. Ar ôl mynychu gweithdy busnesau newydd Busnes Cymru ar ddechrau mis Mawrth ac elwa ar gefnogaeth ymgynghorol bellach ar sut i ddechrau arni, llwyddodd yr entrepreneuriaid i ddechrau’r busnes yng nghanol tref Aberteifi ym mis Hydref 2020.
- Dechrau da.
- Wedi creu 2 o swyddi.
- Wedi sicrhau contract mawr i ddarparu gwasanaethau dylunio graffeg i’r holl ysgolion yn y sir.
Cyflwyniad i’r busnes
Wedi’i lansio gan ddylunwyr profiadol, Robin Stanley a Daniel Rickards yn Aberteifi, mae Mana Design yn asiantaeth dylunio graffeg newydd, sy’n defnyddio technoleg o’r radd flaenaf i reoli brandiau, dylunio ac argraffu 3D, yn ogystal â gwasanaethau argraffu a dylunio gwefannau cyffredinol.
Cawsom sgwrs gyda Dan a Rob i weld sut y gwnaethant sefydlu eu busnes eu hun yng nghanol pandemig.
Pam benderfynoch chi sefydlu eich busnes eich hun?
Rydym yn ddau unigolyn creadigol o arfordir gorllewin Cymru, ac rydym yn credu nad oes angen talu’n ddrud iawn am ddylunio da. Ar ôl treulio bron i ddau ddegawd yn gweithio’n llawrydd yn y diwydiant dylunio ac argraffu a llawer o gyfleoedd nad oeddynt yn hollol addas, penderfynom fwrw ati a dechrau busnes ein hun.
Dechreuom drwy gydweithio ar brosiectau llawrydd, gan arbenigo mewn gwasanaethau dylunio graffeg. Roeddem bob amser yn anelu at y posibilrwydd o agor siop argraffu ochr yn ochr â’n gwaith dylunio, a gallu cynnig gwasanaeth siop ‘un stop’ i gleientiaid. Ar ôl ychydig o flynyddoedd o gynllunio a sawl ymdrech i gymryd drosodd busnesau presennol, daethom o hyd i’r lle perffaith o’r diwedd, a sicrhau cyllid. Ond bu i’r perchennog ein gadael ni i lawr ar y funud olaf. Bryd hynny, penderfynom weld a oedd ffordd arall o droi ein syniad yn realiti.
Ar ôl tua chant o syniadau, un pwyllgor parc sglefrio a thua blwyddyn yn ddiweddarach, dechreuom sylweddoli bod y dirwedd ddylunio’n newid yn gyflym. Gyda thechnolegau a phrosesau newydd yn dod i’r amlwg, dechreuom arbrofi gydag argraffu 3D a dylunio Realiti Estynedig (AR). Gwelsom gyfle i wneud yr hyn roeddem wedi breuddwydio amdano erioed, sef agor ein busnes ein hun a gwneud rhywbeth sydd yn agos at ein calonnau. Roedd uno ein profiad dylunio ac argraffu gyda’r datblygiadau modern hyn yn rhoi mantais i ni dros gystadleuwyr lleol, ac yn rhoi’r posibilrwydd i ni o sefydlu ein hunain mewn marchnad gystadleuol tu hwnt.
Pa heriau wnaethoch chi eu hwynebu?
Ar y dechrau, roeddem wedi adeiladu enw da’n lleol fel dylunwyr ac roedd y gwaith yn llifo i mewn yn rheolaidd wrth i ni ddatblygu ochr argraffu’r busnes. Gan ddefnyddio ein rhwydwaith o gysylltiadau hyd eithaf ein gallu, roedd gennym ychydig o opsiynau gwahanol o ran prosiectau a chyllid. Roedd gennym gwmni cyllid asedau y tu ôl i ni; roeddem wedi gwneud cais am grantiau a hyd yn oed wedi siarad â buddsoddwyr preifat. Roedd pob un ohonynt yn awyddus ac yn gallu helpu, gan weld y potensial a bod yn bositif iawn am y trywydd yr oeddem arno. Roeddem wedi dod o hyd i’r lleoliad perffaith ar gyfer ein stiwdio, roeddem wedi sicrhau’r holl offer ac yn barod i fynd. Yn anffodus, roedd yr ychydig fisoedd nesaf yn hynod heriol. Bu i bob llwybr y gwnaethom ei archwilio ddisgyn yn ddarnau am resymau oedd yn hollol y tu hwnt i’n rheolaeth. Ond roeddem wedi dod mor bell â hyn, ac felly nid oeddem am roi’r ffidil yn y to cyn cychwyn. A dyna pryd daeth feirws bach o’r enw Covid-19 i’r dref!
Roedd gennym fwy o waith i’w wneud. Nid yw agor busnes newydd fyth yn hawdd, heb sôn am pan mae pandemig yn cymryd drosodd y blaned. Felly ar ôl llawer o bendroni, penderfynom mai nawr oedd yr amser, pandemig neu beidio. Felly dyma ni, ychydig o fisoedd yn ddiweddarach ac rydym yn falch o gyhoeddi bod ein stiwdio wedi agor ei ddrysau ym mis Hydref 2020, ac nid ydym wedi edrych yn ôl ers hynny. Wel, heblaw am edrych yn ôl i feddwl pam nad oeddem wedi mynd yn bellach yn gynt. Y gwir yw, bydd llawer o bobl yn rhoi rhesymau i chi i beidio â gwneud pethau, ond ni fydd llawer yn dweud wrthych am fynd allan a gwneud rhywbeth.
Sut wnaethon ni helpu?
- Dechrau da.
- Wedi creu 2 o swyddi.
- Wedi sicrhau contract mawr i ddarparu gwasanaethau dylunio graffeg i bob ysgol yn y sir
Ar ôl mynychu gweithdy dechrau busnes Busnes Cymru ar ddechrau 2020 lle cawsant gwrdd â phobl o’r un anian, magu hyder a phenderfynu mynd ar ôl eu breuddwydion, dechreuodd Rob a Dan weithio gyda’r ymgynghorydd busnes Clive Davies, er mwyn bwrw ymlaen â’u syniadau.
Helpodd Clive nhw gyda’u cynllun busnes, gan gynnwys cynorthwyo gyda model prisio’r busnes, ymchwil y farchnad ac adnabod marchnadoedd targed. Rhoddodd Clive gefnogaeth hefyd ar ragolygon llif arian a chais grant Arfor:
“Unwaith i ni benderfynu mynd amdani, dysgom fod ar bawb angen help weithiau, waeth faint o waith maent yn gallu ei wneud ar eu pen eu hunain. Gwnaethom geisio cyngor gan bobl oedd yn fwy profiadol mewn rhai meysydd na ni. Cysylltom â Busnes Cymru i’n helpu i ddilysu a gwella ein syniadau, pennu cynllun busnes yn gywir, ac yn bwysicach na dim (neu dyma’r oeddem yn ei feddwl ar y pryd!) i’n helpu i sicrhau cyllid i fynd ati ychydig yn gynt.
Cawsom ymgynghorydd busnes, Clive Davies, a’n rhoddodd ni ar y trywydd iawn ar unwaith. Ar ôl yr ychydig gyfarfodydd cyntaf, roeddem yn gallu dechrau ysgrifennu ein cynllun busnes yn fanylach a thorri pethau i lawr o bersbectif profiadol. Roedd hyn yn golygu ein bod yn gallu dechrau gosod targedau bychain, cyflawnadwy, i wthio ein busnes allan o’r ystafell sbâr ac i mewn i’n stiwdio ein hunain.
Aethom i weithdy Busnes Cymru yng Nghastell Aberteifi ac ar un o’r sleidiau cyntaf un, gwelsom gwmni yr oeddem wedi dylunio iddynt o’r blaen. Gwelsom bobl eraill yn cael trafferth i egluro eu syniadau busnes, yn ansicr ohonyn nhw eu hunain neu hyfywedd y cynlluniau. Roedd yn ddefnyddiol iawn i ni o ran gweld ble’r oeddem fel busnes. Bu i’r hwb hyder hwn a ddaeth o weld ein gwaith fel enghraifft ar y sgrin, a gweld yr holl berchnogion busnes eraill yn dal i bendroni, wneud i ni sylweddoli bod angen i ni symud ymlaen. Os nid nawr, pryd?
Drwy gyngor Clive a’r gweithdai ac ymchwil personol, rydym wedi gallu deall a gweithredu cymaint o agweddau ar y busnes yr oeddem wedi’u methu, neu agweddau nad oeddem yn llwyr ymwybodol ohonynt.”
Cynlluniau ac uchelgeisiau i’r dyfodol
Dyma’r rhan o’r stori sydd eisoes wedi’i hysgrifennu. Ar hyn o bryd, rydym yn ymchwilio ffyrdd arloesol o ymgorffori technoleg newydd i fywyd bob dydd. Rydym yn credu rhwng technoleg D3, AR a Realiti Rhithwir (VR), bydd dylunio’n dod yn llawer mwy amlwg dros y blynyddoedd nesaf. Un o’n prif dargedau ar gyfer y dyfodol yw gallu cynnig cyfle i bawb i ddatblygu sgiliau newydd a defnyddio offer ym meysydd argraffu a dylunio. Ond mae hynny ymhell yn y dyfodol. Ar hyn o bryd, rydym yn canolbwyntio ar fireinio ein hystod o arbenigeddau, gan gynnwys:
- Datblygu hunaniaeth weledol a safonau brand.
- Strategaeth Brand.
- Dylunio argraffu.
- Dylunio graffeg.
- Dylunio ac argraffu 3D.
Rydym wastad wedi bod yn awyddus i wella a gwthio ein cyfyngiadau diwylliannol a’n cyfyngiadau ein hunain, ond y nod yw bod y fersiwn orau ohonom ni ein hunain pob dydd. Mae’r holl welliannau bychain hynny’n troi i fod yn rhywbeth mawr.
Ein nod yw gwthio ffiniau posibilrwydd, herio ein hunain i ddylunio byd gwell, un cam ar y tro. Ac rydym yn gwybod mai dyma ddechrau ein taith, rydym wastad yn chwilio am ffyrdd i ehangu ein gorwelion personol a phroffesiynol. Drwy ein hangerdd, gwaith caled a gwydnwch llwyr, rydym yn credu y gallwn fod yn llwyddiannus, neu ddelio gyda’n methiannau o leiaf.
Os hoffech ddarllen rhagor o straeon llwyddiant o ran sut mae Busnes Cymru wedi helpu pobl fel chi i ddechrau neu dyfu eu busnesau, ewch i https://businesswales.gov.wales/cy/astudiaethau-achos neu dilynwch @_busnescymru ar Twitter.